Gwylio Adar

Mae'r aberoedd ac arfordir, y mynyddoedd a'r bryniau, y coedwigoedd hynafol, dyffrynnoedd ac afonydd yn ardal Eryri Mynyddoedd a Môr yn gynefin i amrywiaeth gyfoethog o adar a bywyd gwyllt - dyma baradwys i wylwyr adar.

Mae rhai o'n gwarchodfeydd adar yn cynnig golygfeydd gogoneddus a llwybrau hyfryd trwy'r goedwig, tra bod Gwarchodfa Aber Conwy yn cynnig cyfle i weld amrywiaeth o adar hirgoes, a gyda Chastell Conwy yn gefndir godidog - be well? Fel rhan o brosiect Gweilch y Pysgod Glaslyn, mae cynllun gwarchod yn weithredol yn ystod y tymor bridio. Mae'r cynllun gwylio i'r cyhoedd ar agor rhwng mis Ebrill a diwedd mis Awst, lle gallwch ddefnyddio telesgopau a gweld beth sy'n mynd ymlaen ar y camerau yn y nyth. Mae gwirfoddolwyr wrth law i helpu.

Adar Lleol

Arfordir ac aber:
Gwylan Benddu,
Bran Goesgoch
Bilidowcar
Gylfinir
Pibydd y Mawn
Cornchwiglen
Crëyr Bach Copog
Pioden y Môr
Pibydd Coesgoch
Hwyaden yr Eithin
Alarch y Gogledd

Coedwig:
Trochwr
Telor yr Ardd
Siglen Lwyd
Titw Cynffon Hir
Tingoch
Dryw Wen
Telor y Coed

Rhostir a Mynydd:
Gwalch y Pysgod
Ceiliog Du
Bwncath
Gwyddwalch
Bod Tinwyn
Cudyll Bach
Hebog Tramor
Cigfran
Iâr Goch
Gïach,
Gwalch Glas