Gwyliau haf bythgofiadwy yn Eryri
Mi fydd hi’n wyliau haf cyn i ni droi, ac os ydych chi’n awyddus i gael gwyliau bach yng Nghymru eleni, neu dreulio diwrnod yn dod i adnabod cornel arall o’r wlad, beth am deithio draw i Eryri? Dyma argymhellion am lety, gweithgareddau i’r teulu, teithiau cerdded hygyrch, traethau bendigedig, llefydd gwych i fwyta yn yr ardal a llawer mwy. Dewch i ddarganfod Eryri o’r newydd.
Llety
Awydd aros dros nos? Y peth cyntaf i’w drefnu felly yw’r llety, ac mae ble byddwch chi’n aros yn dibynnu pwy sy’n dod wrth gwrs. Os yw’n wyliau teuluol, efallai mai llety hunanddarpar fyddai fwyaf addas, rhywle fel Bwthyn Glan Morfa yng Nghaernarfon, Stabal Bach yng Nghraflwyn, neu beth am Moryn, tŷ sy’n llythrennol ar draeth Porthdinllaen ym Morfa Nefyn, dafliad carreg o’r dafarn adnabyddus, Tŷ Coch.
Os ydych chi’n mwynhau gwersylla neu fynd yn y garafán, beth am Barc Carafanau Bryn Gloch? Yn swatio rhwng y mynyddoedd, mae’n lleoliad gwych, ac mae croeso i’r ci hefyd! Neu os hoffech chi brofiad bythgofiadwy eleni, mae’n werth ystyried caban coedwig Zip World. Yng nghudd yn y coed, dyma leoliad ar gyfer gwyliau unigryw a moethus.
Mae’n bosib eich bod chi’n ymweld â’r ardal er mwyn gwneud y mwyaf o’r gweithgareddau awyr agored, ac yn chwilio am rywle cyfforddus i orffwys am noson neu ddwy. Mae mwy na digon o ddewis gan gynnwys Bala Backpackers, gwely a brecwast Tafarn y Cnu Aur yn Nhremadog, neu am brofiad lleol dros ben beth am aros yn nhafarn gymunedol Pengwern yn Llan Ffestiniog.
Ydych chi’n trefnu trip rhamantus i ddau? Ewch i gael golwg ar Caban Delor ger Caernarfon (sydd â bath yn yr ardd!), neu os ydych chi’n chwilio am rywbeth tra arbennig mae Palé Hall wedi ennill llu o wobrau, ac felly hefyd bentref Portmeirion sydd â dylanwad Eidalaidd - dau leoliad moethus a thrawiadol.
Gweithgareddau
Unwaith y byddwch wedi trefnu llety, neu benderfynu ar ddiwrnod i ddod am dro i Eryri, bydd angen meddwl am weithgareddau a phethau i’w gwneud. Os yw eich plant yn fwrlwm o fore gwyn tan nos, beth am fynd â nhw am ddiwrnod i Barc Coed y Sipsiwn? Gyda thrampolinau, trên bach, anifeiliaid a go-carts, mae digon yma i’w diddanu. Os yw’ch plant yn hyn ac yn mwynhau mynd ar ei beiciau, neu os ydych chi’n mwynhau beicio, yna mae’n rhaid i chi ymweld â Coed y Brenin ger Dolgellau. Gyda nifer o lwybrau addas ar gyfer beiciau mynydd, ardaloedd chwarae, caffi a llawer mwy, rydych yn saff o gael diwrnod gwerth chweil yma. Gallwch logi beiciau yma hefyd, felly gall unrhyw un roi cynnig arni.
Beth am dro braf, gyda chaffi bach ac ambell siop draw ym Meddgelert. Mae’r pentref tlws hwn wedi ei enwi ar ôl Gelert, y ci ffyddlon a fu farw wrth achub bywyd baban, yn ôl y chwedl. Gallwch gerdded ar lan yr afon ac ymweld â bedd enwog Gelert. Mae’n werth ymweld â Nant Gwrtheyrn ger Llithfaen hefyd. Wedi siwrne serth, fer byddwch yn cyrraedd yr hen bentref chwarel, ble mae caffi, canolfan dreftadaeth a golygfeydd ysblennydd. Mae’n lleoliad gwych i fynd i gerdded Llwybr Arfordir Cymru hefyd.
