Marchogaeth

Does dim profiad tebyg i weld ardal Eryri Mynyddoedd a Môr ar gefn ceffyl. Mae’n gyfle unigryw i fwynhau’r golygfeydd gwych ac amrywiol. Rhwng y bryniau a’r traethau mae rhywbeth yma i bawb.

Crwydrwch y rhan unigryw a thrawiadol hon o’r wlad ar gefn ceffyl, gan gyfarfod â’r bobl a mwynhau’r awyr iach. Mae marchogaeth yn un o’r ffyrdd mwyaf pleserus o fwynhau golygfeydd godidog Eryri Mynyddoedd a Môr gyda chyfleoedd rhagorol i farchogaeth, hacio a merlota ym mhob rhan o’r ardal.

Mae llwybrau tawel, hamddenol ar gyfer y rhai sydd eisiau ymlacio a mwynhau’r golygfeydd, a llwybrau cyffrous ar gyfer y rhai sydd eisiau mynd ar garlam. Anodd yw peidio ag ymlacio’n llwyr gyda’r fath banorama o afonydd, dyffrynnoedd, mynyddoedd, llynnoedd a choetiroedd.

Mae nifer amrywiol o gyfleon ar gyfer merlota yma yn Eryri Mynyddoedd a Môr, gydag ystod eang o stablau a chanolfannau marchogaeth sydd yn cynnig rhywbeth at ddant pawb. Ar droed y Wyddfa yn Waunfawr ger Caernarfon mae milltiroedd o lwybrau gyda golygfeydd gwych o’r mynyddoedd a’r môr. Am lwybrau ceffylau defnyddiwch mapiau Ordanace Survey Outdoor Leisure rhifau 17,18, 23, 253 a 254.

Stablau a Chanolfannau Marchogaeth:

Canolfan Farchogaeth Cilan
Abersoch, Pwllheli
01758 713276

Parc Carafanau a Chanolfan Ferlota Bwlchgwyn
Arthog
01341 250107

Canolfan Farchogaeth a Stabl Pen Llŷn Luisitanod
Llaniestyn
01758 730741

Snowdonia Riding Stables
Waunfawr, Caernarfon
01286 650342

Gwydyr Stables Riding and Trekking Stables
Penmachno, Conwy
01690 760248