Harlech

Tref fechan gwerth chweil, nid yn unig oherwydd y golygfeydd ar draws y twyni tywod ond hefyd oherwydd ei chastell canoloesol ar gopa’r graig sy’n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Mae datblygiadau diweddar yma wedi cynnwys canolfan ymwelwyr drawiadol gyda chyfleusterau dehongli o'r radd flaenaf.  Mae cwrs golff brenhinol Dewi Sant ymhlith y goreuon yng Nghymru. Mae atyniadau yn cynnwys siopau crefftau a chanolfan hamdden ragorol gyda phwll nofio dan do, caffi a wal ddringo newydd dros 30 troedfedd o uchder. Cewch flasu hufen ia blasus Hufenfa Castell. Ewch i ymweld â’r Lasynys Fawr (oddi ar y B4573 i’r gogledd o Harlech), tŷ hanesyddol yn dyddio yn ôl i’r 16eg ganrif a chartref i Ellis Wynne, yr awdur o’r 17eg/18fed ganrif (cysylltwch â 01766 781395 am fanylion ymweld o flaen llaw).

Stori Meirion

Darganfyddwch stori hudol Meirion drwy'r cadeiriau adrodd straeon. Mae'r stori ei hun yn parhau tua awr, ond bydd y daith yn hirach. Mae pum rhan i'r stori i gyfateb â'r pum cadair adrodd straeon arbennig yn Harlech. Ond does dim rhaid i chi ymweld â'r pum cadair er mwyn mwynhau'r stori. Gallwch gerdded rhan o'r daith a dal i wrando ar yr holl stori.