Am brofiad ychydig yn wahanol, gallwch fynd am dro i Winllan Pant Du ym Mhenygroes. Gallwch archebu o flaen llaw i gael taith o amgylch y winllan, yna mwynhau pryd yn y caffi cyn prynu cynnyrch i fynd adra gyda chi, yn win, seidr, sudd afal neu fêl. Lleoliad arall ar gyfer unrhyw un sy’n mwynhau diodydd da ydi Distyllfa Aber Falls. Yn y ganolfan ymwelwyr cewch daith wisgi ac ymweld â’r labordy jin! Wedyn, beth well nac ymlacio yn y stafell sinema, neu yn y bistro neu ar y balconi. Bendigedig.
I’r rhai ohonoch sy’n ymddiddori mewn hanes, mae Castell Harlech, sy’n safle treftadaeth UNESCO, yn leoliad arbennig, ac felly hefyd Portmeirion, y pentref sydd â dylanwad yr Eidal er ei fod wedi ei leoli ger Porthmadog! Wedi ei ddylunio gan y pensaer Clough Williams-Ellis, mae’r safle’n cynnwys sba, bwyty sydd wedi ennill gwobrau a llawer mwy. Diwrnod arall pleserus i deuluoedd, grwpiau a theithwyr unigol yw trip ar Reilffordd Stêm Talyllyn. Yn mynd o Dywyn i Abergynolwyn a Nant Gwernol, mae digonedd i’w weld ar hyd y daith gan gynnwys Rhaeadrau rhyfeddol Dolgoch.
Antur ar yr Arfordir
Mae mwy o draethau na allwch chi eu cyfrif yn Eryri. Ar arfordir y gogledd mae Dinas Dinlle; yn draeth hir o dywod melyn, gyda pharc chwarae ger llaw, olion o’r Oes Haearn a digon o lefydd bwyta, mae’n amlwg pam ei fod yn lleoliad poblogaidd. I’r dwyrain wedyn mae traeth Llanfairfechan - traeth tywodlyd, llydan yw hwn sy’n swatio o dan fynydd Penmaen mawr; y lle perffaith i hedfan barcud neu fwynhau picnic.
Os ydych chi wrth eich bodd â chwaraeon dŵr, yna ychwanegwch Aberdyfi i’ch rhestr. Mae’r traeth wedi ei enwi yn un o’r traethau gorau ym Mhrydain ar gyfer ‘ychydig o hwylfyrddio neu farcudfyrddio’ gan The Sunday Times. Neu os yw’n well gennych chi gadw’ch traed ar dir sych, cewch fwynhau tro o amgylch yr hen harbwr a’r tai pastel tlws gyferbyn â’r traeth.
Dau draeth arall sy’n haeddu eu lle ar gardiau post yw traeth Cricieth a thraeth Borth-y-Gest. Mae dau draeth yng Nghricieth yn cael eu gwahanu gan gastell canoloesol. Gyda golygfeydd anhygoel o Fae Ceredigion, mynyddoedd Eryri a chanolbarth Cymru ar ddiwrnod clir, mae’n saff o wneud argraff. Mae traethau Borth-y-Gest wedi eu lleoli ym mhentref bach Borth-y-Gest sydd ger Porthmadog. Dilynwch Lwybr yr Arfordir tua’r gorllewin, gan gerdded heibio rhes o dai, ac fe ddewch chi at y llwybr sy’n arwain at y traethau tawel.
Rhan arall o’r arfordir nad yw llawer yn gwybod amdano yw Pier Bangor. Y pier rhestredig hwn yw’r ail hiraf yng Nghymru, ac mae’n le braf i fwynhau coffi, cacen a hufen iâ. Gallwch gerdded ymhellach ar hyd yr arfordir hefyd, gan fwynhau golygfeydd gwych o’r Fenai.
