Atyniadau
Glasfryn Parc
Gweithgaredd, Atyniadau
Ble wnawn ni ddechrau? Meddyliwch am weithgaredd ac mae’n debygol iawn y bydd cyfle i chi ei wneud yma. Ymysg y gweithgareddau sydd ar gael mae go karts, beiciau cwad, saethyddiaeth, pysgota a bowlio deg.
Gradient Adventure
Darparwr Gweithgareddau
Llenwch eich diwrnod ag adrenalin. Nofiwch, llithrwch, abseiliwch neu gwibiwch ar y weiren wib hyd yn oed i lawr rhai o hafnau a cheunentydd trawiadol Eryri. Yn syml, dyna yw hafnwibio; antur go iawn.
Parc Glynllifon
Atyniadau
Dyma berl annisgwyl! Byddwch yn darganfod gerddi hanesyddol helaeth - rhestredig Gradd I - gyda llwybrau cerdded drwy’r coedwigoedd, ffoleddau a cherfluniau.
Plas Tan y Bwlch
Atyniadau
Mae yna derasau ffurfiol, gardd ddŵr a phwll yn rhannau uchaf y gerddi yma. Hefyd ceir yma lawntiau ar lechwedd, llwyni addurnol a choed conwydd, rhai ohonynt wedi'u plannu yn ôl yn Oes Fictoria.
STORIEL
Atyniadau
Amgueddfa, Oriel, Siop a Chaffi STORIEL – yn dod â storïau o Wynedd a'r ardal gyfagos yn fyw.
SUP Barmouth
Gweithgaredd, Darparwr Gweithgareddau
Os ydych chi'n ddechreuwr llwyr yn edrych am eich blas cyntaf o SUP neu'n ddysgwr profiadol sydd eisiau dysgu am y llanw a'r cerrynt yn Abermaw cyn mentro ar eich pen eich hun, mae gan SUP Abermaw amrywiaeth o brofiadau padlfyrddio ar gael sy'n ad