Meini Mawreddog - Cestyll Clasurol yn Eryri

Am ddiwrnod o hwyl i'r teulu, beth am goncro un o'n cestyll canoloesol anhygoel? Mae'r henebion nerthol hyn yn ennyn dychymyg plant o bob oed - gyda'u maint, eu golygfa a'u llu o straeon sy'n llechu rhwng eu cerrig hynafol. Gallwch weld cestyll anhygoel ledled Eryri, lle gallwch deithio trwy amser ac ymgolli yn nhreftadaeth gyfoethog ein rhanbarth.  

Adeiladwyd rhai o'n cestyll gan dywysogion brodorol Cymreig, tra bod eraill wedi deillio o oresgyniad brenhinoedd Lloegr. Mae rhai yn cynnwys ychydig o'r ddau hyd yn oed. Mae gan bob un ei hud a'i awyrgylch ei hun, sy'n barod i gael eu profi gan anturiaethwyr eiddgar.

I ddechrau ar eich taith, rydym wedi creu canllaw ar gyfer rhai o'n safleoedd hanesyddol mwyaf trawiadol. Rydym hefyd wedi awgrymu ychydig o atyniadau a gweithgareddau eraill y gallwch eu mwynhau ochr yn ochr â'ch ymweliad â chastell.

Castell Caernarfon 

Caer rymus a chyfoethog

Ffeithiau caled
Yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO sy'n cynnwys cestyll mewn mannau eraill yn Eryri yng Nghonwy a Harlech (mwy amdanynt yn nes ymlaen), Castell Caernarfon yw'r mwyaf mawreddog a'r mwyaf trawiadol o gaerau Edward I yng Ngogledd Cymru. Dechreuodd y gwaith ar y castell ym 1283, gan gymryd 47 mlynedd i'w gwblhau ar gost sylweddol o £25,000 – tua £19 miliwn mewn arian heddiw.

Hyd yn oed 700 mlynedd yn ddiweddarach, ymddengys y bu’n fuddsoddiad go lew. Mae graddfa fawreddog y castell yn creu argraff enfawr ac mae taith gerdded o amgylch y tyrau a'r rhagfuriau uchel yn antur a hanner. Mae hyd yn oed yn haws ei ddringo heddiw hefyd - diolch i waith adnewyddu diweddar ar Giât y Brenin sydd wedi ychwanegu lifft a llwyfan gwylio eang. 

Castell Caernarfon Castle


Dywedwch stori wrtha' i
Dyluniwyd Castell Caernarfon gyda dibenion symbolaidd a milwrol mewn golwg. Ynghyd â sicrhau lleoliad strategol wrth aber afon Seiont, roedd Edward I eisiau gwneud safiad na allai'r brodorion afreolus Cymreig ei anwybyddu. Roedd tyrau amlochrog Caernarfon, wedi'u haddurno â bandiau o gerrig lliw, yn adleisio muriau Rhufeinig ymerodrol Caer Gystennin, tra bod eryrod wedi'u cerfio ar dyrau Tŵr yr Eryr yn eu hatgoffa o safonau'r lleng Rhufeinig. Ceisiodd Edward hefyd gysylltu ei gastell â hanes Macsen Wledig, ymerawdwr Rhufeinig chwedlonol a ddaeth yn Frenin y Brythoniaid.

Bu ymdrechion Edward yn llwyddiannus i raddau helaeth, gyda Chaernarfon yn dod yn ganolfan bŵer bwysig ac yn sedd Tywysog (Seisnig) Cymru. Mae'r cysylltiad â'r Goron wedi parhau trwy'r canrifoedd. Yng Nghastell Caernarfon yr arwisgwyd y Tywysog – sydd bellach yn Frenin – Siarl ar 1 Gorffennaf 1969.

Tu hwnt i'r muriau
Nid oes angen i chi hyd yn oed adael y castell i archwilio Amgueddfa'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Wedi'i lleoli ar sawl llawr mewn dau o dyrau Caernarfon, mae'r amgueddfa yn dathlu gorffennol (a phresennol) catrawd hynaf Cymru. Gallwch weld arddangosfeydd ac arteffactau o dros 300 mlynedd o wasanaeth milwrol, gan gynnwys ymrwymiadau yn Rhyfel Annibyniaeth America, Rhyfeloedd Napoleon, Rhyfel y Boer a'r Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd.

