Pwllheli

Mae gan ‘brifddinas’ Llŷn sawl rôl - mae’n gyrchfan glan môr ag iddi draeth coeth, ac yn dref farchnad brysur ag orielau celf a chanolfan hwylio a chwaraeon dŵr hynod boblogaidd gydag un o’r marinâu modern gorau yn y DG. Rhydd Hafan Pwllheli fynediad i ddyfroedd hwylio deniadol Bae Ceredigion a Môr Iwerddon. 

Dewch i weld y bywyd gwyllt - morloi, adar y môr a dolffiniaid - ar deithiau arfordir ar y môr. Mae Neuadd Dwyfor yn llwyfannu ystod eang o adloniant yn cynnwys ffilmiau, cynyrchiadau gan gwmnïau teithiol, opera, dramâu a bale. Mae yma le da i siopa gydag amrywiaeth ddiddorol o siopau llai. Canolfan hamdden ragorol i gadw’r plant yn ddiwyd ynghyd â Pharc Glasfryn sy’n llawn gweithgareddau. Golff heriol gyda golygfa - cymysgfa o dir parc a meysydd golff - yn un o brif gyrsiau gogledd Cymru. Mae tŷ canoloesol Penarth Fawr gerllaw.