Atyniadau
Bala Adventure and Watersports
Darparwr Gweithgareddau
Mae Bala Watersports yn cynnig yr antur a chyffro o weithgareddau awyr agored, i unigolion, teuluoedd, ysgolion a grwpiau.
Gradient Adventure
Darparwr Gweithgareddau
Llenwch eich diwrnod ag adrenalin. Nofiwch, llithrwch, abseiliwch neu gwibiwch ar y weiren wib hyd yn oed i lawr rhai o hafnau a cheunentydd trawiadol Eryri. Yn syml, dyna yw hafnwibio; antur go iawn.
Gwersyll yr Urdd Glan-Llyn
Darparwr Gweithgareddau
Mae Gwersyll Glan-Llyn yn ganolfan addysg awyr agored wedi'i leoli ar lannau Llyn Tegid ger Y Bala.
Parc Glynllifon
Atyniadau
Dyma berl annisgwyl! Byddwch yn darganfod gerddi hanesyddol helaeth - rhestredig Gradd I - gyda llwybrau cerdded drwy’r coedwigoedd, ffoleddau a cherfluniau.
Plas Tan y Bwlch
Atyniadau
Mae yna derasau ffurfiol, gardd ddŵr a phwll yn rhannau uchaf y gerddi yma. Hefyd ceir yma lawntiau ar lechwedd, llwyni addurnol a choed conwydd, rhai ohonynt wedi'u plannu yn ôl yn Oes Fictoria.