Porthdinllaen
Hen bentref bach pysgota yw Porthdinllaen, gydag ymrwymiad cryf â’i môr. Mae’r traeth tywodlyd yn ehangu dros gildraeth perffaith a harbwr naturiol, lle ceir Gorsaf Bad Achub ar un pen. Roedd bwriad, ar un adeg, i wneud Porthdinllaen yn brif borthladd i groesi tuag at Iwerddon, ond yn lwcus ni ddaeth dim o hyn. Mae Porthdinllaen wedi ei gadw’n berffaith, yn gyfoethog mewn hyfrydwch naturiol, a nawr fe gaiff ei warchod gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Gall plant gadw eu hunain yn ddiddig yma drwy geisio casglu crancod neu drwy chwarae yn y dŵr tra gall oedolion fwynhau diod yn nhafarn y Tŷ Coch, man lleol enwog. Caiff mwy o swyn ei ychwanegu i Borthdinllaen, gan y ffaith fod y maes parcio agosaf 10 munud i ffwrdd.
Cyfleusterau a Gwasanaethau Llithrfa Toiledau Cludiant cyhoeddus Gwaharddiadau ar gŵn Ardal gwahardd cwch | | %20Golyfga%20Porthdinllaen%20View.JPG) |