Traeth Machroes
Abersoch, Gwynedd, LL53 7EU
Mae Machroes yn draeth hir, tywodlyd wedi'i leoli i'r de o Abersoch, gan uno â Thraeth Abersoch ac o flaen Clwb Golff Abersoch. Ym mhen deheuol y traeth mae maes parcio bach a thoiledau. Mae'r traeth, sy'n cael ei gyrchu drwy lithrfa, yn cael ei rannu gan nifer o grwynau pren, sy'n helpu i atal erydu. Mae maes parcio gweddol fawr hefyd ar gyrion Abersoch, taith gerdded fer o Draeth Machroes.
Rhybudd Diogelwch Traeth Machroes
Dilynwch ganllawiau Mentra’n Gall a’r RNLI i gael mwyniant diogel o’n arfordir.
Byddwch yn ymwybodol o’r peryglon canlynol ar draeth Machroes. Edrychwch am yr arwyddion coch sy’n cynnwys gwybodaeth perthnasol am y rhan hynny o’r traeth.
- Peidiwch a chael eich dal ar y banciau tywod gan y llanw
- Byddwch yn wyliadwrus o gychod pŵer
- Byddwch yn wyliadwrus o gerbydau yn gyrru ar y traeth ac yn y fynedfa
- Gofal – gwrthrychau tanddwr
- Cymerwch ofal gydag offer enchwythedig mewn gwynt cryf
- Peidiwch a tyllu na thyrchu yn y twyni tywod
Mewn argyfwng galwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau
Mwynderau
- Toiled
- Parcio