A   A   A
610 233 Dyfrgi_Otter © Crown copyright (2011) Visit Wales

Yng nglyn â Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru

Ein gweledigaeth

yw Gogledd Cymru gyda chyfoeth o fywyd gwyllt a fwynheir gan bawb. Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn un o blith 47 o Ymddiriedolaethau Natur ledled y DG ac yn un o blith 6 Ymddiriedolaeth Natur yng Nghymru. Rydym yn elusen gofrestredig, sy'n dibynnu ar roddion ac ar gefnogaeth ein haelodau. Gyda'ch cymorth chi, rydym yn credu y gallwn wneud llawer i warchod y bywyd gwyllt sydd ar ôl ac i wella cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt Gogledd Cymru.
Amcanion Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
  •    Gwarchod bywyd gwyllt Gogledd Cymru ar gyfer y dyfodol.
  •    Cynyddu'r ddealltwriaeth o fywyd gwyllt Gogledd Cymru a'i amgylchedd naturiol.
  •    Defnyddio'r wybodaeth hon wrth warchod bywyd gwyllt yn ymarferol yn ein gwarchodfeydd natur ac mewn mannau eraill ledled Gogledd Cymru.
  •    Sicrhau bod aelodau'r cyhoedd yn cael cyfle i fwynhau bywyd gwyllt Gogledd Cymru.

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn:

  •    Buddsoddi yn y dyfodol drwy helpu pobl o bob oed i werthfawrogi a deall bywyd gwyllt yn well
  •    Prynu a rheoli gwarchodfeydd natur
  •    Ymgymryd â phrosiectau sydd o fudd i fywyd gwyllt mewn trefi ac yng nghefn gwlad
  •    Herio datblygiadau sy'n bygwth cynefinoedd bywyd gwyllt
  •    Gweithio gyda'r cyhoedd, cymunedau, perchnogion tir, cynghorau lleol ac eraill i warchod bywyd gwyllt ar gyfer y dyfodol.
Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru

gwarchod natur ar gyfer y dyfodol

Mae'r gwarchodfeydd yn gartref i amrywiaeth eang o gynefinoedd a rhywogaethau, ac maent yn amrywio o ran maint o sawl hectar i lai nag un, ac o ran statws o Warchodfa Natur Genedlaethol i ardaloedd bychain iawn sy'n gartref efallai i ddim ond un rhywogaeth o ddiddordeb. .

Spinnies

Aberogwen
SH 613 721
8 erw 

Lagŵn arfordirol gyda chuddfan adar yn edrych drosto a mynediad i'r anabl yn darparu golygfeydd o adar rhydio a hwyaid yn y warchodfa ac ar Draeth Lafan.
Glas y Dorlan The Spinnies Kingfisher © JODwyer
Mae’r clystyrau tal a gosgeiddig o gawn cyffredin o amgylch y lagŵn yn darparu cysgod trwchus a safleoedd nythu delfrydol ar gyfer rhywogaethau’n magu, fel yr Iâr Ddŵr, yr Hwyaden Wyllt a Thelor yr Hesg. Mae’r Wyach Fach yn bwydo yn y lagŵn, gan ddeifio am bysgod bychain ac infertebrata, ac efallai y gwelwch y Gïach Gyffredin yn chwilio am bryfed genwair, cramenogion neu folysgiaid yn y llaid. Mae terfynau’r lagŵn yn lle rhagorol hefyd i wylio’r Crëyr Glas a’r Crëyr Bach.

Rhwng misoedd Medi a Mawrth, bydd y Glas y Dorlan llachar yn olygfa gyfarwydd o amgylch y lagŵn, yn chwilio am ysglyfaeth. Yn cadw cwmni iddo bydd y Gorhwyaden, y Chwiwell a’r Pibydd Coeswerdd.