Archebu Tocynnau

Castell Conwy

Ystafelloedd regal sy'n addas i Frenin

Ffeithiau caled
O'i gymharu ag adeiladwaith hir Castell Caernarfon, adeiladodd Edward I gastell a muriau tref Conwy mewn cyfnod hynod fyr o bedair blynedd rhwng 1283-1287. ⁠ Wrth gyflawni'r gamp hon, gwelwyd cymaint â 1,500 o grefftwyr a llafurwyr yn gweithio ar y safle ar y tro. Mae wyth tŵr y castell yn eistedd ar frigiad creigiog naturiol sy'n edrych dros yr aber, sy'n gwneud y castell hyd yn oed yn fwy aruthrol.

Mae muriau allanol trawiadol Conwy yn cyd-fynd â'r hyn sydd tu mewn, lle welwch y casgliad mwyaf helaeth o ystafelloedd preswyl canoloesol yn unrhyw le yn y DU. Yn ogystal ag ardaloedd byw brenhinol, gallwch archwilio capel preifat y Brenin a chrwydro'r coridorau troellog a ddefnyddiwyd gan weision y castell.

Dywedwch stori wrtha' i
Er iddo wario swm sy'n cyfateb i fwy na £10 miliwn mewn arian heddiw ar Gastell Conwy, anaml iawn yr ymwelodd Edward I ag ef. Ei unig arhosiad oedd un gorfodol yn ystod gaeaf 1294, pan oedd y castell dan warchae yn ystod gwrthryfel dan arweiniad Madog ap Llywelyn. Er bod y waliau wedi sefyll yn gadarn, roedd cyflenwadau wedi mynd yn isel iawn a dim ond un gasgen o win oedd yn y seler. Nid yw'n syndod nad oedd Edward ar frys i ddod yn ôl.

Castell Conwy Castle


Tu hwnt i'r muriau
Ewch ar ben y wal. Yn ymestyn bron yn ddi-dor am 1400 llath/1.3km o amgylch calon ganoloesol Conwy, mae taith o amgylch muriau tyrog y dref yn daith gerdded yn yr uchelfannau. Byddwch yn pasio 21 tŵr a thri phorth ar y ffordd, yn ogystal â chael golygfeydd uchel syfrdanol yn ôl o'r castell. Gair o rybudd – mae’n rhaid i chi allu dygymod ag uchder.

Archebu Tocynnau

Castell Cricieth 

Wedi'i adeiladu a'i naddu gan ddwylo Cymreig

Ffeithiau caled
Mae Castell Cricieth yn nodedig fel caer Gymreig gydag elfennau brodorol a Seisnig. Dewiswyd y pentir garw rhwng dau draeth tywodlyd Cricieth yn wreiddiol ar gyfer castell gan Llywelyn ab Iorwerth (Llywelyn Fawr) ar ddechrau'r 13eg ganrif. Parhawyd â'r gwaith gan ei olynydd Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn Ein Llyw Olaf), a ychwanegodd lenfuriau a thyrau i gynyddu amddiffynfeydd naturiol y safle.

Castell Cricieth Castle


Cipiwyd y castell gan Edward I yn ystod ei ymgyrch yng Nghymru ar ddiwedd y 13eg ganrif. Gwnaeth rai newidiadau ei hun, gan ymestyn y waliau ac ychwanegu'r Tŵr Injan hirsgwar (y credir y bu unwaith yn gartref i gatapwlt neu fath arall o arf taflu cerrig canoloesol).

Dywedwch stori wrtha' i
Yn ogystal â chael ei sefydlu gan uchelwyr Cymreig, daeth Castell Cricieth i ben yn y pen draw yn nwylo un o'n rheolwyr brodorol. Cipiwyd y castell gan Owain Glyndŵr yn ystod ei wrthryfel yn erbyn y Saeson yn 1404. Yn hytrach na'i gymryd ei hun, fe wnaeth Owain ei ysbeilio a'i losgi a arweiniodd at yr adfail a welir hyd heddiw. Gallwch ail-fyw cwymp y castell ar daith dywys fyw (a gynhelir bob mis yn ystod y gwanwyn a'r haf gan Cadw), sy'n eich rhoi yn esgidiau Owain a'i ddynion wrth iddynt frwydro am reolaeth eu mamwlad.

Tu hwnt i'r muriau
Mae yna lawer o hwyl i'r teulu yn Criccieth Multi Golf, sydd ond ryw ychydig gamau o'r castell. Ymarferwch eich ‘swing’ ar y cwrs naw twll a'r cwrs pytio, neu anghofiwch y clybiau ac ewch am rownd o golff ffrisbi neu golff pêl-droed.  Gallwch hefyd fanteisio ar y lleoliad arfordirol drwy logi caiac a phadlfwrdd, neu fachu beic traeth gyda theiars mawr ar gyfer anturiaethau beicio tywodlyd.

