Porthmadog

Tref harbwr brysur gydag ystod dda o siopau ac atyniadau, gan gynnwys Portmeirion gerllaw. Nid yw’r rhai sy’n frwdfrydig am reilffyrdd lein cul yn gallu cadw draw. Mae Porthmadog yn brif ganolfan, gyda dim llai na thair lein - Rheilffordd Ffestiniog (sy’n rhedeg i Flaenau Ffestiniog), Rheilffordd Eryri (sy’n rhedeg yr holl ffordd i Gaernarfon) a Rheilffordd Ucheldir Cymru sy’n fyrrach (gyda’i hamgueddfa reilffordd ymarferol ragorol). 

Nid trenau oedd yr unig ddull o deithio yn hanes Porthmadog fel canolfan bwysig oedd yn gwasanaethu’r diwydiant llechi. Mae Amgueddfa Forwrol y dref yn adrodd yr hanes o sut y tyfodd y dref yn gyflym yn yr 19eg ganrif i fod yn borthladd allforio llechi ac adeiladu llongau ar gyfer sgwneri tri mast hardd a enwir yn Western Ocean Yachts. Un o dirnodau mwyaf poblogaidd Porthmadog yw’r Cob, arglawdd sy’n filltir o hyd ar draws yr aber a ymffurfiodd dynged y dref. Mae Porthmadog yn le da i gerddwyr a beicwyr - dilynwch Lwybr Arfordir Cymru a llwybr beic Lôn Ardudwy. 

Os yn chwilio am lety a phethau i'w gwneud o gwmpas Porthmadog yna cliciwch y linciau isod.

Llety: Rhestr I Map
Atyniadau/Gweithgareddau: Rhestr I Map
Llefydd i fwyta: Rhestr I Map