Llwybr Arfordir Cymru a Chylchdeithiau Cerdded

Mae’r Llwybr Arfordir yn dilyn arfordir Gwynedd gyfan gan gychwyn yn Llanfairfechan yng ngogeldd y sir, ac yn ymestyn 180 milltir i ochrau Machynlleth yn ne y sir. Wrth ddilyn y llwybr cewch werthfawrogi ysblander tirwedd amrywiol yr ardal, ble ceir cilfachau bychain, traethau eang, clogwyni geirwon a rhostiroedd gwyllt.

Mae’r llwybrau yn ran o Lwybr Arfordir Cymru, sef y llwybr 870 milltir sy’n ymestyn o amgylch holl arfordir Cymru. Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys mapiau, teithiau cerddedteithiau cerdded arfordirol hawdd sy'n ddelfrydol ar gyfer pobl â phroblemau symudedd a chadeiriau gwthio ac gwyriadau cyfredol i'r llwybr, ewch i wefan Llwybr Arfordir Cymru. Mae posib prynu llyfrau gan Northern Eye a Cicerone ac mae fersiwn Cymraeg o ardal Ben Llŷn ar gael hefyd.

Bws Arfordor Llŷn Fflecsi

Mae fflecsi Llŷn yn gweithredu dydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun. Mae’r gwasanaeth yn cynnig ffordd fwy hyblyg o fynd o’ch blaen drwy eich casglu a’ch gollwng yn yr ardal ddiffiniedig, gan eich galluogi i gyrraedd ac o draethau, gwersylloedd, mannau twristaidd a gwneud teithiau lleol eraill.

Mae fflecsi wedi’i gynllunio i ddarparu mwy o symudedd mewn ardaloedd gwledig a helpu pobl i wneud teithiau lleol mewn amgylchedd diogel a hyblyg a reolir.

Cylchdeithiau o’r Llwybr Arfordir

I wneud y mwyaf o’r cynnig cerdded arfordirol mae 18 cylchdaith wedi eu datblygu gan Cyngor Gwynedd drwy gefnogaeth Cronfa Cymunedau’r Arfordir. Mae’r cylchdeithiau yn rhoi cyfle i chi fwynhau’r Llwybr Arfordir, ond hefyd i werthfawrogi’r byd natur, treftadaeth, diwylliant a cyfleon antur sydd ar gael o fewn y pentrefi a threfi cyfagos. Isod mae rhestr o leoliadau’r cylchdeithiau a cheir rhywbeth at ddant bawb. Rydym hefyd wedi cynhyrchu fideos i ddangos beth allwch ei ddarganfod ar rai o'r teithiau.

Cerdded y Llwybrau

Dylid gwisgo esgidiau cadarn a dillad cynnes addas rhag y glaw ac / neu eli haul mewn tywydd poeth. Braslun yw’r map hwn - argymhellir i chi ddefnyddio map Arolwg Ordnans graddfa 1:25000 perthnasol i’r daith. Dilynwch y Côd Cefn Gwlad: Parchwch, Diogelwch, Mwynhewch

Aberdaron

Pellter - 15 km / 9.3 milltir
Amcan o’r amser – 5 awr
Map Arolwg Ordnans – Explorer 253
Parcio – Maes Parcio Aberdaron SH172 264
Map o Gylchdaith Aberdaron

Aberdyfi

Pellter - 7 km / 4.6 milltir
Amcan o’r amser – 2 awr Map Arolwg Ordnans – Explorer OL23
Parcio – Maes Parcio glan môr Aberdyfi SH613 959
Map o Gylchdaith Aberdyfi

Abergwyngregyn

Pellter - 10 km / 6.3 milltir
Amcan o’r amser – 4 awr
Map Arolwg Ordnans – Explorer OL17
Parcio – Maes Parcio Gwarchodfa Natur Aber SH653 726
Map o Gylchdaith Abergwyngregyn

Abermaw

Pellter - 9 km / 5.6 milltir
Amcan o’r amser – 3.5 awr
Map Arolwg Ordnans – Explorer OL18
Parcio – Maes Parcio’r traeth SH613 156
Map o Gylchdaith Abermaw

Bangor

Pellter – 2 km / 1.4 milltir
Amcan o’r amser – 40 munud
Map Arolwg Ordnans – Explorer OL17
Parcio – Lôn Cariadon, Ffordd Siliwen, Ffordd Garth Uchaf
Map o Gylchdaith Bangor

