Mae croeso i anifeiliaid hefyd - diangfeydd addas i gŵn yn Eryri
Mae seibiant yn Eryri yn hwyl i'r teulu cyfan - gan gynnwys aelodau pedair coes y teulu. Mae yna gyfoeth o lefydd ledled y rhanbarth sy'n berffaith ar gyfer mynd i ffwrdd gyda'ch ci. Mae digon o lefydd agored sy'n berffaith ar gyfer gêm hwyliog o nol pêl, llefydd i aros sy'n rhoi croeso cynnes ar gyfer ffrindiau anwes ac hyd yn oed llefydd lle gall cŵn roi eu pawennau i fyny a mwynhau hufen iâ sydd wedi cael eu gwneud yn arbennig iddyn nhw.
Er mwyn rhoi rhyw syniad i chi am yr hyn y gallech ei ddisgwyl, dyma drosolwg o rai o'r llefydd sy'n croesawu eich ci. Mae llawer mwy.
Ble i aros
Galwch i un o bebyll glampio Llechwedd ym Mhlas Weunydd. Wedi'i leoli uwchben ehangder garw a chreigiog y chwareli llechi ym Mlaenau Ffestiniog (a bellach yn gartref i atyniad gwifren uchel ac anturiaethau dan y ddaear Zip World) mae'r diangfeydd clyd yn berffaith ar gyfer gwyliau sy'n addas i gŵn. Mae'r pebyll yn gallu cysgu hyd at bump person (ynghyd â'u cydymaith pedair coes) gyda stôf llosgi coed cynnes, dec preifat a mynediad hawdd i’r byd y tu allan ar gyfer mynd am dro ac anturiaethau.
Os nad yw bywyd dan gynfas i chi, ceir cyfoeth o opsiynau hunan-arlwyo i chi ddewis ohonynt. Mae gan Rhydolion yn Llangian ger Pwllheli, dri bwthyn clyd wedi'u hadeiladu o garreg sy'n croesawu teuluoedd â chŵn. Wedi'u lleoli dim ond milltir i ffwrdd o Borth Neigwl - mae'r ardal boblogaidd i syrffio a elwir hefyd yn 'Hell's Mouth', yn lle gwych ar gyfer diangfeydd anturus.
Ar gyfer antur fewndirol, beth am Fwthyn Gwyliau Bron-Nant, sy'n agos i Fetws-y-Coed (prifddinas gweithgareddau awyr agored Gogledd Cymru). Gyda lle i hyd at wyth o bobl a'u hanifeiliaid, mae'n ddihangfa ddelfrydol yng nghalon Eryri. Yn ogystal â chyfoeth o weithgareddau i'w mwynhau yn y Parc Cenedlaethol, ceir pwll naturiol, sy’n cael ei fwydo gan y nant sy'n llifo trwy'r eiddo y gellir ei ddefnyddio ar gyfer nofio gwyllt a chanŵio. Mae lleoliad uchel y bwthyn hefyd yn rhoi golygfeydd godidog ar draws Eryri.
Mwynhewch deithiau cerdded cofiadwy ar lan yr afon gyda'ch cyfaill pedair coes yn Garden Cottage ger Dolgellau. Mae'r bwthyn cerrig clyd wedi'i leoli'n berffaith i archwilio Llwybr Clywedog, llwybr cerdded Fictoraidd wedi'i osod ar lan afon Clywedog gan y pensaer Thomas Payne sy'n ymdroelli drwy'r coetir gwyllt a heibio rhaeadrau byrlymus.
Os ydych yn chwilio am arhosiad sy'n addas i gŵn sy'n hynod o foethus, beth am Palé Hall ger y Bala yn rhan ddwyreiniol Eryri. Mae'r gwesty gwledig ysblennydd hwn, sy'n rhan o gasgliad Relais a Chateaux, yn un o dim ond dau eiddo yng Nghymru sydd â sgôr pum seren goch gan yr AA.
Mae nifer hael o ystafelloedd clasurol Palé wedi'u dynodi'n addas i gŵn a gellir eu paratoi gyda gwely meddal, bwyd a bowlenni dŵr. Mae'r ystafelloedd hyd yn oed yn dod â chôt tywel clyd a danteithion cŵn, felly ni fydd eich ci yn teimlo ei fod wedi'i adael allan tra byddwch chi'n bwyta ym mwyty tair rosette AA y gwesty. Gall cŵn sy'n ymddwyn yn dda hefyd ddod gyda chi i'r Neuadd Fawr a'r Bar Huntsman – a mwynhau teithiau cerdded bendigedig yng ngerddi coetir eang Palé Hall, heb sôn am amgylchoedd ysblennydd y llyn a'r mynydd.
