Straeon yr Arfordir

Mae'r daith chwe diwrnod hon o oddeutu 200 milltir yn seiliedig ar lwybr Ffordd yr Arfordir a lansiwyd yn ddiweddar, o bellafoedd Sir Benfro yn y de, i Aberdaron ym 'mhen draw'r byd yng Ngogledd Cymru.  Wrth deithio ar hyd gogledd Sir Benfro, ehangder Bae Ceredigion a glannau deheuol Pen Llŷn, byddwch yn siŵr o gael amrywiaeth o brofiadau arfordirol syfrdanol. 

Diwrnod 1

Mae artistiaid, pererinion a rhai sy'n caru harddwch arfordirol di-gyffwrdd yn cael eu denu i ddinas fechan Tŷ Ddewi, sydd wedi codi o'r tir o amgylch cadeirlan lle y bu i Dewi Sant, nawddsant Cymru, sefydlu cymuned grefyddol yn y 6ed ganrif.  I ddechrau, ewch draw i Oriel y Parc, canolfan ymwelwyr ac oriel gelf arloesol Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, i gael eich traed danoch.  Yna, ewch ar daith mewn cwch drwy ddyfroedd sy'n gyfoeth o fywyd gwyllt tuag at Ynys Ramsey.

St David's Cathedral © Crown Copyright Visit Wales

Dros nos:  Mae dewis da o lefydd i aros.  Beth am westy westy gwobrwyedig Tŵr y Felin (celfyddydol a moethus iawn), neu beth am ymlacio yn llety cyfforddus Penrhiw Hotel?

Diwrnod 2

Galwch heibio Porthgain, harbwr bychan gydag apêl anghonfensiynol.  Mae hanes diwydiannol annisgwyl ym Mhorthgain, gan y bu'n borthladd chwarelyddol yn y gorffennol.  Mae olion y swyddogaeth hanesyddol hon yn parhau, law yn llaw â siediau'r pysgotwyr (prynwch eich crancod a'ch cimychiaid ffres yma), bwyty bwyd môr nodedig, a'r Sloop Inn, tŷ tafarn heb ei ail. 

Porthgain ©PNCPA

Yna, ymlaen â chi ar hyd y lonydd bach tuag at ddiwydiant gwledig mwy confensiynol sy'n ffynnu hyd heddiw.  Mae Melin Tregwynt, ger Abergwaun, a sefydlwyd yn y 17eg Ganrif, wedi symud gyda'r oes i gynhyrchu dyluniadau a ffabrigau ffasiynol sy'n cael eu gwerthu ledled y byd. 

Nawr, ewch draw i Gwm Gwaun, cwm cudd lle maent yn dathlu'r Flwyddyn Newydd yng nghanol mis Ionawr, yn unol â chalendr cyn-1752.  Fe laniwch yn Nhrefdraeth, tref fechan trendi a phoblogaidd gyda'i thafarndai, bistros, traeth a Pharrog (hen 'borthladd' Trefdraeth). 

Newport Parrog

Dros nos:  Mae digon o lefydd i aros ar gael yn Aberteifi a'r cyffiniau.  Beth am Bethsaida yn Llandudoch, llety Gwely a Brecwast atmosfferig mewn cyn gapel.  Neu beth am fyw fel brenin drwy aros dros nos yng Nghastell Aberteifi. 

Diwrnod 3

Mae apêl Aberteifi'n gryfach nag erioed, diolch i'r gwaith gwobrwyedig sydd wedi'i wneud i adnewyddu'r castell, a saif mewn lleoliad dominyddol yn edrych dros aber Afon Teifi.  Mae’r safle hanesyddol diddorol hwn hefyd yn cynnwys plasty Sioraidd golygus a chaffi/bistro.  Yna, mae'n amser ymlwybro ar hyd strydoedd Aberteifi sy'n frith o siopau annibynnol.

Teithiwch ar hyd y lonydd sy'n arwain oddi ar yr A487 i Langrannog, pentref arfordirol hudolus.  Ewch am dro ar hyd y traeth, a chymerwch olwg ar Garreg Bica.  Neu, dilynwch y llwybr arfordir i Ynys Lochtyn, penrhyn glaswelltog yn frith o greigiau mân cwarts a fflora lliwgar sy'n ymwthio i Fae Ceredigion fel pen blaen llong anferthol.   Dyma un o'r mannau gorau i weld dolffiniaid oddi ar y lan yn y DU, yn ôl y Sunday Times.  

Saif Cei Newydd, tref harbwr nodweddiadol ym Mae Ceredigion, uwchben cilfach daclus o dywod.  Gwelir olion o'i hanes morwrol ar hyd y cei, lle mae rhestr o'r tollau a godwyd i lanio cargo i'w gweld yno - popeth o lo i eirch.  Roedd Dylan Thomas wedi gwirioni cymaint ag awyrgylch forwrol Cei Newydd, nes bod y dref wedi dylanwadu ar ei waith o greu'r campwaith Under Milk Wood.