Archebu Tocynnau

Castell Dolbadarn

Cofeb ar lan y llyn i Dywysogion Gwynedd

Ffeithiau caled
Er bod ei union wreiddiau ar goll yn niwloedd hanes, mae'n debyg bod Castell Dolbadarn wedi'i sefydlu gan yr arweinydd Cymreig, Llywelyn ab Iorwerth (Llywelyn Fawr) rywbryd ar ddechrau'r 13eg ganrif.  Yn sefyll ar ben ei hun ar allt greigiog ym mhen deheuol Llyn Padarn yn Llanberis, bu'n gwylio dros y prif lwybr teithio rhwng Caernarfon a rhannau uchaf dyffryn Conwy. Mae llawer o'r waliau bellach yn rwbel, ond mae'r tŵr canolog cadarn - wedi'i fframio gan ochrau serth y dyffryn a dyfroedd glas y llyn - yn dal i fod yn olygfa drawiadol.   

Dywedwch stori wrtha' i
Nid oedd Tywysogion brodorol Gwynedd yn treulio eu holl amser yn ymladd gyda'r Saeson. Roedden nhw hefyd yn rhan o'u brwydrau pŵer mewnol eu hunain yn erbyn cystadleuwyr o'u teuluoedd eu hunain. Yn dilyn marwolaethau Llywelyn ab Iorwerth ym 1240 a'i olynydd Dafydd chwe blynedd yn ddiweddarach, roedd Cymru yn wlad ansefydlog. Roedd gwahanol garfannau yn cystadlu am reolaeth – gan gynnwys lluoedd dan arweiniad wyrion Llywelyn ab Iorwerth, Owain Goch a Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn Ein Llyw Olaf).

Llywelyn ap Gruffudd enillodd yn y pen draw a dod yn rheolwr cydnabyddedig ar Wynedd. Carcharwyd ei wrthwynebydd (a'i frawd hŷn) Owain a chafodd ei gaethiwo am 20 mlynedd. Credir bod Owain wedi treulio ei ddedfryd hir yn nhŵr canolog Castell Dolbadarn.

Castell Dolbadarn Castle


Tu hwnt i'r muriau
Ewch am dro i gopa 3560 troedfedd/1085m Eryri gyda thaith ar Reilffordd yr Wyddfa. Yn gadael gorsaf Llanberis, mae peiriannau stêm a disel y rheilffordd yn eich cludo ar daith olygfaol i gopa'r mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr. Ar hyd y ffordd, byddwch yn mynd trwy dirwedd o raeadrau, dyffrynnoedd glas serth a llethrau creigiau, cyn cyrraedd canolfan ymwelwyr copa Hafod Eryri i gael byrbrydau yn y caffi a golygfeydd anhygoel o dir uchel.

Mae Dolbadarn hefyd yng nghanol Tirwedd Lechi Gogledd Orllewin Cymru, un o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO mwyaf newydd y DU. Er bod Amgueddfa Lechi Cymru yn hen chwarel Dinorwig ar gau ar hyn o bryd fel rhan o waith ailddatblygu mawr, gallwch archwilio stori llechi mewn arddangosfa dros dro yn yr hen Ysbyty Chwarel ym Mharc Padarn.

Castell Dolwyddelan

O'r canol oesoedd i'r Fictoraidd

Ffeithiau caled
Mae Castell Dolwyddelan yn un arall o gaerau Cymreig Llywelyn ab Iorwerth. Mae'n debyg iddo gael ei adeiladu yma oherwydd ei werth strategol – yn edrych dros y prif lwybr rhwng Betws-y-coed a Blaenau Ffestiniog – ac oherwydd mai Dolwyddelan oedd man geni Llywelyn.

Arhosodd y castell yn nwylo'r tywysogion Cymreig tan goncwest Edward I ym 1283, ac ar ôl hynny fe'i cipiwyd gan arsiwn o filwyr Lloegr. Yn ôl y sôn, roedden nhw'n gwisgo gwyn er mwyn ymdoddi'n well â thirweddau eiraog Eryri.

Dywedwch stori wrtha' i
Er iddo gael ei adeiladu gan reolwyr brodorol Cymru, mae rhai olion bysedd eraill ar hanes pensaernïol Dolwyddelan hefyd. Ar ôl i'r castell gael ei gipio gan Edward I, aeth ati i wneud ychydig o welliannau ei hun. Cododd uchder y gorthwr ac adeiladodd y tŵr gorllewinol sydd bellach yn adfail, a fu unwaith yn gartref i gatapwlt a oedd yn taflu peli cerrig enfawr.

Erbyn dechrau'r 19eg ganrif, roedd Castell Dolwyddelan wedi cael ei adael ers amser maith ac wedi chwalu'n adfail i raddau helaeth. Er mwyn adfer rhywfaint o'i hen ogoniant, ychwanegodd ei berchennog ar y pryd Peter Drummond-Burrell, yr 22ain Barwn Willoughby de Ellesby, y murfylchau o fath canoloesol a welir hyd heddiw. 

