Ffordd yr Arfordir - Rhywbeth i'r Teulu Cyfan

Gan redeg ar hyd Bae Ceredigion gyfan, o Aberdaron yn y gogledd i Dŷ Ddewi yn y de, mae Ffordd yr Arfordir yn un o dri llwybr teithio cenedlaethol Ffordd Cymru sy'n ymestyn am 180 milltir/290km. Yn hytrach na chyfres gadarn o gyfarwyddiadau, mae pob 'Ffordd' yn llwybr hyblyg gyda digon o gyfleoedd i grwydro oddi ar y prif lwybr, gan ddilyn llwybrau a gwyriadau fel y gallwch greu eich siwrne bersonol eich hun.  

Mae'r deithlen pedwar diwrnod hon yn cynnig hwyl i bawb o bob oedran. Wrth i chi fynd, byddwch yn plymio i mewn i chwaraeon dŵr gwyllt, chwarae o gwmpas ar feiciau ac yn gweld bywyd gwyllt bendigedig o bob math.

Diwrnod 1

Dechreuwch eich taith yn Glasfryn Parc ger Pwllheli. Mae'n llawn gweithgareddau bywiog ar gyfer y teulu oll, o golff gwirion a saethu colomennod clai i go-cartio cyffrous a thonfyrddio. Yna, beth am fynd ar eich beic ym Mharc Coedwig Coed y Brenin, canolfan beicio mynydd bwrpasol cyntaf y DU. Gall y dechreuwyr yn eich plith fynd dow-dow ar draciau megis Yr Afon, a'r rhai sy'n chwilio am her fynd ar y ‘Beast’ - 22 milltir/35km o ddringfeydd creigiog, garw a disgyniadau dychrynllyd. 

 Coed y Brenin Forest Park
Coed y Brenin

Awgrymir aros dros nos yn: Machynlleth

Diwrnod 2

Teithiwch ar hyd yr A487/A415/A44 i Ganolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, a saif mewn safle dramatig yn edrych dros Fae Ceredigion a Mynyddoedd Cambria. Crwydrwch ar hyd rhwydwaith o lwybrau ar droed, ar gefn ceffyl, neu ar feic. Gallwch weld barcutiaid coch - yr adar ysglyfaethus eiconig sy'n ffynnu yn y rhannau hyn - yn yr awyr (mae cymaint â 150 yn casglu yma am sesiynau bwydo dyddiol). Yna, ewch i Lanerchaeron, ystâd Sioraidd o eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol y tu allan i Aberaeron, sydd fel pe na bai unrhyw un wedi'i gyffwrdd dros y ddwy ganrif ddiwethaf. Mae yno villa, fferm weithredol, llyn a gerddi muriog sydd wedi'u cadw'n berffaith - dyma daith fydd yn eich cludo yn ôl i'r gorffennol. Ewch yn eich blaen i Gei Newydd a Chanolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion, lle gallwch ddysgu am yr anifeiliaid sy'n galw ein dyfroedd yn gartref - llu o greaduriaid carismataidd sy'n cynnwys dolffiniaid, llamhidyddion a morloi llwyd yr Iwerydd. 

Awgrymir aros dros nos yn: Cei Newydd

Diwrnod 3

Ewch draw i Dŷ Ddewi am ddiwrnod ar eich beic ar Daith Feicio TYF i'r Teulu. Mae'r daith feicio hamddenol 18.6 milltir/30km hon yn eich tywys drwy'r hanes lleol ac yn adlewyrchu ar y ffyrdd niferus y mae penrhyn Tŷ Ddewi wedi helpu i lunio hanes Cymru a thu hwnt. Siawns bod hon yn un o'r ffyrdd gorau i grwydro cefn gwlad Sir Benfro. 
 

Cycling
Taith Beicio


Awgrymir aros dros nos yn: Tŷ Ddewi

Diwrnod 4 

Dechreuwch eich diwrnod wrth ddod wyneb yn wyneb â phryfetach yn Dr Beynon’s Bug Farm y tu allan i Dŷ Ddewi, sy'n dathlu pryfetach o bob lliw a llun. Yma, gallwch weld creaduriaid anghyffredin yn y Tropical Bug Zoo, dysgu am ffermio pryfetach a hyd yn oed flasu pryfetach bwytadwy yn y Grub Kitchen (peidiwch â phoeni, mae digon o ddanteithion heb bryfed ynddyn nhw ar gael hefyd). 

Dr Beynon’s Bug Farm
Dewch wyneb yn wyneb â'r pryfetach, os ydych chi'n ddigon dewr!

Gallwch ddod â'ch taith arfordirol i ben drwy fwynhau taith bach wahanol ar droed yn Sweet Home Alpaca, oddi ar yr A487 ger Roch. Ymunwch â thaith gerdded alpaca i chwilota ymysg 23 acer/9.3ha o dirwedd Sir Benfro yng nghwmni un o'r anifeiliaid difyr hyn. Wrth i chi fynd, byddwch yn dysgu am yr alpaca ac efallai y byddwch yn gweld peth bywyd gwyllt brodorol hefyd.

Awgrymir aros dros nos yn: Solfach, Newgale, Broad Haven neu Little Haven