Statws Gwarchodfa Awyr Dywyll ar gyfer Eryri - Yr Ochr Dywyll

Efallai y bydd rhai ohonoch yn cofio’r diweddar, anfarwol Patrick Moore, y serydd anghyffredin oedd y cyntaf, trwy ei raglen deledu The Sky at Night i’r BBC, i boblogeiddio seryddiaeth.

Pe bai’n fyw heddiw, fe fyddai ar ben ei ddigon o weld y diddordeb sydd wedi ei gynnau ynghylch y ffurfafen a’i galaethau di-ben-draw o sêr, gofod a thyllau duon. Heb os nac oni bai, fe fyddai’n mynd am Barc Cenedlaethol Eryri ar ei union, a gafodd ei ddynodi,
yn 2015, y 10fed Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol yn y byd.

Yr ochr dywyll

Felly, beth yw Gwarchodfa Awyr Dywyll? Mae’n wobr fawreddog a gyflwynir gan y Sefydliad Awyr Dywyll Ryngwladol i lefydd gydag ansawdd awyr nos ragorol a ble mae ymdrechion gwirioneddol yn cael eu gwneud i ostwng llygredd golau.

Cofiwch, roedd gennym ni rywfaint o fantais yma yn Eryri Mynyddoedd a Môr. Yn naturiol, rydym yn byw yn un o lefydd tywyllaf De Prydain. Gan fod ein tiriogaeth amhoblog dros 800 milltir sgwâr, mae’n lle delfrydol i syllu ar y sêr, yn arbennig yn ein perfeddwlad,
fynyddig, arw.

O edrych ar bethau fel hyn: Mae hi’n dywyll yn Eryri, ond rydym yn goleuo’r ffurfafen.

Ar y cyfan, mae Cymru’n arwain y blaen. Mae ardaloedd Awyr Dywyll ddynodedig hefyd ym Mannau Brycheiniog, Arfordir Penfro a Chwm Elan. Yn ôl y Sefydliad Awyr Dywyll, sydd â’i bencadlys yn Tucson, Arizona: ‘Mae Cymru bellach yn arwain y byd gyda’r canran o’i thiriogaeth sydd â statws gwarchodedig i’w hawyr dywyll... ‘Does yr un wlad arall wedi llwyddo gymaint i gydnabod
gwerth awyr dywyll naturiol a chymryd camau pendant i’w warchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Gweld sêr

Felly, ble ddylem ni edrych? Wel, unrhyw le yn y rhan hon o Gymru. A does dim angen buddsoddi mewn cyfarpar drud. Yn aml, bydd y llygad neu binociwlars yn gwneud y tro.

Yn gyffredinol, o edrych tua’r de yn dibynnu ar y tymhorau, fe allwch weld Orïon yr Heliwr, yr Efeilliaid (Gemini), Seren y Ci neu Seren y Gweithiwr (Sirius), y Bladur neu’r Sosban, Triongl yr Haf (Altair), yr Alarch (Cygnus), sgwâr Pegasus, a’r Llwybr Llaethog (ein galaeth ni).

Tua’r gogledd, mae’r sêr yma’r un fath trwy gydol y flwyddyn, felly gellir eu canfod yn rhwydd ar noson glir. Mae’r criw o sêr a elwir Y Bladur yn hawdd iawn i’w hadnabod. Mae eraill megis Llys Dôn (Cassiopeia) ac, wrth gwrs, Seren y Gogledd (Polaris) hefyd yn rhai adnabyddus.

Pump o’r goreuon

Dyma restru ambell leoliad ble gallwch gael golygfa ardderchog o awyr y nos.

Llyn y Dywarchen

Llyn bysgota boblogaidd hyd ymyl y B4418 uwchlaw pentref Drws y Coed yn Nyffryn Nantlle, oddi ar ffordd yr A4085 rhwng
Beddgelert a Chaernarfon yn Rhyd Ddu.

Llyn Geirionydd

Mae’r llyn hwn, â choedwig yn ei amgylchynu, yn llechu yn y bryniau i’r gorllewin o Drefriw yn Nyffryn Conwy. Gellir mynd ato ar hyd ffordd fechan gul. Mae ymdeimlad o unigedd gwirioneddol yma, yn arbennig liw nos.

Llynnau Cregennen

Dau lyn yn swatio ar lethrau Cader Idris yn neheubarth Eryri ydynt. Llynnau mwyaf atmosfferig y Parc i gyd o bosib. Y ffordd
rwyddaf i’w cyrraedd yw o’r gorllewin, ar hyd y ffordd fach o Ddolgellau.

Tŷ Cipar

Saif hen gartref y cipar hwn mewn llecyn anial yn uchel ar lethrau’r Migneint. O’i amgylch mae’r gors eang yn ymestyn o Ysbyty Ifan i Lan Ffestiniog ac mae’n fwrlwm o fywyd gwyllt. Ar y B4407 y mae, rhyw 4 milltir a hanner i’r de-orllewin o Ysbyty Ifan a 5 milltir a hanner i’r gogledd ddwyrain o Lan Ffestiniog.

Bwlch y Groes

Mae Bwlch y Groes, sef ffordd fynydd uchaf Cymru â tharmac arni ac sy’n cysylltu Dinas Mawddwy a Llanuwchllyn, yn codi i 1,791
troedfedd/546 metr. Yn ogystal â’i hawyr eglur liw nos, mae hefyd yn werth ymweld â’r fan hon liw dydd er mwyn gweld y olygfeydd
godidog sy’n ymestyn o Gader Idris at Fynyddoedd y Berwyn.