Llefydd i fwyta
Caffi Blas Y Waun
Mae Caffi Blas y Waun yn darparu bwyd blasus a chroeso cynnes! Mae'r caffi wedi ei leoli ar safle Antur Waunfawr, yng nghanol gerddi prydferth. Mae yma hefyd siop grefftau yn gwerthu anrhegion, a pharc chwarae hygyrch.
Gwesty Tynycornel
Mae yna fwyty gwych yn Tynycornel, y cogydd yn creu bwydlenni tymhorol rhagorol, gydag amrywiaeth o ddanteithion lleol i ategu prydau poblogaidd Prydeinig. Gallant hefyd ddarparu ar gyfer unrhyw ofynion dietegol sydd gennych.
Hotel Portmeirion
Mae'r Bwyty Art Deco arobryn yn prysur wneud enw da am ei arlwy arloesol uchelgeisiol. Dewch i fwynhau Cinio neu De Prynhawn ar y Teras neu i gael blas ar y fwydlen table d'Hote gyda'r nos.
Y Madryn
Ar ôl iddo fod ar gau am sawl blwyddyn, prynwyd Y Madryn yn 2021 gan bump ffrind lleol, gyda'r weledigaeth o greu canolbwynt cymunedol a'i ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau lleol yn ogystal â gweithredu fel tafarn, caffi a bwyty.
Palé Hall
Wedi'i wreiddio yng nghynnyrch lleol gwych y rhanbarth, gan ddefnyddio'r cynhwysion gorau lleol, organic, lle bo hynny'n bosibl, mae'r cynnig bwyta gwych yn Palé Hall yn dymhorol ac yn ffres, gan rannu dylanwadau o bob rhan o'r byd ond yn seiliedi