Tyddyn Rhys Bed and Breakfast
- 1 Stars
- 2 Stars
- 3 Stars
Mae fferm Tyddyn Rhys yn cael ei redeg gan deulu sy'n siarad Cymraeg ac mae wedi'i leoli uwchben pentref hardd Aberdyfi, o fewn pellter cerdded i'r traeth, tafarndai, gwestai a siopau. Mae yna 2 ystafell wely ddwbl, y ddwy yn en-suite, a charafan moethus ar gael. O ganlyniad i'w sefyllfa uchel, mae'n hawlio golygfeydd panoramig o aber Afon Dyfi ac arfordir Bae Ceredigion, sy'n ymestyn cyn belled â Chei Newydd ac ar ddiwrnod clir, copaon bryniau Sir Benfro. Mae'r ardal o gwmpas y fferm yn ddelfrydol ar gyfer gwylio adar a cherdded. Ymwelydd rheolaidd â Thyddyn Rhys yw'r Barcud Coch. Mae yna rai llyfrau a gynhyrchir yn lleol sy'n tynnu sylw at lwybrau lleol, yn amrywio o daith 1 - 2 filltir o gwmpas y pentref, i lwybr dyddiol 15+ milltir.
Mwynderau
- En-Suite
- Darperir ar gyfer deiet arbennig
- Croesewir teuluoedd
- Cadair uchel ar gael
- Cylchdaith Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Dillad gwely ar gael
- Dim Ysmygu
- Te/Coffi
- Siaradir Cymraeg
- Cot ar gael
- WiFi ar gael
- Fferm weithiol
- Adeilad hanesyddol/heneb gerllaw
- Gorsaf tren gerllaw
- Golff ar gael (ar y safle neu gerllaw)
- Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Parcio
- WiFi am ddim
- Traeth gerllaw
- Llwybr cerdded gerllaw