Hanes Diwydiannol

Does dim amheuaeth fod tirlun a chynefinoedd naturiol ardal Eryri Mynyddoedd a Môr yn llunio un o leoliadau mwyaf godidog a hardd y ddaear. Er hyn, dros y canrifoedd mae dyn wedi cyfrannu at newid y tirlun hwn ac mae wedi gadael ar ei ôl farciau gweladwy ar ein harfordir a'r mynyddoedd. Mae’r gweithredoedd yma yn rhoi cip olwg gwerthfawr i ni o sut arferai bobl fyw a defnyddio’r tir dros y canrifoedd. Mae amaethyddiaeth yn parhau i fod yn un o ddiwydiannau mwyaf pwysig yr ardal ac mae llechi, copr, aur a'r môr wedi chwarae rhan bwysig yn hanes yr ardal ac yn esblygiad ein diwylliant - mae eu dylanwad yn parhau hyd heddiw. 

Llechi

Mae hanes Eryri wedi ei rwymo yn agos gyda siâp a chyfansoddiad ei garreg a’i fwynion. Roedd y Rhufeiniaid yn chwarelu, roeddent yn defnyddio’r llechi o’r mynyddoedd i wneud doi i’w caer ar safle Segontium, cannoedd o flynyddoedd yn ddiweddarach fe adeiladodd Brenin Edward I gyfres o gestyll ar hyd arfordir gan ddefnyddio llechi o’r mynyddoedd.

Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, roedd y galw am lechi yn uchel, roedd y llechi yn cael eu defnyddio ar gyfer toi'r tai, melinau, a ffatrïoedd a oedd yn cael eu hadeiladu ar hyd a lled Prydain. O ganlyniad i’r ehangiad, fe weddnewidiwyd pentrefi bach megis Bethesda, Llanberis a Blaenau Ffestiniog i drefi diwydiannol. Roedd ardaloedd Nantlle a Corris yn gymunedau chwarel ddirgrynol. Yn ei anterth, roedd y diwydiant yn cyflogi dros 17,000 o ddynion ac yn cynhyrchu dros 485,000 tunnell o lechi.

Yn ystod y Rhyfel Byd 1af roedd chwarel Manod ym Mlaenau Ffestiniog yn cael ei ddefnyddio i gadw celfyddyd amhrisiadwy o’r palasau brenhinol, y Tate, galerïau cenedlaethol gan gynnwys Van Gogh, Rembrandt, Van Dyke, Da Vinci ac efallai tlysau'r goron.

Cafodd y chwareli eu cau o ganlyniad i ddirywiad galw am lechi, a mewnforio llechi rhad o Ewrop. Mae Chwarel Penrhyn yn dal i weithredu, yn ogystal â llawer o’r busnesion llai, ond nid yw’r diwydiant a oedd unwaith yn ffynnu yn parhau i fod y cawr economaidd a oedd yn dominyddu’r ardal.

Mae’n bosib bwrw golwg yn ôl i’r gorffennol yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis a Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog. Mae’r ddau yn eich tywys yn fras drwy hanes y diwydiant gyda bythynnod sydd wedi cael eu hailwampio, siopau, tafarndai ac arddangosiad gweithiol. Mae’r rhwydwaith o lwybrau sydd wedi eu creu i gysylltu'r pentrefi bach, chwareli llechi a chefn gwlad sydd yn eu hamgylchynu yn cael eu defnyddio hyd heddiw, maent yn cynnig golygfeydd ysblennydd o’r mynyddoedd, yn ogystal â chynnig cipolwg ar fywyd y bobl a oedd yn byw a gweithio yno. 

Morwrol

Roedd ffyniant o fewn y diwydiant llechi wedi arwain at dwf diwydiannu cysylltiol. Fe gafodd isadeiledd cludiant ei ddatblygu ar gyfer y galw am lechi o amgylch y byd. Fe ddatblygwyd rhwydwaith o led rheilffyrdd cul er mwyn cludo’r llechi o’r mynyddoedd i’r môr. Bob yn ail, fe wnaeth hyn roi hwb i’r diwydiant morwrol. Fe welwyd cynnydd yn y diwydiant adeiladu llongau mewn nifer o ardaloedd arfordirol, yn enwedig Porthmadog, Caernarfon a Bangor. Cam mlynedd yn ôl roedd y porthladdoedd hyn a llawer eraill yn llawn llongau hwylio a oedd wedi ei adeiladu yn lleol er mwyn darparu ar gyfer y galw am lechi, aur a chopr Cymraeg.

Mae tystiolaeth ymhell cyn ffyniant y diwydiannau bod ein cyndadau wedi defnyddio haelioni’r môr, cyn belled yn ôl a 5,000 o flynyddoedd. Mae siambrau claddu hynafol ac aneddiadau wedi ei lleoli yn agos at y môr yn awgrymu fod pobl yn pysgota ac yn hwylio ar hyd y morlin, yn ddiweddarach fe adeiladwyd y Rhufeiniaid a’r Normaniaid ceyrydd mewn mannau strategol yn agos at y glannau er mwyn amddiffyn y tir rhag y gelyn.    