Ceir mwy o gerdded anhygoel yng Ngwesty Trefeddian yn Aberdyfi. Wedi'i leoli ar ochr bryn sy'n edrych dros y twyni a'r môr, mae'n dafliad carreg o dywod di-ben-draw, traeth Aberdyfi sy'n gyfeillgar i gŵn – sy'n darparu digon o le agored i flino hyd yn oed y ci mwyaf egnïol. Yn ffodus, mae Trefeddian yn croesawu ymwelwyr gyda phawennau tywodlyd, ac yn caniatáu i gŵn orffwys ac i ymlacio ar dri o'i pedwar llawr.
Mi wnewch chi ei fwynhau hefyd. Mae'r gwesty cain hwn yn cyfuno naws hen-ffasiwn ag addurniadau cyfoes ffasiynol. Mae ei leoliad sy'n edrych dros Fae Ceredigion hefyd yn atyniad mawr, sy'n rhoi rhai o'r machlud glan y môr mwyaf trawiadol y gwelwch chi erioed.
Dim ond cipolwg yw'r rhain o'n dewisiadau gwyliau cŵn-gyfeillgar. Am fwy o wybodaeth am lefydd i aros gyda'ch ci, edrychwch ar yr adran llety ar wefan Ymweld ag Eryri.
Ble i fwyta
Mae bwyd rhagorol i gŵn yng Nghlwb Traeth y Graig Ddu ym Morfa Bychan, dafliad carreg o Borthmadog. Mae yna fwydlen llawn o ddanteithion, sy'n cynnwys prydau i gŵn fel 'Bark Burgers' a Chinio Rhost, a hefyd - Cwrw Bark Brew Dog a Paw Star Martinis i gŵn - credwch neu beidio? Maent hefyd wedi gofalu am bwdinau gyda'u hufen iâ oer Scoops.
Rydych chi hefyd yn cael darpariaeth gystal. Mae'r bar traeth hamddenol yn gweini bwyd trwy gydol y dydd, o roliau brecwast blasus a thamaid amser cinio ysgafn i bitsas wedi'u pobi â cherrig a bwydlen gyda'r nos sy'n llawn pysgod, cig a phrydau llysieuol. Mae'r lleoliad yn berffaith ar gyfer teithiau cerdded tywodlyd hir ar hyd Morfa Bychan a Thraeth y Graig Ddu, felly ni fydd gennych chi a'ch cyfaill unrhyw broblem codi awydd am fwyd.
Mae'r bar caffi unigryw a ffres Y Lloft yn y Felinheli hefyd yn lle gwych ar gyfer swper sy'n addas i gŵn. Yn eistedd wrth ymyl Afon Menai gyda golygfeydd ar draws y dŵr tuag at Ynys Môn, gall cŵn sy'n ymddwyn yn dda fwynhau hufen iâ wedi'u gwneud yn arbennig i gŵn yn y caffi llawr gwaelod. .
Ar gyfer perchnogion, mae yna fwydlen deniadol sy'n cyfuno cynhwysion lleol â dylanwadau coginiol rhyngwladol. Disgwyliwch brydau fel chwitlyn glas a ddaliwyd yn lleol gyda chorizo a stiw ffa menyn neu risoto wedi'i wneud o gig oen Cymreig o Lanrug. Mae yna hefyd ddewis moethus o bwdinau, fel ganache siocled gyda chompot llus ac affogato wedi'i wneud gyda chymysgedd arbenigol Y Llofft o goffi.
Mae Tafarn Cnu Aur yn Nhremadog yn croesawu cŵn yn ei gardd gwrw a rhannau o'i bar a'i bwyty. Mae'r dafarn wedi ennill digon o glod am ei bwyd a'i lletygarwch, gan gynnwys gan Wobrau Cenedlaethol Tafarndai a Bar a Gwobrau Twristiaeth Gogledd Cymru. Galwch heibio i gael brecwast, cinio neu swper ac fe welwch fwydlen eang sy'n cynnwys popeth o gawliau a salad i stêcs sy'n hisian a phitsas wedi'u pobi â cherrig.
