Sawnas ar hyd traethlin Eryri a Phen Llŷn
Os ydych yn chwilio am seibiant gyda’r genod i ffwrdd o'r straen, beth am ollwng stêm gyda sesiwn sawna yma yn Eryri a Phen Llŷn? Mae gennym ddewis o sawnas, pob un ohonynt wedi'u lleoli mewn lleoliad trawiadol ar hyd y traethlin, yn wynebu llyn neu'r môr. Bydd y cyfuniad o olygfeydd hyfryd o’r dŵr a'r gwres glanhaol dwys yn cael gwared ar densiynau'r byd modern, gan eich gadael wedi'ch adfywio ac yn barod i wynebu unrhyw beth.
Mae'r hyn sydd o'ch amgylch yr un mor adfywiol â'r sawnas, gan gynnwys mynyddoedd mawreddog Eryri, Tirwedd Llechi Gogledd Cymru (un o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO mwyaf newydd y DU) a Thirwedd Cenedlaethol bendigedig Llŷn - oedd yn arfer cael ei hadnabod fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.
I'ch helpu i drefnu eich seibiant perffaith, rydym wedi dewis tri sawna gwych ar hyd y traethlin, sy'n berffaith ar gyfer dihangfa gyda'r genod. Rydym hefyd wedi awgrymu llefydd gwych i aros a bwyta, yn ogystal â gweithgareddau ac anturiaethau ysbrydoledig i ffitio o gwmpas eich sesiynau sawna.
Sawna Bach, Llanberis
Llechi a stêm
Sawna. Wedi ei guddio ar ben draw ffordd goediog ar lan Llyn Padarn, mae Sawna Bach yn sicr yn bodloni ei enw fel 'Y Sawna gyda’r Olygfa'. Gyda golygfeydd ar draws dŵr sgleiniog y llyn a chopaon Eryri, mae'n lle perffaith ar gyfer ymlacio'n iawn. Lleolir y caban sawna sy'n cael ei wresogi gyda choed wrth ymyl morlyn bychan, sy'n berffaith ar gyfer naid i'ch oeri rhwng cyfnodau tanbaid yn y sawna.
Mae lle i wyth unigolyn yn Sawna Bach - gallwch hyd yn oed archebu'r lle i chi eich hun os hoffech brofiad preifat gyda'ch criw. Os hoffech ddewis arall, edrychwch am ddigwyddiadau arbennig megis sesiynau sawna lleuad llawn a chyfleoedd i gyfuno stêm gydag ioga neu ddosbarthiadau dysgu Cymraeg.
Aros. Dihangwch rhag popeth yn Crashpad Lodges yn Yr Helfa, safle sydd wedi ei leoli ar ei ben ei hun mewn man tawel wrth droed yr Wyddfa (edrychwch am Reilffordd yr Wyddfa yn gwneud ei ffordd i'r copa uwch eich pen). Mae'r ddihangfa hunan-arlwyo eco-gyfeillgar yn cynnwys stofiau llosgi coed i’ch cynhesu, mannau byw gwyngalch unigryw a gwres dan y llawr (wedi'i bweru gan ynni solar). Dyma unigedd mewn steil.
Os byddai'n well gennych fod ychydig yn agosach at wareiddiad, mae rhagor o lety gwych yng Nglan y Bala. Mae'r tŷ gwledig Fictoraidd hwn dafliad carreg o Lanberis ac mae lle i grwpiau mawr a bach gysgu yn y tri eiddo hunan-arlwyo cyfforddus. Mae'r golygfeydd dros Lyn Padarn a'r Wyddfa yn eithaf da hefyd.
Crwydro. Ewch am dro ar Daith y Llyn o amgylch glannau Llyn Padarn. Mae'r daith bum milltir/8km hon yn dangos nodweddion naturiol a dynol Safle Treftadaeth y Byd UNESCO Tirwedd Llechi Eryri. Ar y daith, mae modd gweld cyn-chwareli ac adeiladau hanesyddol, a gallwch ddilyn llwybr Rheilffordd Llyn Llanberis - a agorwyd yn 1843 i gludo llechi i borthladd y Felinheli ar y Fenai.