Dewch i ni orffen gyda dau draeth godidog. Mae traeth Llandanwg wedi ei leoli rhwng Abermaw (neu Bermo fel y mae’n cael ei alw gan nifer), a Harlech. Mae’r draeth cysgodol hwn yn adnabyddus am yr eglwys hynafol sydd wedi ei lleoli dafliad carreg o’r traeth, ac mae’n llecyn poblogaidd ymysg pysgotwyr lleol hefyd. Ac wrth gwrs, fyddai’r un rhestr traethau yn gyflawn heb gynnwys traeth Porthinllaen, neu draeth Henborth i roi ei hen enw iddo. Gallwch gyrraedd y traeth hwn wrth gerdded ar draws y traeth o Forfa Nefyn, neu ar hyd y llwybr sy’n dod trwy Glwb Golff Nefyn. Gyda thywod euraidd, digon o byllau bach i fynd i chwilio am grancod, a thafarn enwog y Tŷ Coch, does yr un trip i Eryri yn gyflawn heb ddod yma am dro.
Llwybrau cerdded
Ydych chi wedi pacio eich esgidiau cerdded? I ffwrdd â ni! Mae cynifer o deithiau a llwybrau cerdded yn Eryri mae’n anodd gwybod ble i ddechrau, ond dyma rai o’n ffefrynnau.
Mae Llwybr Tegid yn rhedeg ochr yn ochr â Llyn Tegid yn y Bala, ac oddi yno gewch fwynhau golygfeydd gwych o’r llyn a’r bryniau gerllaw. Yn lwybr gwastad, wedi ei orchuddio â tharmac, mae’n addas ar gyfer cadair olwyn, coetsh, neu sgwter symudedd. Mae llwybr Dyffryn Maentwrog a Llyn Mair yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n mwynhau natur. Gyda chyfres o lwybrau hamddenol yn un o ddyffrynnoedd mwyaf gogoneddus Eryri, cewch ddewis hyd y daith sy’n gweddu orau i chi. Beth am baratoi bingo helfa natur i ddiddanu’r plant ar hyd y daith?
Os yw hen dref llechi Blaenau Ffestiniog ar eich rhestr, yna beth am gwblhau taith gerdded gorsaf Ramblers Cymru? Ar ôl cyrraedd yr orsaf byddwch yn dilyn llwybr 2.3 milltir, gan grwydro drwy'r stryd fawr ddymunol, cyn dringo i fwynhau golygfeydd godidog o fynyddoedd Moelwyn ac argae Stwlan.
Oeddech chi'n gwybod bod tirwedd llechi Gogledd-orllewin Cymru yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO? Gallwch fwynhau'r cyfan sydd gan yr ardal i'w gynnig drwy gerdded ar hyd Llwybr Llechi Eryri. Un rhan o'r llwybr hwn yw taith gerdded 5.2 milltir o hyd, o Ryd Ddu i Feddgelert, ar hyd Lôn Gwyrfai. Mae hon yn daith ddymunol a hawdd ar hyd llwybrau sydd wedi'u marcio a llwybrau coedwig, gyda digon o olygfeydd godidog o fynyddoedd uchaf Eryri i’w mwynhau ar hyd y ffordd.
Os ydych chi'n dod â beiciau, beth am roi cynnig ar Lôn Las Ogwen? Mae'r llwybr 11 milltir hwn yn rhedeg rhwng Porth Penrhyn a phentref Glasinfryn, ac mae wedi'i adeiladu ar y rheilffordd gul a adeiladwyd yn wreiddiol i gludo llechi o'r chwareli ym Methesda.
Taith gerdded gwerth chweil sy’n llawn hanes a natur yw taith gylchol Abergwyngregyn. Mae’n daith o 6.3 milltir a bydd yn cymryd tua 4 awr i'w chwblhau. Mae'r daith yn dringo llethrau Moel Wnion ar gyrion mynyddoedd y Carneddau ac yn eich gwobrwyo â golygfeydd panoramig o Afon Menai ac Ynys Môn.
Ac roedd yn rhaid i ni gynnwys taith gylchol Llanbedrog ar ochr ddeheuol Pen Llŷn. Mae'r daith gerdded yn mynd â chi drwy goetiroedd aeddfed oriel gelf Plas Glyn-y-Weddw ac ar hyd gweundir y penrhyn. Yna gallwch ddychwelyd i’r traeth ar hyd llwybr gwahanol, gan fwynhau’r golygfeydd ar y ffordd.
