Wildwood Designs Ltd
Mae Wildwood Designs yn gwmni dylunio a chynhyrchu dodrefn teuluol sefydledig, yn cynnig gwasanaeth wedi’i bersonoli ac hefyd yn cynnig dodrefn pwrpasol o ansawdd uchel i weddu i anghenion cwsmeriaid ac arddull unigol. Yn amrywio o fyrddau coffi unigryw, byrddau bwyta a stolion i ddrychau syfrdanol, clociau, bachau cotiau a silffoedd, mae'n golygu y gallant gynnig yr union beth rydych chi'n chwilio amdano i greu eich cartref perffaith. Mae yna amrywiaeth ardderchog o stoc, gan gynnwys lampau hyfryd, bowlenni, fasys a phiserau unigryw, addurn cartref chwaethus ac ategolion cegin hardd. Mae yna hefyd ystod gynyddol o ddodrefn a ffabrigau meddal sy'n cynnwys lliwiau a gweadau bywiog a deniadol.