Golwg Newydd ar Hen, Hen Hanes

Os ydych chi’n cael eich denu gan straeon da o hud a lledrith neu arswyd a chyfrinachau, yna mae llwybrau Eryri yn galw arnoch. Dewch i droedio’r union lwybrau, gweld yr union olygfeydd a theimlo’r union wefr wnaeth ysbrydoli ein chwedlau mwyaf dychmygus. Dewch i greu eich chwedloniaeth eich hunan yn naws hiraethus a hudolus y tir.

Llyn yr Afanc, Betws-y-Coed

I’r de o Fetws-y-Coed, oddi ar yr A470 wrth iddi groesi Afon Conwy, mae Llyn yr Afanc. Gair Cymraeg am beaver yw afanc, ond nid afanc cyffredin mo’r creadur hwn. Yn wir, roedd yn fwy o grocodeil. Roedd ei bresenoldeb yn destun braw i bobl leol, roedd yn ymosod ar unrhyw un a ddaethai’n agos i’r dŵr. Fe wylltiodd o gymaint unwaith nes chwipio’i gynffon yn ddidrugaredd ac achosi llifogydd difrifol drwy’r wlad. Mae’n debyg y llwyddodd y bobl leol i dynnu’r afanc o’r llyn gydag ychen wedi i ferch ifanc ei ddenu i’r lan gyda’i chân. Ond bu’n brofiad erchyll i’r ychen druan wrth i’w lygaid ddod o’i lle. Llifodd ei ddagrau a chreu llyn arall, Pwll Llygaid yr Ych.

Os ydych yn ddigon dewr i fynd am drochfa, er gwaetha hanes yr Afanc, yna efallai y byddwch wedi codi awch bwyd arnoch chi eich hun. Ewch draw i Fetws-y-Coed am ddewis eang o fwytai da yng nghanol y pentref. Neu os yw’r afon dal yn galw, gallwch fwynhau golygfa ohoni wrth fwyta yn Craig-y-Dderwen (ble gallwch gloi beic yn saff neu wefru car trydan). Os am ddal ati i anturio’r ardal, y llwybrau dyrys, y rhaeadrau godidog neu gyffro lleoliadau Zip World, beth am lenwi’ch pecyn picnic gyda chynnyrch lleol o Deli Iechyd Da?

Betws-y-Coed © Hawlfraint y Goron © Crown copyright (2024) Cymru Wales
Betws-y-Coed

Tylwyth TeG Llyn Cwellyn, Rhyd Ddu

Mae sawl llecyn hudol yn Eryri lle mae rhai yn taeru iddynt weld rhywbeth bach yn symud yn y blodau. Cadw llygaid am Dylwyth Teg yw un o’r pethau y gallwch ei wneud ar lwybr pren Llyn Cwellyn; llwybr hygyrch, llydan sy’n rhoi taith hamddenol ar hyd y llyn. Ond os clywch chi gerddoriaeth swynol ar y gwynt, byddwch yn wyliadwrus gan mai dyma’n union a hudodd y Bugail i gylch y Tylwyth Teg yn ôl y chwedl. Croesodd i fyd bodlon braf y tylwyth, ac er iddo deimlo mai dim ond rhai munudau y bu yno, pan ddaeth yn ei ôl i’w fyd ei hun, roedd saith mlynedd wedi mynd heibio. Roedd ei ddyweddi wedi priodi rhywun arall, ei deulu wedi colli ’nabod arno, a phopeth wedi newid. Torrodd ei galon yn y fan a’r lle. 

Dyma lwybr a stori gwerth chweil i ddal dychymyg eich plant yn enwedig. Mae’n hawdd i’w gyrraedd o’r maes parcio, yn cynnig golygfeydd godidog o’r Wyddfa a Mynydd Mawr ac mae llefydd pwrpasol i fwynhau picnic ar hyd y ffordd. Rydych hefyd o fewn cyrraedd pentref bach Rhyd Ddu sy’n fan dechrau un o lwybrau’r Wyddfa. Gallwch ddal trên Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri i Gaernarfon yno, neu fwynhau diod a phryd traddodiadol yn nhafarn deuluol y Cwellyn Arms, wrth edrych ar eich lluniau, rhag ofn eich bod wedi dal tylwythen deg yn un ohonynt!

