A   A   A
700 267 Gerddi Bodnant Garden

Portmeirion

Minffordd
Penrhyndeudraeth
Gwynedd
LL48 6ER
Giat Toll 01766 772311
Llinell Archebu 01766 770000

196 Portmeirion2
Mae gerddi Portmeirion mor bwysig â phensaernïaeth Eidalaidd Clough Williams Ellis, neu’r rhaglen deledu cwlt o’r 60au ‘The Prisoner’ o ran hynny.  Agorwyd y pentref yn 1926 ond mae’r gerddi yn llawer hŷn.  Yn wir, mae coed conwydd, Ffynidwydd Wellingtonia a’r  Ffynidrwydd Himalaya o ganol y 1800au yn dal yma.  Ychwanegwyd at y gerddi ers hynny a bellach mae ganddynt ddilyniant cwlt eu hunain.  Mae gan ‘Y Gwyllt’ hinsawdd arbennig o gynnes sy’n golygu fod rhywogaethau fel Gunnera manicata (sydd fel arfer yn tyfu yn fforestydd glaw Brasil) a llwyni Rhododendron tyner a phersawrus (a welir fel arfer mewn ystafelloedd haul) yn tyfu’n wyllt a hefyd ceir y Maytenus boaria mwyaf yn y Deyrnas Gyfunol, sy’n debyg i Helygen.

Plas Tan-y-Bwlch

Blaenau Ffestiniog  
Gwynedd  
LL41 3YU
01766 772 600
196 150 Plas Tan-y-Bwlch (280 214)
Mi fyddech yn disgwyl i erddi Canolfan Astudiaethau Amgylcheddol Parc Cenedlaethol Eryri i fod yn lle arbennig ac mae hynny’n sicr yn wir.  Daeth y plasty o’r 18fed ganrif a’r gerddi i ddwylo Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn y 1960au.  Heddiw, mae’n un o ddwy ganolfan gyffelyb yn y Deyrnas Gyfunol.  Nid canolfan astudio arferol yw Plas Tan y Bwlch,  nid oes yn rhaid i chi fod yn fyfyriwr yn y Ganolfan i fedru mwynhau’r gerddi 13 erw ychwaith.  Maent yn agored i bawb. Mae gan rannau uchaf y gerddi derasau ffurfiol a gardd ddŵr, gardd Siapaneaidd, trofeydd rhododendron ac azalea, meithrinfa rhedyn a gardd bywyd gwyllt.  Ceir yma gymysgfa o blanhigion cynhenid ac egsotig, llwyni addurnol a choed conwydd.    Plannwyd rhai o’r rhain yn oes Fictoria.  Maent wedi eu hamgylchynu gan goetir derw gyda golygfeydd o ddyffryn afon Dwyryd islaw.  Ceir rhwydwaith o deithiau a llwybrau cerdded drwy erddi’r coetiroedd a’r rhannau sy’n rhannol wyllt.  Mae’r ardaloedd hyn wrth gwrs yn llawn adar, trychfilod a mamaliaid bach.

Plas Brondanw

Llanfrothen
Gwynedd
LL48 6SW
07880 766741

Etifeddodd Syr Clough Williams Ellis y tŷ a’r gerddi yn 1908 a phan nad oedd yn brysur yn ei swydd bob dydd roedd y prosiect ym Mhlas Brondanw yn cymryd y cyfan o’i amser hamdden.   ‘Angerdd ac obsesiwn os hoffwch chi” meddai am y Plas, er mai dim ond dwy erw ydyw mae’n fach ond yn berffaith.  Wedi ei guddio ar hyd lôn un trac mae fel fersiwn bach o Bortmeirion. Mae llwyni tocwaith o yw a bocs ymhobman. Cedwir y rhain yn isel i gael gweld y mynyddoedd.  Mae coed cypress Eidalaidd uwchben yn rhannu'r ardd sydd ar lethr yn gyfres o ystafelloedd.  Ond nid oes yna forderi rhwysgfawr yma serch hynny.  Yn bennaf, ceir yma lwyni trilliw ar ddeg, rhedyn a phlanhigion tebyg  ynghyd â rhai llwyni rhododendron a fagwyd ym Mhortmeirion.   Fel gerddi ei greadigaeth enwocaf, Portmeirion, mae gan Plas Brondanw waith metel addurnol wedi ei beintio, pyllau a cherfluniau a ffoledd.  Wel oeddech chi’n disgwyl llai? Dringwch y grisiau i’r tŵr gwylio i gael un o’r golygfeydd gorau posib.

Caerau Uchaf

Sarnau
Bala
Gwynedd
LL23 7LG
01678 530493

150 115 Caerau Uchaf
Mae gan Caerau Uchaf yr ardd breifat uchaf sy’n agored i’r cyhoedd yng ngogledd Cymru o dros 100 troedfedd.  Dechreuwyd y gerddi yn 1994 ac fe ychwanegir atynt drwy’r amser.  Dyma gartref Toby a Stephanie Hickish sef dylunwyr gardd gwobredig ‘Summer Gardens’ ac maent bob amser yn barod i roi cyngor neu i siarad gyda garddwyr brwd.  

‘Mae gennym 3 neu 4 erw o erddi gwahanol, rhododendron ac azalea, llwybrau drwy’r coed a llawer mwy.  Mae gennym gaffi sy’n gweini te cartref a chacennau blasus a chinio amheuthun".

Castell Gwydir

Llanrwst
Conwy
LL26 0PN
01492 641 687

Mae gerddi hanesyddol Castell Gwydir ymysg yr ychydig yng Nghymru sydd wedi cael statws rhestredig Gradd1.  Maent yn cynrychioli enghraifft bwysig o’r ardd Ddadeni ffurfiol o gyfnod y Tuduriaid a’r Stiwardiaid gydag ychwanegiadau a gwaith plannu mwy diweddar o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Yn ogystal â dau fwa gardd coeth o’r 16eg ganrif gyda waliau a therasau cysylltiedig, mae yma amryw o goed hardd cynnar, yn cynnwys pedair ar ddeg o goed yw cyn 1700 a tair o Gedrwydd Libanus o’r deuddeg gwreiddiol a blannwyd yn ôl yr hanes, er anrhydedd i briodas y Brenin Siarl I gyda’r dywysoges  Henrietta Maria o Ffrainc yn 1625.    

Mae’r hen ardd Iseldiraidd yn enwog am ei rhodfa yw gyda 22 o goed ywen enfawr tra fo’r Ardd Gwlwm yn y cwrt a luniwyd yn 1828 gan Syr Charles Barry, y pensaer enwog, ar ffurf Rhosyn Tuduraidd. 

Plannwyd y wisteria wych sy’n addurno adeiladau’r Neuadd yn 1828 yr un flwyddyn y cyflwynwyd y peunod i’r gerddi yn ôl y sôn.    Mae golygfeydd godidog a ffurfiol Gwydir yn ei gwneud yn un o’r gerddi mwyaf rhamantus yng Nghymru.
Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2019 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | [email protected] | 01286 679686
GwyneddConwy