Copr

Mae olion y pyllau copr i’w gweld yn Nrws y Coed, Beddgelert a Chwm Pennant. Mae olion caer Rufeinig yn agos at Feddgelert yn awgrymu bod y Rhufeiniaid wedi cloddio copr yn safle mwynfa Sygun gerllaw. Yn ystod y 18fed Ganrif roedd mwy na 70 dyn o’r pentref, ac eraill o ardaloedd mor bell â Chernyw a’r Alban wedi eu cyflogi i weithio yn y pwll. Caiff y mwyn crai ei anfon i felin gwasgu cyn iddo gael ei dywys gan geffyl a throl i Feddgelert a Porthmadog, oddi yno caiff ei gludo i Abertawe i gael ei buro. Roedd llawer o’r copr yn cael ei ddefnyddio i linellu llongau pren y llynges Frenhinol yn ystod y rhyfeloedd Napoleon.

Fe ddefnyddiwyd mwynfa Sygun fel lleoliad ar gyfer y film 'Inn of the 6th Happiness' gyda’r actores Ingrid Bergman yn 1958. Erbyn hyn mae’r pwll ar agor i ymwelwyr, cewch daith gan dywyswr drwy’r ceudyllau gyda’u pibonwy calch a chalchbyst.

Aur

Efallai mai aur yw metel enwocaf Cymru. Mae’r band aur daearegol yn ymestyn o Abermaw, heibio Dolgellau a thuag at Eryri. Mae llawer o dystiolaeth amgylcheddol yn datgan fod y boblogaeth Neolithig ar ddiwedd yr Oes Efydd a’r Oes Haearn wedi dechrau mwyngloddio yn 600BC. Fe ddechreuodd y Rhufeiniaid gloddio yn 75AD gan ddefnyddio caethweision i echdynnu’r aur. Roedd y Penaethiaid Celtaidd yn gyfoethog am eu bod yn masnachu aur; roeddent yn gwisgo torchau aur a bandiau o amgylch eu breichiau a wnaed gyda chrefft ragorol. Un arteffact yw lanula aur Llanllyfni a gafodd ei ddarganfod ar ffarm Llecheiddior Uchaf wrth Ddolbenmaen yn 1869. Yn ôl y son mae aur y lanula wedi tarddu o Ddolgellau. Roedd tywysogion Cymru yn berchen ar gryn dipyn o gyfoeth a phŵer oherwydd y cyflenwad swmpus o fwyn a oedd yn yr ardal. 
Cafodd y darganfyddiad cyntaf o aur yn Eryri ei gofnodi yn 1843. Yn ystod y “gold rush” a ddilynodd y darganfyddiad o aur, fe ddaeth glowyr i Abermaw a Dolgellau o bob cwr o’r wlad. Roeddent yn byw mewn preswylfeydd syml a gaiff eu darparu gan berchnogion y chwareli. Roedd y chwarelwyr yn gweithio deg awr y dydd ac roeddynt yn cael cyflog cyfartalog o 3 swllt yr wythnos. Roedd amgylchiadau gwaith yn galed ac roeddent yn goroesi ar ddiet o gwningod gwyllt.

Heddiw, mae aur Cymreig yn cael ei ystyried i fod yr aur fwyaf allgynhwysol yn y byd, mae pris aur Cymreig dair gwaith yn ddrytach nag aur arferol. Mae aur Cymreig wedi cael ei ddefnyddio i wneud modrwyau priodas Frenhinol, gan gynnwys y Fam Frenhinol, y Frenhines, Tywysoges Margaret, Tywysog Charles, y ddiweddar Dywysoges Diana, ac yn ddiweddar Catherine Zeta Jones. Roedd dwy fwynfa yn gyfrifol am gynhyrchu aur yn yr ardal; Clogau a Gwynfynydd. Mae’r ddwy chwarel wedi cau erbyn hyn, ac mae’r cyflenwad o aur Cymreig yn brin ofnadwy.

Amaethyddiaeth

Mae gweddillion dyn cynnar, meddiannaeth y Rhufeiniaid, a’r chwyldro diwydiannol wedi gadael eu marc ar yr ardal, ond mae ffermio wedi chwarae rhan flaenllaw yn y broses o siapio’r tir. Mae pobl wedi ffermio’r tir hwn ers o leiaf 9000 o flynyddoedd.

Mae’r dystiolaeth gynharaf o weithgaredd amaethyddol i’w weld yng ngweddillion anheddau cynnar sydd ar wasgar ar hyd yr ardal. Mae tystiolaeth o weithgaredd diweddarach o’r cyfnod canoloesol ymlaen yw’r systemau meysydd hynafol gyda’r ffiniau traddodiadol o gerrig a llechi a’r bythynnod unig.

Mae nifer o enwau presennol y ffermydd yn adlewyrch yr hen draddodiadau ffermio, sef yr hafod a’r hendref.  Roedd ffermwyr, eu teuluoedd a’u gweision yn pacio eu holl eiddo yn yr haf ac yn symud i fyw i’r bryniau gyda’u hanifeiliaid cyn dychwelyd i’r Hendre islaw yn ystod yr hydref.

Mae amaethyddiaeth yn parhau i fod yn un o’r diwydiannau mwyaf yn yr ardal. Mae ffermydd yr ardal yn cynhyrchu cig oen, cig eidion a chynnyrch organig tymhorol, a dywed fod cynnyrch yr ardal ymysg rhai o oreuon y byd. Mae llawer o’r cynnyrch hyn yn cael ei ddefnyddion gan fwyta, gwestai a chaffis Eryri.