Eryri, Y Lle Perffaith ar Gyfer Glampio
I ddianc i Eryri mewn ffordd wahanol, rhowch gynnig ar glampio. Mae hyn yn gweddu i'r dim i'r gyrchfan awyr agored hon. Mae cymeriad 'dianc oddi wrth bob dim' glampio yn denu llawer o deithwyr heddiw sy'n chwilio am le agosach at natur mewn dull gwahanol i’r hyn a gynigir gan lety gwyliau confensiynol. Mae'n rhywbeth i bawb ac mae ystod ddyfeisgar o opsiynau ar gael. Ar draws y rhanbarth, fe ddowch o hyd i lety unigryw o bob lliw a llun, gan gynnwys iwrtiau, cytiau bugeiliaid, cabanau pren ac ysguboriau a beudai wedi'u haddasu ar ffermydd gweithredol – hyd yn oed o dan y ddaear mewn ceudyllau.
Mae llawer o'n safleoedd glampio wedi'u cuddio mewn mannau anghysbell, felly crwydro i ganol nunlle yw un o’r ffyrdd gorau i fentro yn agos at ein mynyddoedd, dyffrynnoedd ac arfordir. Maent hefyd yn gynaliadwy, yn aml yn tynnu pŵer a dŵr o ffynonellau adnewyddadwy, felly byddwch yn gwneud eich rhan i ddiogelu ein hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Byddwch hefyd yn helpu'r gymuned leol, yn enwedig os byddwch yn siopa yn un o'r sawl lle sy'n gwerthu cynnyrch lleol.
I'ch helpu i drefnu eich antur nesaf, rydym wedi tynnu sylw at rai o'n lleoliadau glampio isod.
Cytiau Bugeiliaid Brook Cottage, Pwllheli
Glampio i oedolion yn unig
Pam aros yma?
Mae treulio amser gyda'r plant yn wych, ond mae pawb angen ychydig o amser i ffwrdd yn eu gofod eu hunain. Mae Brook Cottage, sydd ar gyfer oedolion yn unig, yn ddelfrydol ar gyfer y gwyliau bach rhamantus i ddau hwnnw yr ydych wedi’i addo i chi eich hun. Ceir dewis o bum cwt â'i arddull unigryw ei hun, gyda phob un wedi'u henwi ar ôl merched o linach tywysog canoloesol Cymru, Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr).
Joan (a enwyd ar ôl brenhines Llywelyn) yw'r mwyaf mawreddog ohonynt, sy'n cynnig gofod haelionus a gwaith crefft cywrain y tu mewn. Neu, ewch am rywbeth clyd yn Elen neu Marared - cytiau llai gydag enwau merched Llywelyn. Beth bynnag a ddewiswch, byddwch wrth eich bodd â'r lleoliad heddychlon ar lan y llyn gyda golygfeydd dros fryniau'r Eifl ar arfordir gogleddol Pen Llŷn.
Dwi eisiau gwybod mwy
Mae Pen Llŷn hyfryd, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, yn un o'r tirweddau mwyaf garw a rhamantus yng Nghymru. Gallwch weld ei glannau wrth fynd am dro ar Lwybr Arfordir Cymru, gwrando ar sŵn 'tywod chwibanllyd' Porthor, a mynd am ddiod wrth lan y dŵr yn Nhafarn Tŷ Coch, Porthdinllaen (un o fariau traeth gorau'r byd yn ôl y sôn).
Forest Holidays Beddgelert
Anturiaethau hygyrch gyda phopeth ar garreg eich drws
Pam aros yma?
Mae'r clwstwr hwn o gabanau sydd wedi'u britho drwy goetir ger Beddgelert yn cyfuno unigedd gwledig gyda mynediad hawdd i ystod enfawr o gyfleusterau a gweithgareddau. Mae'r cabanau pren ar gael mewn amrywiaeth o siapiau a meintiau, o gabanau bach clyd i ddau, i dai o faint anferthol ar gyfer y teulu cyfan. Mae gan bob un ei dwba poeth preifat lle gallwch drochi eich hun dan awyr glir a sêr Eryri.
Gallwch baratoi eich prydau bwyd eich hun yng nghegin a barbeciw'r caban, neu archebu tecawê o'r tŷ pobi ar y safle – mae'r pitsas o bopty tân coed yn arbennig o flasus. Er mwyn sbwylio eich hun yn llwyr, gallwch ddewis cael triniaethau tylino a sba moethus yn y caban.
