Atyniadau
Galeri Caernarfon
Atyniadau
Mae Canolfan Mentrau Creadigol Galeri yn cynnig rhaglen amrywiol o theatr, cerddoriaeth, comedi, celf, dawns, sgyrsiau a gweithdai amrywiol.
Parc Glynllifon
Atyniadau
Dyma berl annisgwyl! Byddwch yn darganfod gerddi hanesyddol helaeth - rhestredig Gradd I - gyda llwybrau cerdded drwy’r coedwigoedd, ffoleddau a cherfluniau.
Porth y Swnt
Atyniadau
Dyma ganolfan ddehongli newydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym mhen draw Llŷn. Mae dyluniad syml i’r ganolfan ac mae wedi’i hysbrydoli gan bensaernïaeth Aberdaron a chefndir morwrol y pentref.
Theatr y Ddraig a Chanolfan Gymunedol Abermaw
Atyniadau
Wedi ei leoli yng nghanol Abermaw ar arfordir orllewinol Eryri, mae'r capel Fictorianaidd mawr yma wedi ei addasu i fod yn theatr draddodiadol gyda 186 o seddi, yn ogystal â sawl ystafell gweithgaredd a chyfarfod cymunedol, gan gynnwys ail lwyfan