Nefyn

Pentref glan môr poblogaidd ar yr arfordir gogleddol gyda harbwr, amgueddfa a chilgant tywodlyd gosgeiddig sy’n arwain at brydferthwch Porthdinllaen. Mae Amgueddfa Forwrol Llŷn a ail-agorwyd yn ddiweddar yn adrodd hanes perthynas stormus y penrhyn gyda’r môr. Nid yw’r cwrs golff enwog sydd ar y pentir yn anaddas i’r rhai gwangalon yn eich mysg – mae chwarae arno fel chwarae ar fwrdd llong awyrennau. I gerddwyr, mae’r pentref yn ganolfan ddelfrydol, hanner ffordd ar hyd llwybr arfordir gogledd Llŷn.