Pwllheli - parcdir a lincs graddol ac aeddfed 18 twll ar arfordir deheuol Penrhyn Llŷn.
Mae gan yr 11eg twll, 291 llath, par 4 byr grîn fechan donnog nodweddiadol, sy’n cael ei gwarchod yn gaeth gan fynceri. Mae cynllun y twll yn cynnig dau ddewis posibl; gall y golffiwr dewr fentro dreif hir i ffordd deg gul, golyga hyn fod yr ergyd yn haws, neu efallai y bydd yn dewis defnyddio clwb haearn i yrru o’r ti, sy’n golygu osgoi’r bynceri, mae eithin hefyd yn nodwedd amlwg iawn ger y twll.
James Braid a Tom Morris a gynlluniodd y cwrs hwn ym 1900 gan ddefnyddio nodweddion parcdir a lincs naturiol. Gellir gweld eu dylanwad ym mhob rhan o’r cwrs.
Maint: 18 twll Hyd: 6108 llath
Math: Parcdir a lincs Par: 69 SSS: 70
Cyfeiriad: Clwb Golff Pwllheli, Golf Road, Pwllheli, Gwynedd LL53 5PS
01758 701644
[email protected]
www.clwbgolffpwllheli.com
|