Dwi eisiau gwybod mwy
Mae yna goedwig llawn gweithgareddau hwyliog i roi cynnig arnynt i anturiaethwyr o bob oed. Ewch i chwilota drwy'r coed, abseilio ar glogwyni creigiog neu goncro un o gopaon Eryri ar daith gerdded dywysedig. Mae hefyd yn bosib llogi beiciau ar y safle i brofi gwefr ar ddwy olwyn. Mae pentref prydferth Beddgelert a bwlch ysblennydd Aberglaslyn gerllaw (ewch ar reilffordd gul Rheilffordd Eryri o'r arosfan leol i gyrraedd yno).
Glampio Coed, ger Aberdaron
Podiau moethus mewn lleoliad trawiadol
Pam aros yma?
‘'Da ni wedi meddwl am bopeth,’ meddai Nia ac Alun, y perchnogion. Mae'n anodd dadlau â hynny pan welwch safon y podiau perffaith yma. Mae yna saith i gyd, gyda phaneli pren ac wedi'u siapio fel corff llong â'i phen i waered. Maent ar gael mewn meintiau amrywiol, yn ddelfrydol ar gyfer dihangfa ramantus i ddau neu ar gyfer teuluoedd.
Mae gan bob un ohonynt welyau cyfforddus, gyda llieiniau 100% cotwm Eifftaidd, tyweli moethus, carthenni Cymreig trwchus, dodrefn steilus a chyfoes, gwres o dan y llawr (ar wahân i'r podiau llosgi coed tân), teledu, a bydd hamper o gynnyrch Cymreig yn aros amdanoch wrth i chi gyrraedd. Y tu allan, fe welwch chi farbeciws a phyllau tân lle gallwch swatio gyda'r nos i syllu ar y sêr.
Dwi eisiau gwybod mwy
Mae cegin gymunedol llawn offer ar y safle, er efallai y byddwch eisiau egwyl o'r coginio a mwynhau pitsas cartref blasus Glampio Coed gyda llond bol o lager lleol Cwrw Llŷn ar ei ôl. Mae'r lleoliad yn fonws arall, yng ngorllewin pellaf Pen Llŷn yn agos i rai o draethau gorau Cymru.
Go Below, ger Blaenau Ffestiniog
Ni chewch gwsg dyfnach na hyn
Pam aros yma?
Yn syml, nid oes unrhyw brofiad gwersylla arall tebyg iddo. Mae'r daith danddaearol unigryw hon yn hanfodol i unrhyw un sy'n chwilio am antur (er efallai y byddwch eisiau osgoi hyn os ydych yn dioddef o glawstroffobia). Ar ôl taith gerdded 45 munud i'r mynydd, byddwch yn gwneud eich ffordd i lawr drwy siafftiau glo segur i geudwll 1,375 troedfedd/419m o dan y ddaear.
Byddwch yn treulio'r noson yn ddwfn o dan y ddaear, naill ai yn un o gabanau pren clyd y gwersyll neu mewn groto trawiadol – ogof breifat wedi'i cherfio o'r graig fyw. Mae hyd yn oed wi-fi ar gael os ydych am gadw mewn cysylltiad â'r hyn sy'n digwydd ar yr wyneb.
Dwi eisiau gwybod mwy
Mae'r disgyniad i'ch arhosiad tanddaearol yn cymryd tua awr a dyna pryd y byddwch yn cerdded ar risiau hen lowyr, pontydd gwichlyd ac yn sgrialu dros dir garw. Peidiwch â phoeni, bydd eich tywysydd a'ch hyfforddwr yn sicrhau eich bod ar y trywydd iawn – ac yn adrodd straeon am orffennol diddorol y mwynglawdd.
Graig Wen, ger Dolgellau
Smorgasbord o opsiynau glampio gwych
Pam aros yma?
Pa bynnag fath o brofiad glampio yr ydych yn chwilio amdano, mae gan Graig Wen bopeth i chi. Mewn llannerch goediog yn edrych dros Aber Mawddach a'r mynyddoedd yn y cefndir, gallwch ddewis o dri iwrt traddodiadol a chwt bugail clyd. Neu, am brofiad mwy diarffordd, dewiswch iwrt neu babell gloch wedi'i chuddio ym mhellafion Graig Wen.
Fel arall, dewiswch antur ychydig yn fwy hygyrch yn un o ddwy wagen chwarel ffasiynol wedi'u lleoli'n agos at faes parcio'r safle a'r prif gyfleusterau gwersylla. Lle bynnag y byddwch yn dewis cysgu am y noson, fe welwch stofiau pren eiriasboeth, blancedi anwesol o grwyn defaid a phyllau gyda thanllwyth o dân i'ch cadw'n gynnes. Ac ar ôl cyrraedd, cewch becyn croeso yn cynnwys cynnyrch lleol.
