Atyniadau
Plas Heli
Darparwr Gweithgareddau
Dysgwch hwylio, caiacio neu padlofyrddio ar eich sefyll ym Mhlas Heli, Academi Hwylio Cenedlaethol Cymru. Edrychwch ar y wefan ar gyfer y dyddiadau sydd i ddod ar gyfer yr holl weithgareddau hyn.
Rheilffordd Llyn Padarn
Atyniadau
Mae’r lein fach hyfryd hon yn rhedeg wrth ymyl Llyn Padarn ym Mharc Gwledig Padarn, am siwrne yna-ac-yn ôl o oddeutu pum milltir. Beth am gael picnic wrth y llyn yng Nghei Llydan, neu ymweld â’r Amgueddfa Lechi yng Ngilfach Ddu?
Rheilffordd Talyllyn
Atyniadau
Mae Rheilffordd Talyllyn yn reilffordd gul stêm hanesyddol, wedi ei lleoli ym mhrydferthwch cefn gwlad Canolbarth Cymru.
Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri
Atyniadau
Rydym wedi ailagor yma yn Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri ac rydym yn falch iawn o rannu ein pedwar pecyn profiad newydd!
Cymerwch olwg ar ein set newydd o brofiadau ar gyfer y Gwanwyn / Haf hwn:
Rhos y Gwaliau Outdoor Education Centre
Darparwr Gweithgareddau
Mae Canolfan Addysg Awyr Agored Rhos y Gwaliau yn cynnig ystod eang o weithgareddau, a gallant lunio rhaglen unigryw i gwrdd ag anghenion eich grŵp a hyd eich arhosiad.
Sygun Copper Mine
Atyniadau
Dyma brofiad tanddaearol trawiadol. Cafodd y gwaith ei adael yn segur ym 1903 ond bellach mae ar agor i ymwelwyr. Mae Sygun yn adrodd hanes chwarelwyr o Oes Fictoria.