Anturiaethau ar deithiau tywys i'r teulu yn yr awyr agored
Nid rhywbeth i heicwyr heini a charwyr chwaraeon eithafol yn unig yw crwydro Eryri Mynyddoedd a Môr, prif leoliad twristiaeth antur y DU. Mae Eryri, Llŷn ac Arfordir Cambria yn croesawu teuluoedd hefyd, ac mae taith gerdded wedi ei thywys yn broffesiynol yn un o'r ffyrdd gorau i anturiaethwyr o bob oed brofi ein tirluniau a'n morluniau trawiadol. Nid sôn am ymwelwyr sy'n newydd i'r ardal yn unig yr ydym ni. Mae yna werthfawrogiad cynyddol ymysg ein cymunedau lleol ein hunain o'r ffaith fod yna gyfoeth o fannau i'w darganfod, reit ar stepen y drws.
Mae'r rhan hon o'r byd yn adnabyddus am ei heangderau, ei hawyr iach a'i rhyddid - yr holl bethau rydyn ni wedi eu methu dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Mae cerdded yn gysylltiedig ag adnewyddu, llesiant, a'r cyswllt uniongyrchol â'r byd naturiol. Ac rydyn ni'n gwneud hynny'n haws, gan arwain y ffordd gyda dewis enfawr o deithiau tywys gan gwmnïau megis Anelu Aim Higher a RAW Adventures. Mae'r ddau gwmni wedi treulio blynyddoedd lawer yn arwain grwpiau ar bob math o weithgareddau awyr agored ledled y rhanbarth. Maent yn rhan o'r cynllun Llysgennad Eryri, felly gallwch fod yn saff y byddwch mewn dwylo diogel a phrofiadol ar deithiau cerdded sydd wedi eu teilwra'n arbennig ar gyfer teuluoedd.
Mae Stephen Jones o Anelu Aim Higher, sy'n dod o Fethesda yn wreiddiol, wedi troi cariad oes at fynyddoedd yn yrfa wrth iddo weithio fel tywysydd a hyfforddwr awyr agored. 'Dwi'n angerddol dros blannu'r hedyn i bobl ifanc', meddai. 'Os ydyn nhw'n cael profiad da yn yr awyr agored, mi fyddan nhw'n awyddus i fynd allan eto.'
Mae dewis llwybrau yn hollbwysig os ydych chi am fynd ar daith gerdded y gall pawb yn y teulu ei mwynhau (rhywbeth sy'n amlwg i bob rhiant). 'Os ydan ni'n mynd allan efo plant rhwng chwech a saith oed, rydan ni'n sbïo ar deithiau ar lefel is gyda chyfleoedd rheolaidd i orffwys a phethau diddorol i'w gweld ar hyd y ffordd - ac ambell i fan cysgodol lle medrwch chi gael picnic,' medd Stephen.
Daw Kate Worthington, sy'n gweithio i RAW Adventures, o Dde Lloegr yn wreiddiol. Daeth i Eryri i ddilyn ei hangerdd dros anturiaethau awyr agored, a dod o hyd i'r lle perffaith i'w merch dyfu i fyny.
Fel rhiant, mae hi'n deall mor hanfodol yw teilwra'r profiad o gerdded i aelodau ieuengaf y criw. 'Mi fyddwn ni'n aml yn ceisio annog teuluoedd i beidio mynd ar y daith hir a maith i fyny'r Wyddfa, a chynnig opsiynau eraill, mwy addas,' meddai. 'Rydan ni wedi cael teithiau hyfryd trwy chwareli Dinorwig, i fyny at Glyder Fawr ac o amgylch Llanberis. Does yna ddim angen iddyn nhw lusgo eu plant i ben y mynydd pan fedrwch chi gael amser braf yn mynd i rywle cwbl wahanol.'
Y wlad guddiedig
Un o fanteision pennaf mynd i gerdded gyda thywysydd proffesiynol yw'r cyfle i weld rhai o dirweddau llai adnabyddus Eryri Mynyddoedd a Môr. Mae yna dynfa bwerus at gopa'r Wyddfa, ond nid yw'n fwy na rhan o brofiad llawer ehangach.