Dwi eisiau gwybod mwy
Ewch i gerdded neu feicio ar Lwybr Mawddach sy'n rhedeg ar hyd yr aber (mae'n llawn adar, felly peidiwch ag anghofio dod â'ch ysbienddrych). Yn uwch i fyny, mae'n rhaid i chi ymweld â llynnoedd gwynfydedig, ynysig Creggenan. Os ydych eisiau dro sy'n fwy heriol, dringwch gopa garw Cader Idris sy'n esgyn i uchder o 2,930 troedfedd/893m uwchben Dolgellau.
Dod i'ch adnabod - Sarah Hayworth, Graig Wen
Agorodd Sarah a'i gŵr John Graig Wen yn 2007, gan eu gwneud yn arloeswyr sîn glampio Gogledd Cymru.
Beth oedd y syniad tu ôl i Graig Wen? Y syniad oedd cynnig math gwahanol o brofiad gwersylla i bobl. Roedden ni'n gwersylla ein hunain a chawsom ein hysbrydoli o weld y tipis a'r iwrtiau yn y gwyliau cerddorol yr aethom iddynt. Fe wnaethom adael ein swyddi yn Brighton a dechrau chwilio am le posib i osod iwrtiau. Pan gerddon ni i mewn i Graig Wen, roedden ni'n gwybod ein bod ni wedi dod o hyd iddo.
Beth sy'n gwneud Graig Wen yn arbennig? Rydym bob amser wedi ceisio cynnig profiadau cofiadwy a chyfforddus i bobl sydd wedi'u gwreiddio yn synau a golygfeydd y natur o'u cwmpas. Yn hytrach nag atgofion o eistedd mewn twba poeth gyda gwydraid o brosecco, mae ein gwesteion yn cofio dringo mynydd, gwylio'r ystlumod yn gwibio heibio a chlywed tylluanod wrth iddynt eistedd o gwmpas tanllwyth o dân yn edrych ar y sêr.
Beth yw eich hoff ran o'r safle? Ein hiwrt mawr yw'r mwyaf trawiadol. Hwn oedd y strwythur cyntaf i ni ei adeiladu pan ddechreuon ni ac fe'i gwnaed o goed ynn a dyfodd ar ein tir. Mae'n eithaf trawiadol ac mae mewn lle hyfryd mewn llwyn bedw arian.
Plas Weunydd, Blaenau Ffestiniog
Glampio graenus mewn pebyll a chytiau bugail o'r safon uchaf
Pam aros yma?
Mae llawer o resymau. Gadewch i ni ddechrau gyda'r lleoliad - lleoliad dramatig, llawn treftadaeth yn y dirwedd llechi uwchben Blaenau Ffestiniog. Yna, mae gennych chi ddewis. Mae'r pebyll yn gilfannau helaeth ymhell o'r hyn y gallech fod yn gyfarwydd ag ef. Er bod y to wedi'i wneud o gynfas, mae'r lloriau pren wedi'u sgleinio, mae yma ystafelloedd ymolchi ensuite a stofiau llosgi coed felly mae aros yma yn rhywbeth llawer mwy na'r profiad gwersylla traddodiadol. Maent yn agor ar ddeciau preifat sy'n edrych dros chwareli llechi geirwon a chopaon esgynnol Eryri. Mae yna hefyd le i'ch cyfeillion pedair coes a chysylltiad wi-fi (rhag ofn nad ydych eisiau bod oddi ar y grid yn rhy hir).
Mae cytiau'r bugail, a ddyluniwyd yn arbennig ar gyfer dau berson, yn encilion rhamantus sy'n sgorio'n uchel o ran steil ac arwahanrwydd. Y tu mewn i'r cabanau clyd hyn fe welwch welyau mawr meddal, ceginau â digon o gyfarpar a stofiau llosgi coed i'ch cynhesu. Ewch allan i ganfod eich barbeciw nwy eich hun a golygfeydd di-ben-draw ar draws copaon a dyffrynnoedd Eryri. Yn hunangynhaliol ac wedi'i bweru gan fatris wedi'u gwefru â phŵer trydan dŵr cynaliadwy, mae bygi golff gan bob un i'ch helpu i grwydro ar y tir garw sydd o’ch cwmpas.
