Parc Teithiol Llanberis
- 1 Stars
- 2 Stars
- 3 Stars
- 4 Stars
- 5 Stars
Mae Parc Teithiol Llanberis ar gyrion pentref tlws Llanberis, sydd ar lan ddeheuol Llyn Padarn ac wrth droed yr Wyddfa, y mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr. Wedi'i amgylchynu gan olygfeydd syfrdanol a gyda golygfeydd godidog o Fynydd yr Wyddfa ei hun, mae'r parc pwrpasol o'r radd flaenaf wedi'i leoli llai na phum munud o gerdded o bentref tlws Llanberis ac mae'n cynnig heddwch a llonyddwch i ymwelwyr. Gyda 35 o leiniau caled ac 19 o leiniau gwych, mae gan y parc gyfleusterau o'r radd flaenaf gan gynnwys derbynfa / siop foethus a thoiledau ac ystafell ymolchi gyda gwrês canolog. Mae Parc Teithiol Llanberis mewn sefyllfa berffaith ar gyfer darganfod ac archwilio llu o atyniadau modern a hynafol cyffrous, gan gynnwys Zip World, y llinell wib hiraf yn Ewrop a Surf Snowdonia, morlyn syrffio mewndirol cyntaf y byd. Felly, os ydych chi'n chwilio am barciau teithiol yng Ngogledd Cymru fe welwch fod y parc carafanau gwych hwn yn Llanberis yn ddewis bendigedig.
Mwynderau
- Peiriant golchi ar y safle
- Toiled cemegol
- Siop gwerthu bwyd ar y safle
- Croesewir teuluoedd
- Telerau arbennig i fwrw’r Sul, ganol wythnos neu wyliau byrion ar gael
- Pwynt gwasanaeth fan wersylla
- Gwaredir dŵr llwyd a gwastraff
- Arhosfan bws gerllaw
- Llwybr beicio Ffordd Brailsford Way gerllaw
- Gweithgareddau awyr agored gerllaw
- Nwy ar gael
- Caniateir anifeiliaid anwes drwy drefniant
- WiFi ar gael
- Llaeiniau llawr caled
- Adeilad hanesyddol/heneb gerllaw
- Darpariaeth ar gyfer ymwelwyr anabl
- Golff ar gael (ar y safle neu gerllaw)
- Derbynnir cardiau credyd
- Pwynt trydan
- Cawod
- Golchdy
- Pwynt cysylltu sustem ddraenio
- Cyfleusterau plant
- Arhosfan Sherpa gerllaw
- Beicio mynydd gerllaw
- Llwybr beicio gerllaw
- Llwybr cerdded gerllaw