Ffordd yr Arfordir - Profiadau ar Lan y Môr

Gan redeg ar hyd Bae Ceredigion gyfan, o Aberdaron yn y gogledd i Dŷ Ddewi yn y de, mae Ffordd yr Arfordir yn un o dri llwybr teithio cenedlaethol Ffordd Cymru sy'n ymestyn am 180 milltir/290km.  Yn hytrach na chyfres gadarn o gyfarwyddiadau, mae pob 'Ffordd' yn llwybr hyblyg gyda digon o gyfleoedd i grwydro oddi ar y prif lwybr, gan ddilyn llwybrau a gwyriadau fel y gallwch greu eich siwrne bersonol eich hun.  

Mae yma weithgareddau dyfrol, teithiau ar gwch, traethau tlws a digon o adar i'w gwylio; mae'r deithlen pum diwrnod hon yn dangos ein traethlin yn ei holl ogoniant.

Diwrnod 1

Bydd eich siwrne'n cychwyn yn Aberdaron drwy fentro allan i'r môr ar daith un diwrnod ar gwch draw i Ynys Enlli (Bardsey Island), oddi ar ben gorllewinol Penrhyn Llŷn. Yn ganolfan bererindota ers canrifoedd, mae 'Ynys yr 20,000 o Saint' hefyd yn warchodfa natur sy'n gartref i doreth o fywyd gwyllt morol - popeth o forloi, llamhidyddion a dolffiniaid i heidiau di-rif o adar morol.

Awgrymir aros dros nos yn: Cricieth

Porthmadog
Porthmadog

Diwrnod 2

Dechreuwch y diwrnod gyda thaith gerdded rhwng Cricieth a Phorthmadog, gan ddilyn Llwybr Arfordir Cymru heibio i draeth euraid y Greigddu ac aber afon Dwyryd. Yna gyrrwch i lawr yr arfordir i Abermaw am wibdaith ar gwch i wylio'r dolffiniaid, neu sesiwn padlfyrddio hwyliog.  

Awgrymir aros dros nos yn: Abermaw

Diwrnod 3

Gyrrwch drwy Fachynlleth cyn dilyn yr A487/B4353 hyd dwyni ac aber sy'n gyfoeth o fywyd gwyllt yn Ynyslas. Ar lanw isel, efallai y gwelwch gipolwg o goed petraidd yn codi i fyny allan o'r tywod.  Yn ôl y chwedl, dyma olion Cantre'r Gwaelod, teyrnas a gollwyd i'r môr ganrifoedd yn ôl (gwrandewch yn astud am sŵn clychau yn canu o eglwys y deyrnas a gollwyd i'r môr). Cariwch ymlaen i lawr yr arfordir drwy Borth ac Aberystwyth i wylio morloi yng Nghwmtydu, cildraeth cuddiedig wedi'i guddio rhwng pentir creigog (mae hefyd yn werth ymweld â thraethau cyfagos ynysig Cwm Silio a Chastell Bach). Os oes gennych chi amser, ewch draw i eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mwnt. Dyma draeth gwledig gyda thywod euraidd, eglwys wyngalchog hynafol a thaith gerdded fer odidog i gopa pentir lle gwelir golygfeydd panoramig o Fae Ceredigion.

Awgrymir aros dros nos yn: Aberteifi

Diwrnod 4

Os na gyrhaeddoch chi yno ddoe, ewch yn eich ôl fymryn i grwydro o amgylch Mwnt, cyn cario ymlaen i Preseli Venture ym Mathri. Y llety eco a'r darparwr gweithgareddau hwn fydd eich man cychwyn er mwyn cael taith wych i'r teulu oll yn caiacio yn y môr o amgylch arfordir Sir Benfro, gan roi cipolwg o'r olygfa y mae'r morloi yn ei gweld o fwâu craig hudolus, ogofâu môr atseiniol a chlogwyni garw..

Awgrymir aros dros nos yn: Abergwaun

Diwrnod 5

Beth am gael têc-awê fymryn yn wahanol drwy fynd ar antur chwilota ym Mae Sain Ffraid gyda Coastal Foraging. Byddwch yn chwilota'r traethlin i ddod o hyd i'r cynhwysion blasus sy'n ffynnu yn ein dyfroedd clir - popeth o lysiau môr blasus megis llyrlys i gregyn bylchog, cocos a wystrys. Mae'r lleoliadau'n amrywio, yn ddibynnol ar y tywydd a'r llanw, felly sicrhewch eich bod yn archebu lle ymlaen llaw.

Taste the wonderful delights at the end of your coastal forage
Blaswch y danteithion bendigedig ar ddiwedd eich taith chwilota arfordirol


Dewch â'ch siwrne i ben yn Nhŷ Ddewi gyda Mordaith Evening Shearwater Cruise i weld miloedd o adar môr yn hedfan o ynysoedd Sgomer a Stokholm. 
 
Awgrymir aros dros nos yn: Tŷ Ddewi

Skomer Island © Crown copyright (2021) Visit Wales
Ynysoedd Sgomer © Hawlfraint y Goron (2021) Croeso Cymru