Ynys Enlli
Mae Ynys Enlli yn agored o fis Mawrth hyd at fis Hydref. Mae'n bosib ymweld am y dydd neu aros am yr wythnos yn nhai yr Ymddiriedolaeth.
Mae'r ynys yn llawn o fywyd gwyllt, arfordir dramatig a dros 4,000 o flynyddoedd o hanes diddorol. Mae yma ddigon i'w ddarganfod os ydych yn ymweld am y dydd neu am wythnos o wyliau ar yr ynys unigryw hon.
Derbyniodd Ynys Enlli statws Noddfa Awyr Dywyll Ryngwladol (IDSS) gan y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol (IDA). Dyma’r safle cyntaf yn Ewrop i dderbyn statws o’r fath.