Tu Hwnt i’r Teithlyfr

Rydach chi’n tybio eu bod nhw yno, ond efallai ddim yn hollol siŵr ymhle. Y corneli cudd hynny, y llecynnau sy’n llechu oddi ar y briffordd ym mhob bro. Mae’r atyniadau mawr yn fawr am reswm. Ond mae Eryri hefyd yn llawn dop o atyniadau tawelach. Trowch eich cefnau ar y torfeydd a dewch i’w canfod nhw drosoch chi’ch hun.

Bangor

Cychwynnwch yn ninas Bangor. Ond nid yng nghanol y ddinas chwaith. Yn hytrach, i lawr ar lannau’r Fenai, o olwg prysurdeb y stryd, mae yma drysor o bier – yr ail hiraf yng Nghymru gyfan. Mae’r golygfeydd yn cipio anadl. Dyna i chi arfordir Ynys Môn o’ch blaen, y dyfroedd glas oddi tanoch, a’r tu ôl i chi, Eryri a’i chopaon yn codi i’r entrychion. Mae’n bier hawdd ei gerdded, ac ar ôl cyrraedd y pen draw, cyn codi llaw ar drigolion Môn, ymlaciwch yng nghaffi gwych y Pavilion. Yn ôl ym Mangor ei hun (sydd â chysylltiadau bysus a threnau hwylus), cofiwch am oriel ac amgueddfa Storiel, neu ewch i gael cip ar Gadeirlan Deiniol Sant. Anelwch wedyn am Fangor Ucha’ i fwynhau llymaid yn nhafarn eiconig Y Glôb neu bizzas Neapolitaidd o’r iawn ryw ym mwyty Jones’ Pizza.

Muriau Tref Conwy

Bymtheg milltir ar hyd yr arfordir i’r dwyrain, dyma gyrraedd tref hanesyddol Conwy. Ydy, mae’r dref a’i chastell yn denu ymwelwyr rif y gwlith, ond nid pawb sy’n gwybod am y daith arbennig ar hyd y muriau canoloesol. Yn wir, am dri chwarter milltir yn ddi-dor, mae modd cerdded dros rai o waliau hynafol gorau Ewrop. Rhybudd bach i chi: maen nhw’n uchel! Ond eich gwobr fydd golygfeydd gwerth chweil o’r strydoedd cul islaw, tra bydd aber afon Conwy’n disgleirio yn y pellter. A’r cyfan yn rhad ac am ddim. A chithau yn y dref, piciwch i lawr i’r cei i gael sbec yn Amgueddfa Cregyn Gleision Conwy, neu rhowch eich trwyn dros drothwy’r tŷ lleiaf ym Mhrydain.

The Smallest House in Great Britain


Ac os am lenwi’ch boliau, mae Conwy’n llawn dop o gaffis a thafarndai ardderchog, gyda bwyty The Jackdaw ar y Stryd Fawr yn prysur greu enw iddo’i hun am ansawdd y coginio.

The Jackdaw
The Jackdaw

Traeth Towyn, Tudweiliog

Trowch eich golygon am Ben Llŷn nesaf, ardal arall sy’n denu’r twristiaid yn eu heidiau. Ond nid cymaint felly’r traeth sy’n swatio o dan gesail fferm Towyn yn Nhudweiliog. O’r lôn, prin y byddech chi’n gwybod ei fod yno. Ar ôl parcio ar y fferm, anelwch trwy’r giât ac i lawr y llwybr tua’r môr. Yn sydyn, bydd bae cysgodol o dywod euraidd yn ymestyn fel lledrith o’ch blaenau. Mae yma byllau crancod i’r plant, digonedd o lefydd chwarae, a thonnau braf i nofio ynddyn nhw. Nid gormodiaith ydy dweud bod hwn yn draeth cwbl odidog. Yn ôl i fyny’r allt, mae siop a chaffi Cwt Tatws yn sicr o’ch difyrru gyda’u casgliad helaeth o ddillad, gemwaith a nwyddau i’r cartref, tra bo’r Lion Hotel yn y pentref yn enwog am ei brydau swmpus.  

