Ffordd y Gogledd: Trefi a Phentrefi
Gan ddechrau ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr a rhedeg i'r gorllewin am 75 milltir/120km i ben draw Môn, Ffordd y Gogledd yw un o dair Ffordd Cymru sydd wedi'u creu i arwain ac ysbrydoli ymwelwyr. Mae pob 'Ffordd' wedi'u dylunio fel profiad llyfn, nid llwybr sy'n rhaid ei ddilyn, gyda digon o wyriadau oddi ar y prif lwybr fel y gallwch grwydro ymhellach ac yn ddyfnach.
Mae'r deithlen pedwar diwrnod hon yn mynd â chi drwy rai o gymunedau mwyaf bywiog gogledd Cymru. Byddwch yn canfod lleoliadau antur awyr agored, traethau hardd a mannau hanesyddol - oll wedi'u cysylltu gan rai o'n golygfeydd mwyaf ysblennydd.
Diwrnod 1
Bydd eich antur yn cychwyn yn Y Waun, i'r de o Wrecsam, lle y dowch ar draws Castell y Waun, sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Wedi'i adeiladu gan Edward I yn y 13eg ganrif, yn ddiweddarach, daeth yn gartref i'r teulu Myddleton, a adawodd eu marc dros bedair canrif o feddiannaeth.
Gyrrwch ar daith gyda golygfeydd godidog drwy Langollen ar yr A542 dros Fwlch yr Oernant i Ddyffryn Clwyd tua Rhuthun, tref farchnad gyda phensaernïaeth ryfeddol - gallwch weld creadigrwydd lleol yng Nghanolfan Grefft Rhuthun ac ewch dan glo yn nalfa Fictoraidd Carchar Rhuthun.
Yna, teithiwch drwy galon Bryniau Clwyd i'r Wyddgrug, cartref Theatr Clwyd a'r farchnad stryd fwyaf yng Ngogledd Cymru (a gynhelir bob dydd Mercher a dydd Sadwrn).
Awgrymir aros dros nos yn: Mold
Diwrnod 2
Dilynwch yr A451 tuag at yr arfordir yn Abergele, lle y gallwch fynd am dro mewn coedlan (mae cerdded i fyny i Tower Hill yn wych i weld golygfeydd o'r môr), neu fwynhau ar lan y môr Pensarn gerllaw. Arhoswch ar ffordd yr arfordir nes cyrraedd Llandrillo-yn-rhos, cyrchfan fechan berffaith sy'n siŵr o'ch swyno, promenâd Fictoraidd a harbwr bychan.
Cariwch ymlaen ar hyd y traethlin nes cyrraedd Penmaenmawr a'i chefnlen fynyddig. Dyma gyrchfan sy'n ffefryn gan y teulu oll gyda thraeth tywodlyd llydan a digon i ddiddori chwilotwyr ifanc (llogwch un o'r cytiau pren glan y môr am brofiad glan y môr traddodiadol).
Awgrymir aros dros nos yn: Penmaenmawr neu Llanfairfechan
Diwrnod 3
wch draw tua pont hanesyddol Pont Menai (a adeiladwyd gan y pensaer enwog o'r 19eg ganrif, Thomas Telford), a theithio o Fangor draw i Ynys Môn. Yna, ewch draw i Amlwch ar arfordir y gogledd, sy'n dref porthladd dlws a arferai fod yn ganolbwynt i fasnach copr ffyniannus Ynys Môn (dewch i wybod mwy am y gorffennol diwydiannol hwn yn Y Deyrnas Gopr, atyniad treftadaeth gwobrwyedig y dref). Yna, ewch tua'r de i Foelfre, lle y dowch o hyd i ddau draeth prydferth, Traeth Bychan a Thraeth Lligwy. Mae hefyd yn gartref i Siambr Gladdu Lligwy, Cylchoedd Crwm Din Lligwy a Chapel Lligwy; rhai o'r safleoedd hynafol niferus yn Ynys Môn sy'n siŵr o danio'ch chwilfrydedd. Gorffennwch eich diwrnod ym Miwmares. Tref arfordirol llawn steil gyda golygfeydd godidog ar draws y Fenai draw i Eryri - yn ogystal â mawredd Castell Biwmares, sy'n dyddio'n ôl i'r 13eg ganrif, sydd hefyd yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.
Awgrymir aros dros nos yn: Biwmares
Diwrnod 4
Teithiwch yn ôl i'r tir mawr dros Bont Britannia a dilynwch yr A5 i Fethesda. Unwaith yn un o brif ganolfannau diwydiant llechi Gogledd Cymru, bellach, mae'n atynfa i rai sy'n chwilio am antur ac sy'n ymddiddori yn yr awyr agored, lle gallwch reidio ar wifren wib gyflymaf y byd a chael mynediad at gyfoeth o lwybrau cerdded a beicio Eryri. Yna, camwch yn ôl i lawr y dyffryn i'r A4244 tua Llanberis, pentref mynyddig poblogaidd lle mae digon i'w weld a'i wneud - o Reilffordd yr Wyddfa, Rheilffordd Llyn Padarn, Amgueddfa Lechi Cymru a Chastell Dolbadarn a dyfroedd Llyn Padarn.
Yna, gyrrwch i fyny Pen-y-Gwryd ac ar hyd Nant Gwynant (dwy o ffyrdd gorau Eryri am olygfeydd), draw i Feddgelert, sy'n bentref prydferth sy'n cuddio ymysg y bryniau a'r mynyddoedd.
Awgrymir aros dros nos yn: Beddgelert