Atyniadau
Beacon Climbing Centre
Gweithgaredd, Atyniadau
Beth bynnag fo'r tywydd, dewch i ddringo! Mae Canolfan Dringo Beacon yn lleoliad cyffrous ym mhob tywydd, gyda gweithgareddau hwyliog yn addas i'r teulu cyfan.
Glasfryn Parc
Gweithgaredd, Atyniadau
Ble wnawn ni ddechrau? Meddyliwch am weithgaredd ac mae’n debygol iawn y bydd cyfle i chi ei wneud yma. Ymysg y gweithgareddau sydd ar gael mae go karts, beiciau cwad, saethyddiaeth, pysgota a bowlio deg.
Parc Glynllifon
Atyniadau
Dyma berl annisgwyl! Byddwch yn darganfod gerddi hanesyddol helaeth - rhestredig Gradd I - gyda llwybrau cerdded drwy’r coedwigoedd, ffoleddau a cherfluniau.
Plas Tan y Bwlch
Atyniadau
Mae yna derasau ffurfiol, gardd ddŵr a phwll yn rhannau uchaf y gerddi yma. Hefyd ceir yma lawntiau ar lechwedd, llwyni addurnol a choed conwydd, rhai ohonynt wedi'u plannu yn ôl yn Oes Fictoria.