Castell Dolwyddelan Castle  

Tu hwnt i'r muriau
Lleolir Dolwyddelan yn y canol rhwng dwy o brif ganolfannau Eryri ar gyfer antur a chyffro. I'r de fe welwch Flaenau Ffestiniog, lle mae'r chwareli llechi enfawr bellach yn faes chwarae o atyniadau cyffrous fel Zip World Llechwedd (cartref gwibwifrau cyflym, trampolinau tanddaearol a theithiau pwll dwfn) a pharc beiciau Antur Stiniog, sy'n siŵr o'ch ysgwyd o'ch corun i'ch traed. ⁠

I'r gogledd mae Betws-y-coed, y porth i Eryri a phrifddinas awyr agored y rhanbarth. Mae'r gyrchfan Alpaidd brysur hon yn fan poblogaidd ar gyfer gweithgareddau o bob math, o feicio mynydd a cherdded i alldeithiau tanddaearol a marchogaeth.

Castell Harlech 

Clasur ar ben y clogwyn

Ffeithiau caled
Er nad yw Castell Harlech mor fawreddog yn bensaernïol â'i chwaer gaerau yng Nghaernarfon a Chonwy, mae ei leoliad yn gwneud yn iawn am hynny. Ymddengys bod y muriau nerthol yn ffrydio o'r brigiad creigiog serth y mae'n sefyll arno, tra bod murfylchau uchel yn cynnig golygfa 360 gradd sy'n edrych dros y môr, y morlin a chopaon uchel Eryri. Mae pwrpas ymarferol i'r lleoliad ysblennydd. Gyda'r clogwyni yn darparu amddiffynfa naturiol ar dair o'i bedair ochr, byddai ymosodiad wedi bod yn olygfa frawychus.

Er gwaethaf ei amddiffynfeydd aruthrol, cipiwyd Castell Harlech gan y tywysog brodorol Owain Glyndŵr yn ystod ei wrthryfel yn erbyn gormes Lloegr ym 1404. Gwnaeth Harlech yn brifddinas ei genedl Gymreig a sefydlodd senedd yno nes iddo gael ei drechu gan luoedd Harri o Fynwy (Brenin Harri V yn ddiweddarach) ym 1409. Ni chewch drafferth i gael mynediad pan fyddwch yn ymweld - mae'r bont arnofiol newydd yn gwneud mynediad yn llawer haws nag yr oedd yn yr oesoedd canol.

Dywedwch stori wrtha' i
Er bod y môr beth pellter i ffwrdd bellach, pan adeiladwyd Castell Harlech roedd y môr yn cyrraedd yr holl ffordd at y graig y mae'r gaer yn eistedd arni. Roedd y lleoliad blaenllaw hwn ar lan y dŵr yn ased strategol gwerthfawr, gan ganiatáu mynediad i mewn ac allan trwy'r Llifddor. Pan oedd Harlech dan warchae Madog ap Llywelyn ym 1294, roedd y llinell gyflenwi hanfodol hon yn caniatáu i arsiwn o ddim ond 37 o ddynion ddal yn erbyn llu ymosodol llawer mwy. Os ydych chi'n teimlo'n egnïol, gallwch fynd i lawr y 108 o risiau serth (ac yn ôl i fyny eto) i weld y Llifddor eich hun.

Tu hwnt i'r muriau
Er efallai nad yw'r môr wrth odre sylfeini Harlech bellach, mae'n hawdd ei gyrraedd o hyd. Bydd mynd am dro bach yn mynd â chi i Draeth Harlech, darn ysgubol o dywod euraidd sy'n berffaith ar gyfer nofio, padlo a gemau glan môr. Pan fydd yr haul yn tywynnu, gallwch ei gamgymryd yn hawdd am Fôr y Canoldir - oni bai am bresenoldeb y castell a'r mynyddoedd y tu ôl i chi.

Os oes angen ychydig o gysgod arnoch, ewch o dan y ddaear yng Ngheudyllau Llechi Llanfair. Archwiliwch siambrau a llwybrau wedi'u cerfio o'r graig gan fwyngloddwyr dros 100 mlynedd yn ôl ar daith danddaearol hunan-dywysedig. Chwiliwch am weddillion hen weithfeydd mwyngloddio, uchelfannau Ogof y Gadeirlan a hyd yn oed rhywbeth tebyg i wyneb dynol wedi'i ysgythru i'r waliau cerrig. 

Archebu Tocynnau

Castell Harlech Castle