Atyniadau
Llŷn Golf
Gweithgaredd
Croeso i'r unig gwrs golff talu a chwarae 9 twll ym Mhen Llŷn, wedi'i leoli ger cyrchfan arfordirol Abersoch. Mae'r cyfleuster golff pob tywydd hwn yn addas ar gyfer dechreuwyr a golffwyr profiadol.
Pont Minllyn
Atyniadau
Pont gul ar draws Afon Dyfi yn Ninas Mawddwy. Adeiladwyd gan Dr John Davies ar ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg.
RSPB Conwy
Atyniadau
Mae gwarchodfa natur RSPB Conwy yn gorstir ar lan ddwyreiniol aber Conwy, a grëwyd o ddeunydd a gloddwyd wrth adeiladu twnnel ffordd yr A55. Mae bellach yn gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt, ac yn lle gwych i gyflwyno teuluoedd i natur.
Saethu Coed Airsoft
Atyniadau
Mae Saethu Coed Airsoft wedi ei leoli mewn coedwig yn Rhoshirwaun ger Aberdaron. Gêm wych ar gyfer criw o ffrindiau, teuluoedd, partion penblwydd a bondio tîm criw gwaith.