Mae yna hefyd ddewis trawiadol o ddiodydd, gan gynnwys amrywiaeth o fwy na 70 jin Cymreig. Gellir mwynhau bwyd a diod yn y bar atmosfferig, tebyg i geudwll neu'r ardd gwrw bywiog – lle awyr agored sy'n addas i bob tywydd gyda gwresogyddion a digon o seddi dan do.
Mae llawer o lefydd eraill ar draws Eryri sy'n croesawu cŵn. Rhowch gynnig ar Caffi Largo ym Mhwllheli, Proper Gander yn Nhywyn a Davy Jones Locker yn Abermaw. Cewch ddarganfod mwy o lefydd addas i gŵn i fwyta ar wefan Ymweld ag Eryri.
Beth i’w wneud
Beth am wobrwyo'ch ci gyda thaith i Barc Antur Cŵn. Wedi'i leoli'n agos i bentref Trawsfynydd, mae'r cae chwarae saff a chaeedig yn lle perffaith ar gyfer anturiaethau oddi ar eu tennyn. Mae digon o le ar gyfer gemau o daflu pêl, llawer o deganau i chwarae gyda nhw a chwrs rhwystrau lle gall cŵn brofi eu sgiliau croesi. Tra bod eich ffrind pedair coes yn mwynhau'r ymarfer, gallwch fwynhau golygfeydd helaeth Eryri o ddyfroedd Llyn Trawsfynydd a chyfuchliniau garw mynyddoedd y Rhinogydd sy'n codi i'r de-orllewin.
Defnyddiwch docyn teithio am daith ar Rheilffordd hanesyddol Talyllyn. Gall cŵn (a'u perchnogion) neidio ar y cerbyd trydydd dosbarth ar gyfer taith ar reilffordd gadwedig gyntaf y byd ar gyfer taith rhwng Tywyn a Nant Gwernol, taith saith milltir/11km trwy rai o'r golygfeydd harddaf yng Ngogledd Cymru.
Wrth i chi fynd heibio, fe welwch olygfeydd trawiadol o Gader Idris creigiog a chewch gyfle i neidio i ffwrdd a chrwydro gwahanol lefyddar hyd y ffordd. Mae'r rhaeadrau yn Nolgoch yn fan poblogaidd ar gyfer taith gerdded yng nghanol taith, tra bod caffi Caban Chwarelwr sy'n gyfeillgar i gŵn yng ngorsaf Abergynolwyn yn ddelfrydol i gael rhywfaint o luniaeth i’ch cadw i fynd.
Os ydych wedi cael eich brathu gan y byg rheilffordd treftadaeth, gallwch hefyd fynd â chŵn ar rai o'r llwybrau cul hanesyddol eraill yn Eryri – gan gynnwys rheilffyrdd Ffestiniog, Llyn Llanberis, Llyn Tegid, Treftadaeth Ucheldir Cymru a Corris.
Mae hyd yn oed mwy o hanes hynafol i'w archwilio yn safleoedd Cadw ar draws y rhanbarth, lle mae llawer ohonynt yn hygyrch i gŵn am rywfaint neu ran o'r flwyddyn. Dewiswch o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO fel Castell Harlech, caerau cynhenid fel Dolbadarn a Chastell-y-Bere a gweddillion sanctaidd dramatig fel Abaty Cymer.
Werth ei ystyried...
Caniateir i gŵn gerdded ar y rhan fwyaf o'n traethau, er bod gan rannau o rai traethau Barthau Gwahardd Cŵn i reoli eu defnydd a'u cadw'n lân ac yn ddiogel. Am y wybodaeth ddiweddaraf, cysylltwch ag un o'n Canolfannau Croeso os gwelwch yn dda.
Mae digon o lefydd hefyd i fynd â'ch ci am dro hir, ym mynyddoedd a chefn gwlad Eryri ac ar Lwybr Arfordir Cymru – sy'n ymestyn am 870 milltir/1400km o amgylch ein traethlin cyfan. Lle bynnag yr ewch chi gyda'ch ci, gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y Cod Cefn Gwlad - yn enwedig wrth gerdded trwy dir fferm sy'n gweithio lle gallai fod da byw.