Dros nos:  Mae digon o amrywiaeth o lety i'w gael yn Aberystwyth, y dref glan-môr, y dref prifysgol a phrifddinas answyddogol canolbarth Cymru.  Am lety cyfoes Cymreig, arhoswch yng Ngwesty Cymru.  Mae Gwesty'r Richmond ar lan y môr hefyd - dyma adeilad rhestredig sydd wedi'i ailfodelu'n ofalus.   

Diwrnod 4

Ymhlith atyniadau Aberystwyth y mae'r Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Ceredigion, Rheilffyrdd Cwm Rheidol a'r Graig, y marina a'r siopau gwych.  Wrth i chi yrru tua'r gogledd drwy Borth, rydych yn dilyn rhan bwganaidd o'r arfordir a adwaenir fel Cantre'r Gwaelod, teyrnas chwedlonol a gollwyd i'r môr. 

Mae Aberdyfi'n lleoliad chwaethus ac yn ganolfan hwylio ac mae yno draeth mawr sy'n boblogaidd ag adeiladwyr cestyll tywod a hwylfyrddwyr.  Mae digonedd o dywod i'w gael yn Nhywyn hefyd.  Ond, os ydych chi ffansi dianc o'r arfordir am sbel, ewch am dro ar Reilffordd Talyllyn i arhosfa fynyddig Nant Gwernol. 

Yna, byddwch yn cyrraedd aber odidog Cymru lle mae Afon Mawddach yn ymuno â Bae Ceredigion, dyma gyfuniad trawiadol o fynyddoedd, coedwigoedd, traethelli a'r môr.&nbsp

Dros nos:  Mae Abermaw (Y Bermo) yn lleoliad delfrydol i chwilota yn y mynyddoedd ac ar yr arfordir.  Arhoswch yng Ngwesty Endeavour neu Glandwr Mill, sydd oddeutu milltir o'r dref.   

Diwrnod 5

Mwynhewch olygfeydd godidog o Eryri o furiau Castell Harlech, safle Treftadaeth y Byd sydd y drws nesaf i gwrs golff sydd gyda'r gorau yn y byd.  Saif y castell ar glogwyn creigiog sy'n edrych dros gwrs golff lincs Brenhinol Dewi Sant, ac yn wreiddiol, roedd ganddo fynediad i'r môr.  Bellach, mae'r arfordir wedi symud ac mae'r castell yn dirgaeedig.

Cwrs Golff Harlech Golf Course

Ymhellach i fyny'r arfordir, mae lleoliad unigryw Portmeirion. Dyma bentref swreal sy'n fyrdd o arddulliau gwahanol, ac mae'n cymysgu Rifiera'r Eidal â Lloegr y Tuduriaid a'r Dwyrain Pell.  Roedd yn lleoliad delfrydol i'w ddefnyddio fel y pentref arallfydol lle roedd Patrick McGoohan wedi'i gaethiwo yn y gyfres deledu gwlt o'r 1960au, The Prisoner. 

Portmeirion Tower

Dafliad carreg i ffwrdd mae Porthmadog, y porthladd llechi hanesyddol sydd bellach yn gyrchfan i unrhyw un sy'n ymddiddori mewn rheilffyrdd (mae tair rheilffordd dreftadaeth yma).  Saif y dref ym mhorth deheuol Pen Llŷn, sy'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.  Gerllaw, mae Cricieth a'i chastell, sy'n dref ag ymdeimlad Fictoraidd iddi. 

Porthmadog

Dros nos:  Mae Abersoch yn lleoliad poblogaidd arall yn Llŷn.  Arhoswch yng Ngwesty Porth Tocyn, sy'n hen ffefryn, neu Venetia, sy'n fwyty boutique gydag ystafelloedd. 
 

Day 6

Mae cytiau traeth amryliw Llanbedrog yn llamu o dudalennau nifer o deithlyfrau.  Mae myrdd o liw i'w ganfod y tu mewn i furiau Plas Glyn-y-Weddw hefyd, sy'n un o brif orielau celf cyfoes Cymru.

Beach Huts, Llanbedrog

Daw'r daith i ben yn swyddogol yn Aberdaron, y pentref ym mhen draw Llŷn. Dowch i ddysgu mwy am y penrhyn hwn a'i dreftadaeth Celtaidd yng Nghanolfan Ymwelwyr Porth y Swnt, neu ewch am dro mewn cwch i Ynys Enlli, 'Ynys yr 20,000 o Seintiau'. 

Er mai dyma ddiwedd y daith 'swyddogol', mae'n werth mynd y filltir ychwanegol (13 i fod yn fanwl gywir), i ymweld â phentref arfordirol Porthdinllaen, sydd ym mherchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a thref braf Nefyn

Porth Dinllaen © Crown Copyright (2016) Visit Wales