Ffordd y Gogledd: Siwrne Gymreig

Gan ddechrau ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr a rhedeg i'r gorllewin am 75 milltir/120km i ben draw Môn, Ffordd y Gogledd yw un o dair Ffordd Cymru sydd wedi'u creu i arwain ac ysbrydoli ymwelwyr.  Mae pob 'Ffordd' wedi'u dylunio fel profiad llyfn, nid llwybr sy'n rhaid ei ddilyn, gyda digon o wyriadau oddi ar y prif lwybr fel y gallwch grwydro ymhellach ac yn ddyfnach.

Mae'r deithlen pedwar diwrnod hon yn mynd â chi i lefydd a phrofiadau Cymreig. Wrth i chi deithio, byddwch yn dod wyneb yn wyneb â iaith, diwylliant a threftadaeth na ellir ond dod o hyd iddynt yma yng Nghymru.

Diwrnod 1

Bydd eich siwrne'n cychwyn gyda blas Cymreig yn Siop Fferm Ystâd Penarlâg, lle y dowch o hyd i silffoedd yn drwm o gynnyrch lleol blasus. Ewch ati i ddewis danteithion sydd wedi'u crefftio â chariad (gan gynnwys mêl o gwch gwenyn yr ystâd a phesto wedi'i wneud o garlleg gwyllt) a chydio mewn brechdan wedi'i gwneud â bara wedi'i grasu'n ffres i'ch cadw chi i fynd ar eich taith. Ewch yn eich blaen i Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug, lleoliad celfyddydol a hwb diwylliannol bywiog gyda rhaglen sy'n llawn cerddoriaeth, theatr, comedi a sgyrsiau. Yna, gyrrwch ar hyd yr A451 ar draws Bryniau Clwyd, sy'n llwybr gyda golygfeydd godidog, nes cyrraedd Cadeirlan Llanelwy. Mae gan y gadeirlan, sy'n addoldy ffyniannus hyd heddiw, hanes cythryblus sy'n ymestyn yr holl ffordd yn ôl i'r 6ed ganrif.

St Asaph Cathedral
Cadeirlan Llanelwy


Awgrymir aros dros nos yn: Llandudno neu Conwy

Diwrnod 2

Crwydrwch o amgylch tref hanesyddol Conwy. Ewch i weld Eglwys y Santes Fair (cartref olion abaty mawreddog Abaty Aberconwy a man claddu tywysogion hynafol Gwynedd), a chrwydro ar hyd y strydoedd cul i weld cerflun o Lywelyn Fawr, cyn lywodraethwr Cymru.  Yna, gyrrwch ar hyd y B1506 i Felin Wlân Trefriw - sydd wedi cael ei rhedeg gan yr un teulu ers 1859 - i weld cwrlidau tapestri Cymreig yn cael eu gwehyddu yn y gweithdy (a phrynu rhoddion a chofroddion unigryw o Gymru).

Conwy 
Conwy 

Cariwch ymlaen drwy Fetws-y-Coed i eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Tŷ Mawr Wybrnant ym mryniau Penmachno. Mae'r bwthyn carreg dinod hwn yn hynod ddylanwadol fel man geni'r Esgob William Morgan, y cyntaf i gyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg yn y 16eg ganrif.

Tŷ Mawr Wybrnant
Tŷ Mawr Wybrnant


Awgrymir aros dros nos yn: Bangor

Diwrnod 3

Treuliwch ddiwrnod yn Ynys Môn. Dechreuwch drwy alw draw i Arddangosfa Pont Menai ym Mhorthaethwy sy'n adrodd y stori o groesi'r Fenai dros ddwy bont eiconig (Menai a Britannia). Gallwch gerdded rhwng y ddwy ar hyd darn godidog o Lwybrau Arfordir Cymru ac Ynys Môn.  Yna, ewch draw i Oleudy Ynys Lawd ger Caergybi a chychwyn gyrru ar hyd Llwybr Cylchol Morwrol Gogledd Ynys Môn. Mae'n ymestyn am 46 milltir/74km, gan fynd â chi heibio i rai o gyrchfannau a lleoliadau gogoneddus a mwyaf poblogaidd yr ynys. Mae’r rhain yn cynnwys Melin Llynon, melin wynt sy'n dyddio'n ôl i'r 18fed ganrif, sydd wedi'i thrawsnewid yn drysorfa o fwyd a diod wedi'i wneud yn Ynys Môn.

Awgrymir aros dros nos yn: Moelfre neu Benllech

Diwrnod 4

Ewch yn ôl i Fangor ar y tir mawr i ymweld â Storiel, amgueddfa a chanolfan ddiwylliannol sy'n gartref i amrediad eang o fwy na 10,000 o arteffactau - popeth o waith celf ac archeoleg i ddodrefn a ffotograffiaeth. Yna, ewch i Gaernarfon i weld safleoedd hanesyddol megis Caer Rufeinig Segontium (cadarnle sy'n rhagflaenu'r castell o fil o flynyddoedd), a chrwydro o amgylch siopau Cymreig yn Stryd y Plas. Yna, teithiwch ar hyd y B4418 drwy dirwedd dramatig Dyffryn Nantlle, un o ganolfannau traddodiadol diwydiant llechi Cymru (stopiwch yng Ngwaith Llechi Inigo Jones, Penygroes, i ganfod mwy). Mae Caernarfon a Dyffryn Nantlle yn gadarnleoedd i'r Gymraeg hefyd, felly dyma gyfle i chi gael clywed ein hiaith unigryw yn cael ei defnyddio o ddydd-i-ddydd.

Awgrymir aros dros nos yn: Porthmadog

STORIEL
STORIEL