Llanberis
Ble i ddechrau? Mae Llanberis yn llawn gyda digon o atyniadau i gadw ymwelwyr yn brysur am wythnosau. Yn gyntaf, mae'n rhaid sôn am leoliad gwych y dref ar lan llyn ac wrth droed yr Wyddfa. Pan fyddwch chi wedi blino cerdded ar lan y dŵr – ‘does dim peryg o hynny ychwaith - ewch am daith ar ddwy reilffordd - Rheilffordd Llyn Llanberis a Rheilffordd yr Wyddfa. Mae’r ail un yn dringo bron at stepen drws Canolfan Ymwelwyr syfrdanol Hafod Eryri ar gopa’r Wyddfa.
Mae yna ddigon i’w weld a digon i’w wneud ym Mharc Gwledig Padarn ar fin y llyn. Mae’r Amgueddfa Lechi Genedlaethol yn dwyn atgofion o dreftadaeth ddiwydiannol gyfoethog Eryri ac mae’r Mynydd Gwefru yn eich gwahodd i ymweld â’r byd uwch dechnoleg syfrdanol dan ddaear, tra bo Castell Dolbadarn yn mynd â chi’n ôl filoedd o flynyddoedd i oes tywysogion Cymru. Os nad yw hynny’n ddigon i chi, mae yma hefyd siopau crefft a chwaraeon dŵr, er bod y rhan fwyaf o’r bobl awyr agored yn dod yma i gerdded. Yn ogystal â llwybrau’r mynydd, dilynwch Lwybrau Treftadaeth hunan dywys yn Llanberis sy’n mynd â chi i lefydd difyr o amgylch y pentref.
> Ffilm byr gan HWB Eryri yn hyrwyddo beth sydd gan Llanberis i'w gynnig
Cerflun newydd yn Llanberis i ddathlu treftadaeth Gwynedd
Roedd disgyblion o Ysgol Dolbadarn yn Llanberis ymysg y rhai fu’n cymryd rhan wrth ddadorchuddio cerflun newydd ar lannau Llyn Padarn i ddathlu hanes a threftadaeth yr ardal. Bwriad y cleddyf 20 troedfedd ydi codi ymwybyddiaeth o hanes Tywysogion Gwynedd a’u cyfraniad i dreftadaeth Gymreig yr ardal. Fel rhan o’r prosiect fe ofynnodd y Cyngor i’r cyhoedd am enwau posib i’r cleddyf, gyda disgyblion Ysgol Dolbadarn yn cael y cyfle i graffu dros y cynigion. Fe ddatgelwyd ‘Llafn y Cewri’ fel yr enw.
Rhannwch eich lluniau gyda ni ar Instagram, Facebook and Twitter
Parcio
Mae yna amryw o lefydd parcio yn Llanberis sy'n cael eu rhedeg gan Cyngor Gwynedd, y cyngor cymuned neu busnesion lleol. Mae prisiau yn amrywio o £3 am hyd at 4 awr i £5 neu £7 am y dydd. Cliciwch yma i weld map sy'n dangos lleoliad rhan fwyaf o'r meysydd parcio. Yn ogystal mae gwasanaeth bws arbennig yw Sherpa’r Wyddfa sy’n teithio o amgylch troed yr Wyddfa gan greu cyswllt defnyddiol rhwng 6 prif lwybr y Wyddfa, prif feysydd parcio a phentrefi a chyrchfannau twristiaeth yr ardal.
Hwb Eryri
Llanberis
07867976183
[email protected]