Tra’n cerdded ar hyd y llwybrau, cadwch lygad am y Caldrist Llydanddail, tegeirian prin iawn yn lleol, a Rhedyn Tafod yr Hydd a’r Marchredyn Gwryw, sy’n tyfu mewn mannau cysgodol. Ar ganghennau’r coed, mae’r Siff-Saff a Thelor yr Helyg ymhlith rhai o adar mudol y gwanwyn sydd i’w clywed yn glir. Ceir gwahanol fathau o ffwng lliwgar yma hefyd, gyda Chwpan bychan Robin Goch yn gyffredin yn ystod y gaeaf.

Coed Crafnant

SH 619 289
120 erw

Yn enghraifft wych o Goetir Hynafol gyda chyfoeth o fwsoglau, llysiau'r afu a rhedyn, mae Gwarchodfa Coed Crafnant yn cynnwys dwy goetir nodedig; Coed Crafnant a Choed Dolbebin.

Llysiau'r Ysgyfaint_Liverwort © Rory Francis
Gyda'i gilydd, maent yn rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig helaeth Rhinog yn y Parc Cenedlaethol. Mae'r warchodfa, sy'n 49 hectar o ran maint, yn bwysig am ei hamrywiaeth o blanhigion cyntefig, fel mwsoglau a llysiau'r afu. Mae'r rhain yn dibynnu ar amgylchedd cynnes, llaith i oroesi. Mae'r canopi brodorol o goed derw wedi darparu'r amgylchedd yma ers rhyw 6,000 o flynyddoedd. Mae'r coed yn gartref hefyd i sawl math o drychfil, aderyn a mamal.

Cors y Sarnau

SH 967 386 
37 erw

Mae Cors y Sarnau'n dir gwlyb gwerthfawr ac yn enghraifft dda o gors mewn dyffryn isel, lle mae llyn bas wedi datblygu'n gorsydd a siglenni gwlybdir amrywiol. Mae'r math yma o gynefin yn brin iawn yn y DG.

Cors
Mae'r safle'n 37 erw o ran maint ac yn gartref i amrywiaeth cyfoethog o gymunedau o blanhigion sy'n adlewyrchu natur ddeinamig yr olyniaeth naturiol. Mae cynefinoedd o gorsudd, siglenni a ffeniau'n ffynnu yma.

Mae wedi cymryd cannoedd o flynyddoedd i'r cymunedau o blanhigion a'r cynedfinoedd a welir yn y warchodfa ddatblygu, ac mae'n hawdd iawn tarfu arnynty ac maent yn tueddu i sychu'n aml.

Mae tri phwll bychan newydd wedi cael wu cloddio yn y warchodfa er mwyn caniatau dŵr agored ar y safle, fel bod modd sicrhau olyniaeth yma ac er mwyn cynyddu'r amrywiaeth yn y warchodfa ac annog gwas y neidr a'r fursen i ddod yma.

Caeau Tan y Bwlch

SH 431 488
16 acres

Mae'r warchodfa'n enwog fel cartref i'r Tegeirian Llydanwyrdd Mawr a gellir gweld y blodau gwynion tyner yn carpedu'r caeau ddiwedd mis Mehefin a thrwy gydol mis Gorffennaf bron. Gyda'r Bengales Benddu, Pys y Ceirw a'r tegeirianau eraill, fel y Tegeirian Cyffredin a Thegeirian Brith y Rhos, i gyd yn blodeuo yn ystod Mehefin / Gorffennaf, dyma'r misoedd gorau i weld y dolydd ar eu gorau yn eu blodau.
    Butterfly Orchid © Karen Nichols
Dyma'r amser gorau gefyd i weld glôynnod byw a gwyfynnod, ond braidd yn hwyr mae'n bur debyg ar gyfer canu'r adar sy'n byw yn y prysgwydd is. Mae'r adar hyn, fel y Llwydfron, y Troelwr Bacj, Telor yr Helyg, yr Ardd, y Telor Penddu a llawer mwy, yn canu ar eu gorau ym mis Mai.
Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2019 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | [email protected] | 01286 679686
GwyneddConwy