Llyn Cwellyn
Llyn Cwellyn

Stori Gelert, Beddgelert

Os yw hela Tylwyth Teg yn syniad cyffrous, wel dilynwch yr A4085 i lawr o Rhyd-ddu ac ar eich pen i Feddgelert. Dywedir fod sawl un o’r tylwyth wedi eu gweld yma ar lan Afon Glaslyn. Ond nid dyma chwedl enwocaf y pentref arbennig hwn ’chwaith. Mae’r cliw yn yr enw – Beddgelert. Ond pwy oedd Gelert? Ci ffyddlon Tywysog Cymru, Llywelyn Fawr, oedd Gelert. Roedd Llywelyn wedi mynd i hela ac wedi gadael Gelert i ofalu am ei fab bychan oedd yn cysgu yn ei grud. Pan oedd yr helwyr wedi diflannu o gliw Gelert ac yntau’n gorffwys wrth grud y bychan, clywodd rhywbeth  - synhwyrai anifail arall. Ac yn wir, daeth blaidd i mewn, a hwnnw â golwg filain a llwglyd yn ei lygaid. Neidiodd y blaidd am y baban a neidiodd Gelert am y blaidd. Bu ymladd ffyrnig nes i’r crud droi ar ei ochr ar lawr. Llwyddodd Gelert i ladd y blaidd, ond roedd gwaed yr anifail gwyllt drosto i gyd. Pan ddaeth Llywelyn yn ôl a gweld Gelert yn waed drosto ar crud ar ei ochr, saethodd poen drwy galon Llywelyn wrth iddo feddwl fod ei gi ffyddlon wedi ymosod ar ei fab. Cododd ei gleddyf a thrywanu Gelert. Dim ond wedyn y clywodd Llywelyn y bychan yn llefain. Pan aeth ato, gwelodd y blaidd yn gelain ar lawr. Torrodd calon Llywelyn o weld ei gamgymeriad erchyll. Mae’r stori yma wedi dal dychymyg ers blynyddoedd maith ac mae Beddgelert yn ganolbwynt croesawgar yn Eryri, gyda llwybr hygyrch, byr yn arwain o galon y pentref, gyda’r afon, at y bedd.

Mae yma ddewis da o lefydd i gael paned neu damaid i’w fwyta, gan gynnwys bistro enwog Hebog, ble mae te prynhawn a bwydlen i blant. Ond efallai mai hufen iâ gan yr arbenigwyr yng nghaffi Glaslyn fyddai’n codi’r galon orau wedi’r stori drist. Neu beth am fynd i brynu trysor i’w gofio yn un o’r siopau difyr sydd ar gael?  Mae digon i’w wneud yn yr ardal a digon o ddewis o ran lletyau amrywiol. Os yw eich ffrind ffyddlon chi yn ymuno â chi ar eich gwyliau yn Eryri, cofiwch bod angen cadw cŵn ar dennyn yng nghefn gwlad, yn enwedig os ydych yn ymyl da byw. Mae rhagor o wybodaeth ar fynd a’ch ci am dro mewn modd diogel yn Eryri. 

