Atyniadau
Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Plas Menai
Darparwr Gweithgareddau
Wedi'i osod mewn saith erw o dir, sy'n edrych dros Ynys Môn, mae Plas Menai ar agor drwy'r flwyddyn ac mae'n gyrchfan perffaith i unrhyw un sy'n chwilio am chwaraeon dŵr rhagorol ac antur awyr agored.
Parc Glynllifon
Atyniadau
Dyma berl annisgwyl! Byddwch yn darganfod gerddi hanesyddol helaeth - rhestredig Gradd I - gyda llwybrau cerdded drwy’r coedwigoedd, ffoleddau a cherfluniau.
Plas Tan y Bwlch
Atyniadau
Mae yna derasau ffurfiol, gardd ddŵr a phwll yn rhannau uchaf y gerddi yma. Hefyd ceir yma lawntiau ar lechwedd, llwyni addurnol a choed conwydd, rhai ohonynt wedi'u plannu yn ôl yn Oes Fictoria.
Porth y Swnt
Atyniadau
Dyma ganolfan ddehongli newydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym mhen draw Llŷn. Mae dyluniad syml i’r ganolfan ac mae wedi’i hysbrydoli gan bensaernïaeth Aberdaron a chefndir morwrol y pentref.