Ym mhen gogleddol y llyn, chwiliwch am Graig y Llew, craig arw sy'n boblogaidd gyda dringwyr, a golygfeydd trawiadol ar hyd Llyn Padarn o bont Pen y Llyn.
Bwyta. Ewch i’r Pantri ar Stryd Fawr Llanberis am frecwast, cinio a phrydau ysgafn. Mae'r caffi cyfeillgar hwn sy'n cael ei redeg gan deulu yn cynnig bwydlen atyniadol o brydau wedi'u gwneud o gynhwysion o ffynonellau lleol. Yn ogystal â choffi gwych, gallwch hefyd ddewis digon o gynnyrch sydd wedi'i wneud yn Eryri, gan gynnwys mêl, mwstard, siytni, cwrw a seidr. Mae'r cacennau cartref yn uchafbwynt arbennig (y ffordd orau i wobrwyo eich hun ar ôl cerdded o amgylch y llyn) ac mae detholiad gwych o opsiynau llysieuol, fegan ac opsiynau heb glwten.
Ar gyfer prydau nos moethus, ewch i Westy’r Royal Victoria - wedi'i leoli yn y coed rhwng Castell Dolbadarn a gorsaf Rheilffordd yr Wyddfa. Yn dibynnu ar ba mor ffurfiol rydych yn teimlo, gallwch ddewis rhwng Tŷ Bwyta coeth Padarn neu'r Bar a Lolfa Eryri ymlaciol. Beth bynnag yw eich dewis, gallwch ddisgwyl croeso cynnes Cymreig a phrydau blasus wedi'u llunio o’r cynhwysion gorau sydd gan yr ardal i'w cynnig.
Sawna Criccieth
Cestyll a'r arfordir
Sawna. Dyma ystafell-stêm gyda golygfa yn Sawna Cricieth, lle mae sesiynau tanbaid yn dod gyda thirlun o lannau tywodlyd a cherrig garw Castell Cricieth. Dyma syniad gan bartneriaeth gŵr a gwraig Canadaidd-Cymraeg, Andy ac Esther Woods. Ar ôl cael blas ar sawna ar drip i Sweden, fe benderfynon nhw greu un eu hunain ar y traethlin hyfryd lle'r oeddent eisoes yn rhedeg Cricieth Multi-Golf (atyniad gweithgaredd hwyliog sy'n cynnig sawl blas o golff - ynghyd â chaiacio, padlfyrddio a beicio traeth).

Mae gan y sawna le i hyd at wyth unigolyn mewn sesiynau preifat neu gymunedol - eisteddwch ar y fainc uchaf os ydych wrth eich bod gyda'r gwres. Pan ydych yn barod i gymryd saib, ewch i'r trelar oeri pwrpasol am gawod adfywiol a rhagor o olygfeydd glan y môr gwych. Os ydych yn teimlo'n ddewr, mae hyd yn oed gawod bwced y tu allan a phwll plymio dŵr oer.

Aros. Trowch tua'r tir i Rhos Country Cottages, sydd wedi eu lleoli ar dir fferm â gwrychoedd o’i amgylch ychydig filltiroedd o'r arfordir. Mae ei bedwar eiddo ar wahân yn rhoi llety hunan-arlwyo ar gyfer grwpiau o bob maint, o Rhos Wen sydd â lle i bedwar gysgu, i'r tŷ fferm cerrig rhestredig Gradd II, Betws Bach, sy'n cysgu hyd at saith unigolyn.
Os ydi’n well gennych fod wrth ymyl y môr, ewch i westy Caerwylan ar bromenâd Cricieth. Y tu ôl i ffasâd Fictoraidd traddodiadol y gwesty, mae dihangfa gyfoes a chain gyda rhai o'r golygfeydd arfordirol gorau yng ngogledd Cymru. Mae bar cyfforddus hefyd, sy'n berffaith ar gyfer gwydriad pefriog adfywiol gyda ffrindiau ar ôl bod yn y sawna.
Crwydro. Mae lleoliad Cricieth ar Lwybr Arfordir Cymru yn ei wneud yn lle perffaith i grwydro glan y môr. I weld rhan o'r llwybr eich hun, ewch ar drên neu fws i Borthmadog (dim ond 10-15 munud i ffwrdd) a cherdded yn ôl i Gricieth. Gan gychwyn o harbwr Porthmadog, mae'r llwybr 6.6-milltir/10.6km hwn yn dilyn Aber Afon Dwyryd wrth iddo agor i ddyfroedd gleision Bae Ceredigion, cyn mynd â chi heibio ehangder tywod euraidd Morfa Bychan ar eich ffordd yn ôl i Gricieth.
Bwyta. Wedi'i leoli yn gyfleus ger Sawna Cricieth a Llwybr Arfordir Cymru, Dylan’s yw'r dewis amlycaf i gael rhywbeth i'w fwyta. Dim ond ychydig gamau o'r traeth mewn adeilad Art Deco (wedi'i ddylunio gan Clough Williams Ellis a gysylltir â Phortmeirion), mae'n lleoliad trawiadol gyda bwydlen sy'n cyd-fynd â hynny.
Wedi'i chreu o’r cynhwysion lleol gorau, mae'n canolbwyntio ar fwyd môr hollol ffres (trïwch y cregyn gleision o'r Fenai sy'n tynnu dŵr o'r dannedd), yn ogystal ag opsiynau cig, llysieuol a fegan. Mae bwydlen coctel wych hefyd, sy'n cynnwys cymysgedd wedi'i hysbrydoli gan ogledd Cymru, fel yr 'Ormestar Martini' - sy'n defnyddio fodca fanila Draig Goch o Ynys Môn.
Sawna Môr, Aberdaron
Stêm, tywod a moroedd mawr
Sawna. Os ydych yn chwilio am forluniau prydferth, Sawna Môr yw'r lle i chi. Wedi'i leoli ar y traeth ym mhentref pysgota bychan Aberdaron ar begwn gwyllt gorllewinol Pen Llŷn, gallwch weld dim byd ond tonnau o ffenest y sawna. Nid dim ond o bell fyddwch chi’n gwerthfawrogi'r môr - dyma lle byddwch hefyd yn mynd i oeri rhwng sesiynau tanbaid yng ngwres y sawna. Mae'n agwedd sylfaenol ar brofiad traddodiadol y sawna ac yn un o'r ffyrdd gorau i drochi eich hunain yn awyrgylch gwyllt Pen Llŷn.

