Trawsfynydd

Canolfan arall sydd mewn lleoliad da i gerdded a beicio gan ei bod yn agos at y mynyddoedd a’r llwybrau ym Mharc Coedwig Coed y Brenin. Cafwyd nifer o ddatblygiadau ger Llyn Trawsfynydd, neu Lyn Traws - a ysbrydolwyd gan brosiect Un Antur Fawr/Canolfannau Rhagoriaeth. Mae’r llyn y dod yn fangre poblogaidd i weithgareddau ac antur ac yn le ardderchog i bysgota brithyll a physgod bras, cerdded, gwylio adar, canŵa, ceufadu gyda llwybr cylch beic newydd, glanfa i gychod a chanolfan i ymwelwyr gyda chaffi.

Ewch i ymweld â Hostel a Chanolfan Dreftadaeth Llys Ednowain sy’n rhoi cipolwg i chi o’r diwylliant lleol a Thrawsfynydd yn y dyddiau a fu. Mae man gwybodaeth Ein Treftadaeth yn amddiffynfa Rufeinig Tomen-y-Mur. Gerllaw mae’r Ysgwrn, ffermdy oedd yn gartref i’r bardd Hedd Wyn a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Y Gadair Ddu/The Black Chair
Y Gadair Ddu