Tywod a Brechdanau

Dyma fwydlen o ddanteithion glan y môr blasus, o'r golygfeydd i'r bwyd môr.  Dewch am dro gyda ni ar hyd yr arfordir o'r gogledd i'r de, gan alw heibio i draethau mawr a thraethau lle mae'r tywod yn sibrwd (fe eglurwn hynny yn nes ymlaen), a mwynhau bwydydd bendigedig sy'n ddigon i dynnu dŵr o'ch dannedd.

Traethau di-ben-draw

Mae'r traeth yn ymestyn mor bell ag y gwelwch yn Ninas Dinlle, i'r gogledd wrth i chi nesáu at Ben Llŷn. Os ydych chi'n mwynhau mannau diderfyn gydag ymdeimlad gwefreiddiol o le, byddwch wrth eich bodd â'r traeth hwn sy'n wynebu'r gorllewin.  Dyna ni, anadlwch bopeth i mewn.

Dinas Dinlle

Un o dafarndai traeth gorau'r byd

Daeth tafarn y Tŷ Coch, yn drydydd mewn arolwg byd-eang, o flaen tafarndai yn Awstralia, Florida a De Affrica. Saif y dafarn fwy neu lai ar draeth pentref arfordirol Porthdinllaen, sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.  Ni allwch yrru i lawr yno, felly bydd eich peint yn blasu hyd yn oed yn well ar ôl i chi gerdded ar hyd y traeth i gyrraedd y dafarn. 

Tŷ Coch, Porthdinllaen

Porthor

Mae tywod Porthor yn chwibanu - neu o leiaf yn gwichian dan eich traed yn sgil gronynnau anarferol y tywod. Mae'n draeth bychan, prydferth a glân, clasur o draeth ac yn lle delfrydol am bicnic - a ddylai wrth gwrs gynnwys cosyn o gaws arbennig lleol o Hufenfa De Arfon ger Pwllheli, cydweithredfa cynnych llaeth fwyaf blaenllaw Cymru sydd ym mherchnogaeth ffermwyr. 

Porth Oer Whistling Sands © Crown Copyright

Llonydd a lliwgar

Mae'n ddigon posib eich bod yn gyfarwydd â thraeth Llanbedrog, hyd yn oed os na fuoch chi yno erioed. Mae cytiau traeth amryliw Llanbedrog yn denu ffotograffwyr teithio (a defnyddwyr Instagram) yno fel gwenyn at bot mêl.  Mae'r cytiau traeth yn edrych allan ar draeth sydd dros filltir o hyd, un o'r traethau mwyaf llonydd yng Nghymru, dan gysgod Mynydd Tir-y-Cwmwd, pentir amlwg wedi'i warchod gan gerflun a adnabyddir fel yr Iron Man.

Llanbedrog

Dau am bris un

Mae dau draeth gwych i'w cael ym Mhwllheli, 'prifddinas' answyddogol Pen Llŷn. Y traeth mwyaf poblogaidd yw Marian y De, sy'n ymestyn tua Llanbedrog, tra mae'r traeth 'cudd', Glan y Don, i'w ganfod ger y marina.

Plas Heli, Pwllheli

Cestyll, cestyll o bob math

Adeiladwch gastell tywod ar draeth anferthol Harlech, yna ewch i weld yr un go iawn. Saif Castell Harlech, sy'n Safle Treftadaeth y Byd, uwchben y traeth.  Yn ôl y Sunday Times, mae'r traeth pedwar milltir o hyd hwn o dywod gwyn yn berffaith i deuluoedd sy'n hoffi treulio amser yn yr elfennau. Mae'n argymell y dylech adeiladu tân â broc môr...a rhoi unrhyw bysgod yr ydych wedi'u dal ar y barbeciw. 

Harlech

Mochras

Mae Mochras, neu Shell Island yn y Saesneg, yn enwog am gregyn. Heblaw am fod yn enwog am lannau sydd dan orchudd o gregyn môr, mae Mochras hefyd yn enwog am ei blodau gwyllt a'i thraethau tywodlyd. Ond peidiwch â phoeni, fyddwch chi ddim angen cwch i gyrraedd yno - mae sarn ar gael.

Mochras Shell Island © Crown Copyright Visit Wales

Aber Afon Mawddach

Abermaw (neu Y Bermo), yw'r lleoliad mwyaf poblogaidd yn ne Eryri.  Mae'n hawdd gweld pam - digonedd o le ar draeth sydd byth yn teimlo'n orlawn, lleoliad ger aber fwyaf godidog Cymru, a harbwr hardd yng nghanol adeiladau hanesyddol sy'n atgof o orffennol morwrol y Bermo.

Pont Abermaw Barmouth Bridge © Crown Copyright Visit Wales

Syrffio

Mae traeth Tywyn (sy'n wynebu'r gorllewin) yn un arall o bwys - oddeutu pum milltir o hyd ac wedi'i gefnu'n rhannol gan dwyni tywod.  Mae’n lle delfrydol i syrffio a chwaraeon dŵr eraill, ac i deuluoedd mae prom a phwll padlo.  A gyda llaw, mae'r dyfroedd hefyd yn boblogaidd â llamhidyddion harbwr a dolffiniaid trwynbwl (maen nhw ym mhobman ym Mae Ceredigion). 

