Llanbedrog

Ychydig oddi ar yr A499 o Bwllheli, tua'r gorllewin tuag at Abersoch, mae pentref hardd Llanbedrog, gem wirioneddol cudd oddi ar Ffordd yr Arfordir, rhan o ddynodiad Croeso Cymru, Ffordd Cymru. Mae cymaint i'w wneud yn Llanbedrog, mae mewn gwirionedd yn gwarantu diwrnod allan ynddo'i hun, gyda rhywbeth i'r teulu cyfan.

Plas Glyn-y-Weddw

O ran diwylliant, mae canolfan gelfyddydau a threftadaeth enwog Plas Glyn-y-Weddw, oriel ragorol yn amlygu y gorau o gelf a chrefft cyfoes o Gymru a thu hwnt - mae Arddangosfa Haf Fawreddog, sy'n cynnwys gweithiau gan ddetholiad enfawr o artistiaid, wedi agor yn ddiweddar, a bydd ar agor tan ddiwedd mis Medi. Cynhelir yr arddangosfa hon ochr yn ochr ag arddangosfa Rhych gan Simon Callery a Stefan Gant, sy'n cynnwys gwaith celf a lluniadau maes o gloddio Moel-y-Gaer ym Modffari yn Nyffryn Clwyd.

Tin Man Llanbedrog

Gellir cael mynediad i Lwybr Cylchdaith Arfordirol Llanbedrog o goetiroedd aeddfed Plas Glyn-y-Weddw. Mae'r daith hon yn mynd â chi i fyny i bentir Mynydd Tir-y-Cwmwd, a'r golygfeydd syfrdanol dros Bae Ceredigion - cadwch olwg am y Cerflun Dyn Haearn nodedig. Dylid cymryd gofal ar y daith, yn enwedig gyda phlant, gan fod rhai rhannau serth. Mae'n gylchdaith o 2.3 milltir, a bydd yn cymryd tua 2 awr.

Traeth Llanbedrog Beach

Mae gan Llanbedrog hefyd draeth tywodlyd gyda dŵr bas, gwych ar gyfer teuluoedd. Mae’n safle'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, lle gallwch chi weld pïod y môr a gylfinirod. Mae'r maes parcio yn rhad ac am ddim i aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac yn y maes parcio gallwch chi ddod o hyd i becynnau antur i'r teulu sy'n cynnwys amrywiaeth o weithgareddau diddorol i'r plant - 50 o bethau i'w gwneud cyn i chi fod yn 11¾. Cynhelir rhai digwyddiadau ar yr traeth gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ystod yr haf, edrychwch ar eu gwefan am wybodaeth. Dychmygwch ymlacio ar ôl diwrnod caled yn archwilio Llanbedrog, gyda diod a phryd mewn bar a bwyty ochr traeth, fel tasech chi ar y cyfandir. Wel, gallwch chi wneud hyn yn Aqua yn Llanbedrog, bar a bwyty ar lan y traeth, sydd wedi ei addasu ar gyfer pob tywydd.

Aqua Beach Bar

Mae'n cynnig diweddglo arbennig ar gyfer ymweliad â’r pentref hardd yma, ond mae archebu lle yn hanfodol. Mae yna hefyd ddwy dafarn arall gerllaw - Glyn-y-Weddw Arms Tŷ Du a The Ship Y Llong, sy'n cynnig bwydlenni ardderchog ac amrywiol.