Tywyn

Tref glan môr a chanolfan grwydro dda. Mae atyniadau yn cynnwys traeth tywodlyd mawr, rheilffordd lein gul Talyllyn sy’n treiddio ymhell i’r bryniau a sinema The Magic Lantern. Ceir sawl llecyn prydferth lleol – Parc Ynysmaengwyn, Rhaeadrau Dolgoch, Craig y Deryn, Llyn Mwyngil a Chastell-y-Bere, cadarnle’r tywysogion Cymreig sy’n llawn awyrgylch. Gall y dref hawlio ei bod yn enwog oherwydd y ‘Tywyn Wurlitzer’ a ras hwyl flynyddol ‘Rasio’r Trên’ a welwyd ar raglen Countryfile.

Gallwch hefyd ddarganfod mwy am Biosffer Dyfi drwy gerdded cylchdaith pum milltir a hanner o gwmpas Tywyn. Os ydych yn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yna mae'r llwybr hwn yn ddelfrydol gan y gallwch ddod o hyd i'r man cychwyn hwnnw yn hawdd o'r orsaf drên neu'r arhosfan bysiau.