Aros. Arhoswch yn agos at yr arfordir yng Ngwesty'r Ship, sy'n darparu llety cyfforddus yn Aberdaron, ddim ond dafliad carreg o'r traeth. Os cewch un o'r ystafelloedd sy'n wynebu'r môr, cewch olygfeydd cyson o'r tonnau ewynnog. Mae yma hefyd fwyty sy'n gweini prydau cartref gyda digon o fwyd môr wedi'i ddal yn lleol a bar awelog sy'n boblogaidd gydag ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd.
Mae hefyd Gwesty Tŷ Newydd, sydd wedi'i leoli yn union ger glan y môr. Mae pob un o'r ystafelloedd llawr-cyntaf sydd ar ochr y traeth yn cynnwys balconette, sy'n rhoi mynediad hawdd at wynt ffres y môr, tra bod teras dan do y bar yn cynnig diodydd sy'n torri syched a machlud godidog.
Ar gyfer llety hunan-arlwyo, ewch i Afallon - sy'n sefyll ar ben clogwyni gwyrdd uwchben Bae Aberdaron. Mae'r bwthyn chwe ystafell wely hwn yn berffaith ar gyfer grŵp o bobl, gyda digon o le i bawb fwynhau (a hyd yn oed mwy o olygfeydd perffaith o'r môr ym Mhen Llŷn).

Crwydro. Ewch am daith i erddi bendigedig Plas yn Rhiw, maenordy o'r 17eg ganrif sydd yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae'n anodd dewis uchafbwynt o'r gofod gwyrdd godidog hwn. Yn amrywio o gwrlid o glychau'r gog a thegeiriannau iraidd yn y gwanwyn i ddolydd o flodau gwylltion cyfnewidiol a jasmin gwyn persawrus yn yr haf, perllannau aeddfed yr hydref a thuswon disglair o eirlysiau'r gaeaf, mae rhyfeddodau newydd bob mis wrth i'r tymhorau newid. Pryd bynnag fyddwch yn ymweld, gallwch weld mwy o olygfeydd trawiadol o'r môr - a oes unrhyw fath arall o olygfa ym Mhen Llŷn? - y tro hwn dros donnau gwyllt Porth Neigwl.
Bwyta. Mwynhewch bicnic ar y traeth gyda bwyd blasus o Fecws Islyn. Gallwch ddewis o amrywiaeth sawrus o basteiod a rholion selsig wedi'u pobi yn ffres a brechdanau wedi'u gwneud â llaw, yn ogystal ag amrywiaeth o gacennau blasus os oes gennych ddant at bethau melys. Am rywbeth arbennig iawn, beth am fwynhau te prynhawn yn y caffi clyd ar lawr cyntaf y becws?