Rhos Ddu
- 1 Stars
- 2 Stars
- 3 Stars
- 4 Stars
- 5 Stars
Mae croeso cynnes yn eich aros yn y bwthyn gwledig traddodiadol yma. Wedi'i leoli yng nghefn gwlad gyda golygfeydd o'r Wyddfa a'r Parc Cenedlaethol. Yn cynnig heddwch a llonyddwch, eto dim ond 4 milltir o dref lan môr Cricieth gyda'i draeth, castell a siopau diddorol. Mae Rhos Ddu yn safle da o ble y gallwch chi edrych ar Eryri a Phenrhyn Llŷn. Mae gan y tŷ ddwy ystafell wely, ystafell wely maint y Brenin gydag en-suite ac ystafell ddwbl arall a phrif ystafell ymolchi gyda chawod dros y baddon. Mae'r bwthyn yn darparu encil hyfryd ar gyfer cyplau sy'n chwilio am gyrchfan rhamantus y tu allan i'r tymor - gyda chynhesrwydd a chysur. Mae'r perchnogion yn gofalu'n bersonol am y llety gan sicrhau bod yr holl westeion yn cael yr arhosiad perffaith.
Mwynderau
- En-Suite
- Peiriant golchi ar y safle
- Croesewir teuluoedd
- Telerau arbennig i fwrw’r Sul, ganol wythnos neu wyliau byrion ar gael
- Cadair uchel ar gael
- Gweithgareddau awyr agored gerllaw
- Cylchdaith Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Dillad gwely ar gael
- Gardd
- Te/Coffi
- Siaradir Cymraeg
- Cot ar gael
- Caniateir anifeiliaid anwes drwy drefniant
- WiFi ar gael
- Adeilad hanesyddol/heneb gerllaw
- Llwybr beicio Sustrans gerllaw
- Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Derbynnir cardiau credyd
- Parcio
- Cawod
- WiFi am ddim
- Beicio mynydd gerllaw
- Llwybr beicio gerllaw
- Llwybr cerdded gerllaw
- Archebu ar-lein ar gael