Mae nifer o deithiau cerdded Anelu Aim Higher i deuluoedd yn digwydd o amgylch tref brydferth Beddgelert, sy'n cynnig ystod o lwybrau cylchol a llinol (linear). Gallwch adael y llwybr arferol yn Rhyd-ddu, pentref bychan ar ochr ddeheuol yr Wyddfa, neu ddarganfod treftadaeth Gymreig wrth gerdded rhwng Neuadd Craflwyn, sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a Dinas Emrys. Mae'r bryn coediog hwn, sy'n gartref i gaer Oes Haearn, hefyd yn gyfoeth o chwedlau mytholegol am frwydrau rhwng dreigiau, ogofâu cyfrinachol a thrysor cudd; mwy na digon i danio dychymyg pobl ifanc.
'Mae o'n gyfle da i ddweud ambell i stori,' meddai Stephen. 'Rydan ni'n tueddu i sgwrsio wrth gerdded fel y gall y plant a'r oedolion ddysgu rhywbeth am hanes a chwedlau'r ardal.' Mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys taith gylchol hyfryd o Nantmor, trwy Gwm Bychan at Lyn Dinas, sydd wedi amgylchynu â mynyddoedd ac sy'n gyforiog o chwedlau, hanes, bywyd gwyllt a daeareg i'ch difyrru.

Tra bod dringo'r Wyddfa yn rhan fawr o'u busnes, mae teithiau cerdded RAW Adventures i deuluoedd yn arddangos gwedd wahanol ar y rhanbarth. Mae'r daith o Gapel Curig i gopa creigiog Clogwyn Mawr (1,138 troedfedd / 347m) yn berffaith i anturiaethwyr ifanc, ac yn dal i gynnig golygfeydd godidog o Bedol yr Wyddfa.

Gallwch hefyd fentro i grib esmwyth Moel Eilio uwchlaw Llanberis, sy'n cyfuno tirwedd hawdd ei gerdded gyda nifer o fryniau glaswelltog i blant rowlio drostynt. Mae dringo'r Cnicht (a elwir weithiau yn Matterhorn Cymru) yn llwybr poblogaidd arall i deuluoedd, ac yn cynnwys sgramblau creigiog hwyliog o fewn pellter rhwydd a chryno.
Gwersi o fewn y dirwedd
Mae taith gerdded gyda thywysydd proffesiynol hefyd yn ffordd wych o ddysgu mwy am dirweddau Eryri Mynydd a Môr. Meddyliwch am y peth fel ystafell ddosbarth awyr agored, neu gyfle i ailddarganfod eich milltir sgwâr. 'Rydan ni'n ceisio agor llygaid pobl ar rannau o'u tirwedd nad ydynt, o bosib, yn ymwybodol ohonynt,' medd Kate. 'Gallai hynny gynnwys straeon a chwedlau hanesyddol, gwybodaeth am sut y ffurfiwyd y dyffrynnoedd a'r mynyddoedd, esbonio enwau lleoedd Cymraeg a thynnu sylw at fathau o garreg, megis cwarts a llechi. Gall hyn wedyn arwain at drafod hanes diwydiannau, pobl a chymunedau'r ardal. Yn ddelfrydol, mae pobl yn gadael wedi dysgu rhywbeth nad oeddent yn ei wybod o'r blaen.'
'Yn y pen draw, mwynhad yw'r cyfan,' meddai Stephen. 'Mae'n ymwneud â chadw'r uchelgais ar gyfer y diwrnod yn rhywbeth y gall y plant ei gyflawni, a gwneud yn siŵr fod yna rhywbeth i'w diddori, yn hytrach na dim ond chwysu i ddringo'r Wyddfa.'
Ond nid rhywbeth er mwynhad y criw ifanc yn unig yw taith dywys deuluol. 'Mae rhai teuluoedd wedi nodi fod ymuno â grŵp gydag arweinydd arall sy'n oedolyn yn medru gwneud mwy i ennyn diddordeb y plant,' esbonia Kate. 'Mae'n caniatáu i'r rhieni ymlacio rhywfaint gan ei bod yn bosib na fydd y plant yn creu cymaint o drafferth ag y maen nhw gyda Mam a Dad.'