Cardigan Bay

Ding-a-ling-a-ling

Mae'r gloch sy'n crogi islaw'r cei yn Aberdyfi yn canu wrth i'r llanw godi, i gofio'r chwedl ynghylch clychau o deyrnas goll yn canu dan y môr.  Dylai ymweliad â'r lleoliad swynol a'r ganolfan hwylio hon fod ar ben y rhestr i rai sy'n gwerthfawrogi harddwch arfordirol.  Lle bychan (heblaw am ei draeth helaeth), sydd wedi'i ffurfio'n berffaith, does ryfedd fod y tai sy'n wynebu'r môr yn Aberdyfi ymysg y rhai drytaf yng Nghymru. 

Aberdyfi

Aberystwyth, prifddinas y canolbarth

Mae gan Aberystwyth, 'prifddinas' Canolbarth Cymru, o leiaf dair swyddogaeth - fel lleoliad glan y môr, tref brifysgol a chanolfan siopa/weinyddol. Mae cymeriad Fictoraidd y dref yn dal yn amlwg, yn enwedig ar hyd y prom a'r traeth a saif dan gysgod Craig-lais (Constitution Hill).  Mae digonedd o gaffis, a dewis gwych o lefydd i fwyta.  Beth am Pysgoty, y bwyty pysgod godidog yn yr harbwr lle mae'r pysgod sydd wedi'u dal ar y diwrnod yn cael eu glanio, neu Ultracomida, deli a bwyty artisan ar Pier Street.  

Pysgota

Ewch ar drip pysgota epig o harbwr Cei Newydd draw i ddyfroedd helaeth Bae Ceredigion. Mae croeso i bysgotwyr newydd a phrofiadol ar y tripiau hwyliog hyn, lle y gallwch ddal popeth o fecryll i ddraenogiaid y môr, gwrachod du a lledod (does dim yn well na macrell ffres wedi'i goginio ar y barbeciw).  Os yw'n well gennych gael eich traed ar y ddaear, arhoswch ar draeth tywodlyd Cei Newydd, ger yr harbwr. 

Lawr ar lan y môr 

Mae pentref bychan Llangrannog yn gartref i ddau draeth prydferth. Yn gyfleus iawn, mae'r prif draeth wedi'i leoli'n union o flaen tafarndai a chaffis y pentref (cofiwch flasu'r hufen iâ lleol). Os ydych yn teimlo'n anturus, ewch draw i draeth Cilborth, i'r gogledd o'r pentref. Gallwch gyrraedd yno drwy gerdded ar stepiau serth i lawr ochr y clogwyn (neu o Langrannog ar lanw isel). Mae wedi'i amgylchynu â phyllau creigiog ac ogofâu. 

‘Perl Bae Ceredigion’

O ystyried safon y gystadleuaeth, mae'n rhaid bod Mwnt yn lle eithriadol i haeddu'r disgrifiad uchod. Nid oes llawer yma mewn gwirionedd - ac eithrio, traeth serennog wrth droed pentiroedd gwyrddion ac eglwys fach unig wyngalchog. Y lle perffaith. 

Galw i mewn 

Poppit Sands yw man cychwyn Parc Cenedlaethol Arfordirol Sir Benfro (neu'r man gorffen, mae'n dibynnu i ba gyfeiriad yr ydych yn teithio). Dyma draeth tywodlyd maith gyda thwyni tywod yn gefnlen iddo yn aber yr Afon Teifi, gyda golygfeydd godidog draw tua Gwbert ar yr ochr draw.

Traeth Poppit Sands

Bara beunyddiol 

Am y frechdan orau i'w bwyta ar y traeth, ewch chi ddim yn bell o'ch lle na chael bara cartref (a danteithion eraill) o'r deli yn Blas at Fronlas, Trefdraeth. Cofiwch chi, fe allwch ddewis cael bwyd yng nghaffi bach bendigedig Blas yn lle hynny.  Os oes awydd picnic arnoch, ewch â'ch brechdanau i Draeth Trefdraeth am bicnic ar y traeth helaeth hwn yn aber yr Afon Nyfer.

Meini mawreddog 

Mae'r arfordir o Drefdraeth i Dŷ Ddewi yn greigiog, yn rhychiog ac yn wyllt.  Gallwch weld yr arfordir yn ei holl ogoniant o'r llwybr arfordir - ymhlith yr uchafbwyntiau mae Pen Dinas a Pen-caer, y naill ochr i Abergwaun. 

Strumble Head

Traethau sanctaidd 

Mae Bae Porth Mawr , oddeutu milltir o Dŷ Ddewi, yn lle poblogaidd i deuluoedd a syrffwyr.  Y tywod gwyn sy'n denu'r teuluoedd a'r amodau syrffio gwych - ymysg y gorau yng Nghymru - gyda thonnau o hyd at 10tr/3m, yn amlwg, sy'n denu'r syrffwyr. 

Solfach 

Draw o Benmaen Dewi, y lle nesaf y byddwch yn ei gyrraedd yw Solfach, harbwr twt sydd wedi'i gysgodi rhag y tywydd tymhestlog a all godi o Fae Sain Ffraid, gan gilfach llawnol o ½ milltir. Ar un adeg, roedd modd hwylio oddi yma i America am y swm tywysogaidd o £3 a 10 swllt.  Fyddwch chi'n ddim o dro'n gwario hynny yno heddiw wrth i chi ymlwybro drwy'r dewis deniadol o siopau crefft ac orielau sy'n rhoi bywyd newydd i'r cyn borthladd masnachol hwn. 

Kitesurfing on Newgale Beach

Mawr a bach

Mae Niwgwl, sy'n wynebu'r gorllewin, yn enghraifft wych arall o draeth syrffio a barcud-fyrddio sydd hefyd yn denu teuluoedd.  Pentref bychan yw Niwgwl, sy'n cael ei amgylchynu'n llwyr gan ei draeth 2½ milltir o hyd.