Dinas Emrys, Craflwyn

Nepell o Feddgelert, i fyny’r A498 tuag at Nant Gwynant mae Maes Parcio Craflwyn ac o’r fan yma gallwch fynd ar daith gerdded a fydda i o bosib yn eich arwain i ddod wyneb yn wyneb â chreadur tipyn mwy na’r Tywlyth Teg... y Ddraig Goch. Dyma, o’r diwadd, gyfle i chi ddod yn agos at ffyrnigrwydd ein baner genedlaethol! Yn ôl y chwedl, y brenin Gwrtheyrn a roddodd yr enw Dinas Emrys i’r bryn hwn. Roedd o wedi ceisio codi llys yma, ond bob nos, wedi i’w ddynion fod yn gweithio’n galed yn codi’r cerrig byddai rhywbeth yn digwydd i’w dymchwel erbyn y bore. Bachgen o’r enw Myrddin Emrys a awgrymodd fod dwy ddraig, un wen ac un goch, yn ymladd wrth lyn oddi tanynt ac yn crynu’r tir wrth frwydro, a dyna’n wir oedd yn digwydd. Yn y diwedd, y ddraig goch oedd yn drech a llwyddodd Gwrtheyrn i godi ei lys ac enwi’r fan yn ‘Dinas Emrys’. Mae’r daith gerdded yma’n eich arwain drwy goetir derw, heibio i readrau ac at hen olion llysoedd Tywysogion Cymru a fu’n sefyll yno unwaith, fel chi, yn gogoneddu at yr olygfa.

Ar ôl eich antur fawr, beth am alw draw yng Nghaffi Gwynant?  Mae yma ystod eang o fwydydd (gan gynnwys bwyd heb wlwten) wedi eu paratoi gan ddefnyddio cynnych lleol, cacennau cartref, cwrw lleol, a wi-fi am ddim.

Nant Gwrtheyrn, Pen Llŷn 

Mae’n debyg i Frenin Gwrtheyrn gael bywyd cythryblus ac wrth ddianc rhag ei elynion, yn y pen draw fe aeth tuag at Ben Llŷn a llochesu mewn llecyn cudd wrth y môr – dyma Nant Gwrtheyrn. Allwch chi ddim peidio â theimlo eich bod yn teithio i fyd chwedloniaeth wrth ymdroelli drwy’r coed at y lleoliad hardd hwn. Un o chwedlau enwocaf y Nant yw honno am y cariadon Rhys a Meinir. Ar ddydd eu priodas trodd yr hen draddodiad o’r briodferch yn cuddio rhag ei darpar-ŵr yn hunllef. Ni lwyddodd neb i ddod o hyd iddi’r diwrnod hwnnw nac am wythnosau. Nes un noson, a Rhys allan eto’n chwilio mewn storm, trawodd mellten un o goed derw’r Nant a’i hollti, ac yno, yn ei ffrog briodas, roedd corff Meinir. 

Un chwedl o nifer o straeon difyr Nant Gwrtheyrn yw hon, a gallwch ei darllen yn llawn, ynghyd a hanes difyr y cyn-bentref chwarel hwn yng Nghanolfan Dreftadaeth y pentref sydd wedi ei leoli yng Nghapel Seilo. Beth am deithio yn ôl mewn amser hefyd gan ymweld â thŷ chwarelwr, sy’n edrych yn union fel y byddai wedi gwneud yn 1910. Mae Caffi Meinir ger llaw yn cynnig prydau, byrbrydau a diodydd, ac mae llefydd penodol i eistedd gyda chŵn tu mewn a’r tu allan. Mae llety hunanddarpar ar gael yn y Nant, siop anrhegion ac mae posib trefnu i ddod ar gwrs dysgu Cymraeg yma. Wrth adael y lleoliad arbennig yma, ystyriwch daith gerdded i gopa Tre’r Ceiri i weld olion Bryngaer o Oes yr Haearn, cyn mwynhau llymaid yn nhafarn gymunedol hynaf Cymru, Tafarn Y Fic (sydd â pharc chwarae gwych hefyd) yn Llithfaen.

Nant Gwrtheyrn © Hawlfraint y Goron © Crown copyright (2024) Cymru Wales
Nant Gwrtheyrn