Bwyd a Diod
Mae bwyd a diod yn rhan fawr o wyliau, ac yma yn Eryri mae digonedd o ddewis. Os ydych chi’n chwilio am gaffi sy'n plesio pawb, yna Caffi Largo yw’r caffi i chi. Dyma le delfrydol i ddod â theulu llwglyd ar ôl bod yn chwarae ar y traeth.
Efallai y byddwch yn crwydro o gwmpas yr ardal ac angen cinio i lenwi boliau… os ydych chi o gwmpas Criccieth yna gwnewch yn saff eich bod yn ymweld â Dylan’s. Wedi ei leoli ar y prom, a gyda thoreth o gynnyrch lleol ar y fwydlen, hwn yw’r lle i ddod. Os ydych chi ym Mangor yna ewch draw i Gaffi Blue Sky, oddi ar y Stryd Fawr, mae eu bwydlen dymhorol yn llawn opsiynau blasus gan gynnwys llawer o brydau llysieuol a fegan. Ym mhentref Chwilog mae tafarn Y Madryn, tafarn yw hon a gafodd ei phrynu a’i hadnewyddu gan bum ffrind, sydd bellach yn gweini bwyd rhagorol ac yn cynnig ystod eang o win a chwrw lleol. Os ydych chi yng nghyffiniau Mallwyd yna mae’n rhaid i chi alw yn nhafarn y Bridgands; gyda chogydd arobryn a chinio dydd Sul gwerth sôn amdano, fe fyddwch chi’n saff o bryd penigamp yma.
Os ydych chi’n angerddol am ddiodydd lleol, yna Eryri yw’r lle i ddod. Gallech dreulio’ch gwyliau cyfan yn mynd o dafarn i ddistyllfa, ond dau le sy’n haeddu eu henwi yw Bragdy Lleu a Distyllfa Dyfi. Mae Bragdy Lleu yn fragdy crefft gwobrwyedig yn Nyffryn Nantlle, ble mae pob cwrw maent yn ei greu yn cael ei enwi ar ôl cymeriadau o’r Mabinogi, megis Blodeuwedd a Gwydion! Draw yng Nghanolfan Grefft Corris, mae Distyllfa Dyfi, yr unig ddistyllfa sydd wedi ennill Gwobr Jin Prydeinig Gorau yng Ngwobrau Bwyd Prydain Fawr ddwywaith. Mae’n werth dod yma am dro i gael blasu, prynu, a dysgu sut mae’r jin arbennig hwn yn cael ei wneud.
Os mai ymweld â bwytai yw un o’ch prif ddiddordeb, yna ewch i nôl papur a phensel. Mae Bwyty’r Gunroom yn nhŷ gwledig Plas Dinas ym Montnewydd yn fwyty rhosét AA 2, a’r gegin dan law’r cogydd adnabyddus Daniel ap Geraint. Archebwch eich bwrdd nawr! Os ydych chi’n un am gyri, yna mae’n rhaid i chi ymweld â NOMI ym Mhwllheli - gyda phrydau blasus sy’n wahanol i’r hyn y cewch ar fwydlen bwyty Indiaidd arferol, mae bwyta yma yn brofiad neilltuol.
Ac os byddwch yn ymweld â Dolgellau yna cofiwch alw yn Dylanwad - yn gaffi, bar a siop win, gallwch fwynhau coffi a chacen yma, neu gael gwledd go iawn wrth archebu gwin arbennig gyda chaws a chig yn gwmni iddo.
Prynu’n Lleol
Mae’n ddigon o waith cael pawb yn barod i gychwyn heb fynd i boeni am ddim byd arall, felly beth am brynu cinio neu bicnic ar ôl cyrraedd? Neu neges wythnos os ydych chi’n dod ar eich gwyliau! Mae mwy na digon ar gael, ac mae’n bosib y byddwch yn dod o hyd i ambell ffefryn newydd wrth gefnogi ein cymunedau lleol hefyd.
Yn gyntaf, coffi. Poblado yw prif rostwyr coffi crefftwrol Cymru, gyda’u caffi a’u canolfan rostio yn swatio yn hen farics y chwarelwyr yn Nantlle. Yn cynnig detholiad o’r ffa arabica o ffynonellau moesegol gorau, gallwch fwynhau’r coffi’n fodlon gydol eich gwyliau. Mae eu coffi ar gael i’w brynu yn Nantlle ac mewn nifer o siopa ledled Eryri.