Cylchdaith Porthmadog

Porthmadog ydy un o brif drefi’r gogledd-orllewin, ond tybed faint sy’n gwybod am y gylchdaith gampus i gerddwyr sydd yno? Mae’n llwybr dros chwe milltir o hyd, ond yn cynnwys dipyn bach o bob dim. Ar eich taith, fe ddewch chi ar draws pentref glan môr tlws Borth-y-Gest; gwarchodfa natur Parc y Borth; pentref hanesyddol Tremadog a’i adeiladau Sioraidd; a thref borthladd brysur Porthmadog ei hun, lle mae’r Cob enwog yn croesi’r Foryd a Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri’n gadael am Feddgelert a Chaernarfon. Drwy’r holl daith, fe gewch chi olygfeydd heb eu hail o’r aber, o Fae Ceredigion, ac o fynyddoedd ysblennydd y Rhinogydd a’r Moelwynion. Os am dorri syched, mae gan Borthmadog sawl lle gwych am baned, gan gynnwys y Big Rock Cafe ar y Stryd Fawr. Neu os am rywbeth cryfach, mae siop Bragdy Mŵs Piws ychydig ddrysau i lawr. Yn y dref hefyd mae Siop Fawr Portmeirion, siop adrannol hynaf Cymru yn ôl y sôn, a honno’n masnachu ers 1874. 

Ffestiniog and Welsh Highland Railways

 

Ffestiniog and Welsh Highland Railways

Yr Ysgwrn, Trawsfynydd

Tŷ fferm cyffredin ar y llethrau uwchben Trawsfynydd oedd Yr Ysgwrn ar un adeg. Heddiw, mae’n bopeth ond tŷ fferm cyffredin. Fan hyn oedd cartref Hedd Wyn, y bardd a enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol 1917, ond a gafodd ei ladd yn y Rhyfel Mawr cyn clywed y newyddion. Gan hynny, mae’r lle’n drwm o symboliaeth. Mae’n ddrych o effaith rhyfel ar gymuned. Ac mae’n gapsiwl amser sy’n rhoi cofnod i ni o hanes cymdeithasol, diwylliannol ac amaethyddol y rhan hon o Gymru ar droad yr ugeinfed ganrif. Dewch yma ac fe deimlwch chi arwyddocâd y lle, ynghyd â’r tristwch, yn y cerrig a’r distiau. Mae’r mynediad am ddim, tra bo hefyd ddigonedd o lwybrau cerdded a llefydd i gael picnic. Gerllaw, mae Llwybrau Defaid Eryri a Pharc Coed y Brenin yn rhoi mwy o gyfleoedd i grwydro yn yr awyr agored. Piciwch i’r Oakley Arms neu’r Grapes Hotel ym Maentwrog wedyn am hoe.

Foel Caerynwch, Dolgellau

Nid pawb sydd â’i fryd ar goncro’r Wyddfa neu Gadair Idris, ond efallai fod y syniad o ddringo mynydd yn dal i apelio. Ewch am dro i gopa Foel Caerynwch os hynny. O bentref Brithdir, tua dwy filltir o daith ydy hi i’r copa, a’r llwybr yn esgyn bron i chwe chan troedfedd. Ond bydd yr ymdrech gymedrol honno’n werth chweil. Mae’r golygfeydd o fryniau Meirionnydd yn rhagorol, ac felly hefyd Ddyffryn Clywedog a thonnau Tal-y-llyn yn y pellter. Uwch eich pen, cadwch olwg am y cudyll coch a’r bwncath. Ac os ydy daeareg yn mynd â’ch bryd, filoedd o flynyddoedd yn ôl, byddai’r copa hwn yn fforch rhwng dau rewlif anferth. Y rheini a greodd y dyffrynnoedd oddi tanoch wrth symud am Iwerddon. Os ydych chi’n bwriadu dod â’ch cyfaill blewog am dro hefyd, yna cofiwch bod angen cadw cŵn ar dennyn, yn enwedig os ydych chi yn ymyl da byw. Mae rhagor o wybodaeth yma ar fynd a’ch ci am dro mewn modd diogel yn Eryri. Ar ôl cyrraedd y gwaelodion yn ôl, dydy tref Dolgellau ddim yn bell, ac mae yno ddigonedd o lefydd bwyd a diod campus. Yn eu plith mae siop win Dylanwad a chaffi hyfryd o hen ffasiwn T H Roberts wrth y sgwâr.

Craig y Fron, Bala

Llwybr cymharol hawdd arall ydy llwybr Craig y Fron, yn cychwyn o dref y Bala y tro hwn, ac yn anelu am y bryniau sydd ar ochr ogleddol y dref. Dyma daith hamddenol, a allai fod yn addas i’r teulu. Ar ôl dringfa gyson, bydd y llwybr yn gwastatáu, a chithau wedyn yn disgyn ar draws tir pori. Fe gewch olygfeydd o’r Bala ei hun ac o hen chwarel, cyn cael cyfle i edmygu’r cadwyni o fynyddoedd o’ch cwmpas. Ond un o atyniadau mawr eraill y llwybr hwn ydy’i agosrwydd at y dref. Mewn tywydd teg, beth am neidio i Lyn Tegid am drochfa, neu fel arall trowch am y Stryd Fawr i flasu sglodion enwog Y Badell Aur neu bryd yng nghaffi a bistro’r Cyfnod.

Llyn Tegid
Llyn Tegid