Chwedl Branwen a Bendigeidfran, Harlech

Wrth ymweld â Harlech, does dim posib anwybyddu’r Castell ac mae hanes hir a difyr iddo. Ond cymerwch eiliad i edrych draw dros y dŵr a dychmygwch eich bod yn gawr. Bendigeidfran y Cawr oedd brenin Ynys y Cedyrn, sydd heddiw’n cael ei adnabod fel Prydain. Mae chwedl Branwen ferch Llŷr yn un o Bedair Cainc y Mabinogi ac wedi ei chynnwys yn ein llawysgrifau hynaf. Mae’r stori’n cychwyn pan mae Matholwch, Brenin Iwerddon yn croesi’r môr er mwyn gofyn am briodi Branwen, chwaer Bendigeidfran y cawr. Mae Branwen a Matholwch yn priodi, ond mae Efnisien, brawd arall Branwen yn gandryll nad oes neb wedi gofyn am ei ganiatad o, ac yn ei wylltineb mae’n niweidio ceffylau Matholwch. Er hynny, mae Branwen yn mynd i ddechrau bywyd newydd yn Iwerddon gyda Matholwch, ond mae hi’n cael ei cham-drin a’i charcharu. Gyda’r mymryn lleiaf o obaith yr oedd ganddi ar ôl, mae hi’n llwyddo i anwesu drudwy sy’n hedfan yn ôl i Harlech i ddweud wrth Bendigeidfran am y creulondeb. Mae hwnnw yn gandryll ac yn mynd i’w hachub gyda byddin. Mae’r stori’n ddyrys, gwaedlyd a brawychus ar adegau. Yn y diwedd, dim ond Branwen a chwe milwr sy’n dychwelyd i Gymru, gyda phen Bendigeidfran mewn cwch. Mae Harlech yn dref gysurus yn llawn caffis bach cartrefol fel Caffi Bwtri Bach, atyniadau cofiadwy a blasus fel traeth Llandanwg a choffi arbenigol Ffa Da. Cewch flas ar y cyfan wrth deithio yno ar drafnidiaeth gyhoeddus hwylus, ar lwybr yr arfordir neu daith hamddenol yn y car. 

Cader Idris, Dolgellau

Rydym yn falch o’n cewri yn Eryri, does dim rhyfedd i fawredd y mynyddoedd ysbrydoli’r fath straeon. Un o’r mynyddoedd mawr hynny yw Cader Idris. Teithiwch i dref gartrefol Dolgellau a pharcio ym maes parcio Canolfan Hamdden Glan Wnion er mwyn dechrau ar daith gerdded tuag at y mynydd ar hyd Llwybr Pili Pwn. Nid yw’n llwybr cwbl hamddenol, gall rhannau fod ychydig yn heriol, ond mae’n bleserus tu hwnt. Cofiwch fod nifer o bethau i’w hystyried a’u cynllunio cyn dechrau ar daith gerdded heriol fel hon; mae rhestr wirio dda i’ch rhoi chi ar ben ffordd i’w weld ar wefan Mentro’n Gall.

Yn ôl y chwedl, y mynydd hwn oedd sedd Idris Gawr. Cawr addfwyn a oedd yn gwarchod yr ardal. Dyna pam y’i gelwid yn ‘Cader Idris’ neu ‘Cadair Idris’. Mae rhyw egni yn y tir wrth i chi droedio’r mynydd a dywed rhai y gall y lle eich troi chi’n fardd neu’n wallgofyn. Wedi i chi fod yn mynydda (gan obeithio eich bod yn dal yn chi’ch hun!) ewch i ymweld â rhai o siopau bach Dolgellau fel Siop Medi am anrhegion cofiadwy neu beth am alw am ddiod oer yn nhafarn annibynnol Y Stag, ble mae digon o ddewis o fwyd a diod gan gynnwys bwydlen arbennig ar gyfer cŵn! Tarwch mewn am damaid traddodiadol yng Nghaffi’r Sospan sy’n dyddio nôl i 1606, neu fwynhau tapas yn Nafarn y Gader. Ond os am wledda ar olygfa o’r mynydd yr ydych wedi ei goncro efallai mai pitsa ym Mwyty Mawddach yw’r dewis gorau i chi.

Mae yma lond gwlad o chwedlau yn eich aros. Dewch i’w teimlo, dewch i’w darganfod a dewch i’w creu gan mai cyfrinach fawr Eryri yw’r gallu i ysbrydoli.

Cader Idris © Hawlfraint y Goron © Crown copyright (2024) Cymru Wales
Cader Idris

 

Graffeg cystadleuaeth Portmeirion

 

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU 200