Botwnnog

Pellter - 15 km / 9.3 milltir
Amcan o’r amser – 6 awr
Map Arolwg Ordnans – Explorer 253
Parcio – Maes Parcio Congl Meinciau SH262 312
Map o Gylchdaith Botwnnog

Clynnog-Trefor

Pellter - 15 km / 9.3 milltir
Amcan o’r amser – 5 awr
Map Arolwg Ordnans – Explorer 254
Parcio – Maes Parcio traeth Trefor SH376473 neu Clynnog Fawr SH414 497
Map o Gylchdaith Clynnog - Trefor

Edern

Pellter - 10.4 km / 6.5 milltir
Amcan o’r amser – 3.5 awr
Map Arolwg Ordnans – Explorer 253
Parcio – Ochr ffordd pentref Edern SH277 398
Map o Gylchdaith Edern

Llanbedrog

Pellter - 3.6 km / 2.3 milltir
Amcan o’r amser – 2 awr
Map Arolwg Ordnans – Explorer 253
Parcio – Maes Parcio Llanbedrog SH331 315
Map o Gylchdaith Llanbedrog

Llangwnnadl

Pellter - 6.4 km / 4 milltir
Amcan o’r amser – 2.5 awr
Map Arolwg Ordnans – Explorer 253
Parcio – Maes Parcio Penllech SH206 342
Map o Gylchdaith Llangwnnadl

Llanystumdwy

Pellter - 5 km / 3 milltir
Amcan o’r amser – 1.5 awr
Map Arolwg Ordnans – Explorer 254
Parcio – Maes Parcio Llanystumdwy SH476 384
Map o Gylchdaith Llanystumdwy

Llithfaen

Pellter - 13 km / 8 milltir
Amcan o’r amser – 4 awr
Map Arolwg Ordnans – Explorer 253 a 254
Parcio – Maes Parcio uwchben Nant Gwrtheyrn
Map o Gylchdaith Llithfaen

Maentwrog

Pellter - 17 km / 10.5 milltir
Amcan o’r amser – 6 awr Map Arolwg Ordnans – Explorer OL18
Parcio – Maes Parcio Pensarn, Penrhyndeudraeth SH611 391
Mae rhan o'r rhwydwaith wedi cau dros dro hyd ddiwedd tymor yr haf oherwydd bod adar yn nythu. Os gwelwch yn dda defnyddiwch lwybr amgen.
Map o Gylchdaith Maentwrog

Nefyn

Hyd - 6.4km / 4 milltir
Amcan o'r amser - 2 awr
Map Arolwg Ordnans – Explorer 253
Parcio - Maes Parcio traeth Nefyn, SH302 407
Map o Gylchdaith Nefyn

Porthmadog

Pellter - 10 km / 6.3 milltir
Amcan o’r amser – 3 awr
Map Arolwg Ordnans – Explorer 254
Parcio – Maes Parcio Glan Môr, Borth y Gest SH565 373
Map o Gylchdaith Porthmadog

Rhaeadr Aber

Pellter - 6.5 km / 4 milltir
Amcan o’r amser – 3 awr
Map Arolwg Ordnans – Explorer OL17
Parcio – Maes Parcio Bont Newydd SH664 71 (Hysbysir ymwelwyr mai lle cyfyngedig sydd ar gael i barcio ar ddechrau’r llwybr 1.2 milltir at y Rhaeadr Fawr ac mai ond lle i tua 30 o geir sydd yn y ddau faes parcio bychan. Mae cost o £5 i barcio yn y meysydd parcio yma. Er mwyn cyrraedd y meysydd parcio mae’n rhaid gyrru ar ffordd gul untrac drwy bentref Abergwyngregyn sydd yn achosi tagfeydd drwg ac oedi hir ar ddyddiau prysur. Mae maes parcio arall am ddim ar gael cyn cyrraedd y pentref gan ychwanegu tua 30 munud at y daith i’r Rhaeadr. Mae’r meysydd parcio sydd yn y rhan uchaf yn llenwi’n sydyn a chynghorir ymwelwyr yn gryf i osgoi gyrru drwy’r pentref.)
Map o Gylchdaith Rhaeadr Aber

Rhiw

Pellter- 4km / 2.7 milltir
Amcan o’r amser – 2 awr
Map Arolwg Ordnans – Explorer 253
Parcio – Maes Parcio Plas yn Rhiw SH237 283
Map o Gylchdaith Rhiw

Tudweiliog

Pellter - 5 km / 3.2 milltir
Amcan o’r amser – 2.5awr
Map Arolwg Ordnans – Explorer 253
Parcio – Porth Ysgaden LL53 8NB
Map o Gylchdaith Tudweiliog