Nesaf, hufen iâ! Mae siop Glasu yng nghanol tref Pwllheli yn gwerthu hufen iâ bendigedig sydd wedi ei wneud wrth ddilyn rysáit traddodiadol, a gan ddefnyddiol llaeth o fferm deuluol y perchnogion. Os yw’r plant yn dotio ar ysgytlaeth, beth am i chi stopio wrth un o beiriannau’r Sied Laeth yn Nefyn, Pwllheli neu Lanbedrog i archebu ysgytlaeth ffres. Mae blas mafon, caramel wedi ei halltu a Bounty ar gael!
Does dim gwell na chynnyrch lleol, gan gynnwys cig ffres wedi ei goginio ar farbeciw. Gallwch brynu’r holl gig sydd ei angen arnoch yn siop y cigydd teuluol O.G. Owen a’i Fab, yng Nghaernarfon. Ac os yw’n ddydd Gwener gallwch bicio i Farchnad Leol Bangor i brynu llysiau, ffrwythau a bara ffres. Neu os ydych chi yn Harlech, mae’n rhaid i chi bicio mewn i siop Y Groser. Mae’n siop annibynnol gyda deli, felly rydych yn saff o adael gyda basged llawn danteithion.
Mae wastad yn braf prynu rhywbeth er mwyn cofio am wyliau, neu efallai eich bod yn chwilio am anrheg neu ddau i fynd adref gyda chi. Mae Cwt Tatws ger traeth Towyn ym Mhen Llŷn yn cynnig ystod eang o nwyddau cartref, dillad, gemwaith a mwy. Os ydych chi’n chwilio’n benodol am rywbeth eithaf arbennig ar gyfer y cartref, yna beth am alw draw yn Siop Melin Meirion yn Ninas Mawddwy. Mae yma flancedi a charthenni Cymreig coeth, ymysg llawer o bethau eraill.
Os mai llyfrau sydd at eich dant, byddwch wrth eich bodd yn crwydro siopau llyfrau annibynnol Eryri. Un o’r rhai yw siop Awen Meirion sydd ar y stryd Fawr yn y Bala. Cofiwch alw mewn i brynu rhywbeth i ddarllen ar eich gwyliau. Mae siopau llyfrau Palas Print a Na-Nôg yng Nghaernarfon hefyd â rhywbeth i bawb rhwng dau glawr.
Gwybodaeth Ddefnyddiol
Gobeithio eich bod wedi cael llond trol o syniadau newydd ar gyfer eich antur yn Eryri. Dyma un neu ddau ddarn ychwanegol o wybodaeth i wneud eich trip yn un hamddenol.
Defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus yn ystod eich ymweliad, a chofiwch edrych ar amserlenni’r bws a’r trên o flaen llaw. Gallwch hefyd ddefnyddio bws Sherpa’r Wyddfa, rhwydwaith o wasanaethau bws sy’n eich galluogi i deithio o amgylch Eryri. Os ydych chi’n gyrru gallwch ddod o hyd i wybodaeth am feysydd parcio’r ardal ar wefan Cyngor Gwynedd.
Ewch draw i wefan Cadw os hoffech chi ragor o wybodaeth am gestyll a lleoliadau hanesyddol lleol eraill. Mae Cyngor Gwynedd hefyd yn darparu gwybodaeth am barciau, llwybrau a mannau gwyrdd yr ardal.
Os yw’n ddiwrnod gwlyb fe all fod yn ddefnyddiol i chi ddod o hyd i’ch canolfan hamdden agosaf i weld pa weithgareddau sydd ar gael.
Os ydych yn mentro tua’r mynyddoedd cofiwch gael cip ar wefan Mentro’n Gall cyn cychwyn, am gyngor heb ei ail.
Gwnewch yn saff eich bod yn gwybod ble mae’r toiledau agosaf, ac yma gallwch weld ym mhle mae modd ail-lenwi poteli dŵr am ddim.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, mae croeso i chi gysylltu. Mwynhewch Eryri!