Dwi eisiau gwybod mwy
Ar ôl cyrraedd, cewch becyn croeso yn cynnwys cynnyrch lleol. Dim ond tafliad carreg o atyniadau antur fel Zip World Llechwedd a chanolfan feicio Antur Stiniog yw'r llety. Rydych hefyd mewn lle perffaith ar gyfer teithiau cerdded ysbrydoledig yn Nhirlun Llechi Gogledd Cymru, un o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO mwyaf newydd y DU. Ewch o dan ddaear yng Ngheudyllau Llechwedd am gipolwg ar y diwydiant a oedd unwaith yn rhoi to ar y byd. Yna, ewch ar daith ar lein gul Rheilffordd Ffestiniog, neu ymweld â phentref Eidalaidd Portmeirion. A phan ddaw'r nos, mae eich llety yn ddelfrydol ar gyfer syllu ar y sêr.
Snowdonia Glamping Holidays, ger Betws-y-Coed
Glampio lle gallwch chi wir ddianc rhag y cyfan
Pam aros yma?
Heb signal ffôn, wi-fi, teledu na hyd yn oed radio, mae Snowdonia Glamping Holidays yn cynnig dihangfa lwyr rhag yr hyn sy’n tynnu ein sylw mewn bywyd modern. Ar gyfer diangfeydd i gyplau, mae yna ddau gwt bugail gyda stofiau llosgi coed a cheginau awyr agored wedi’u gorchuddio. Mae’n fwy na dîtocs digidol yn unig. Mae gan bob cwt hefyd ei sawna pren ei hun lle gallwch chwysu’r straen dyddiol hwnnw o’ch corff.
Gall partïon mwy ddewis un o ddwy ysgubor glampio bwtîc, gyda llefydd tân canolog trawiadol a gwres o dan y llawr. Bydd oedolion wrth eu boddau â'r gwelyau mawr eang, tra bydd ymwelwyr iau yn mwynhau noson neu ddwy mewn gwelyau bync wedi'u cuddio'n ddyfeisgar mewn tyllau cuddio pren.
Dwi eisiau gwybod mwy
Mae'r lleoliad oddi ar y grid yn gwneud hwn yn lle gwych ar gyfer syllu ar y sêr a sylwi ar natur – chwiliwch am y tylluanod gwyn preswyl sy'n plymio drwy'r caeau. Neu ewch i bentref Alpaidd Betws-y-Coed, y porth i Eryri a man cychwyn anturiaethau awyr agored di-ri ar draws y rhanbarth.
Podiau Gwersylla Zip World, Dolgarrog, ger Llanrwst
Gwersylla ar dir coediog heb y cynfas
Pam aros yma?
Caru gwersylla, ond yn casáu codi pebyll a chysgu ar fatres aer sy'n gollwng? Os felly, Podiau Gwersylla Zip World yw'r dewis i chi. Yn swatio yng nghanol y coed yng nglesni Dyffryn Conwy, mae'r podiau pren clyd hyn – sydd â gwres a thrydan – yn mynd â chi yn ôl i fyd natur heb yr angen i aberthu cysuron eich cartref.
Mae mwy na 30 pod, gyda phob un yn cysgu hyd at bedwar o bobl (maent yn croesawu cŵn hefyd, felly nid oes raid i'ch cydymaith pedair coes golli'r hwyl).
Dwi eisiau gwybod mwy
Mae lleoliad y podiau yn Zip World Conwy yn eu gwneud yn lleoliad perffaith i aros os ydych am gael anturiaethau a chrwydro. Mae ystod o weithgareddau dan do ac awyr agored Zip World yn cynnwys waliau dringo, rhaffau uchel a'r Adrenaline Drop gwefreiddiol, cwymp cyffrous o dŵr 40 troedfedd/12m uwchben y coed. Hefyd, rydych ar ymyl Coedwig Gwydir, ardal sy'n frith o lwybrau cerdded a beicio.
Zip World Forest Lodges, Betws-y-Coed
Cuddfannau gyda thwba poeth yng nghanol y goedwig
Pam aros yma?
Dyma bluen arall yn het y bythol-fentrus Zip World. Rywsut, mae'r cabanau unigryw hyn yn llwyddo i fod yn drawiadol yn weledol ac asio'n berffaith â'u hamgylchedd yn y goedwig ar yr un pryd. Mae'r strwythurau pren crymion bron yn un â'r coed, tra bod y waliau gwydr o'r llawr i'r nenfwd sy'n gwahanu'r ardaloedd byw o'r dec eang yn sicrhau bod modd gweld y goedwig bob amser.
Y ffordd orau o fwynhau'r lleoliad coetir gwych hwn yw ymlacio yn y twba poeth. Mae wedi'i leoli mewn safle delfrydol ar y dec, gyda golygfeydd dros y coed a thraw tua llethrau Moel Siabod.
Dwi eisiau gwybod mwy
Mae'r coetir yn atyniad ynddo'i hun, ond mae llu o weithgareddau i'w mwynhau hefyd yn Zip World Betws-y-Coed. Gallwch groesi'r canopi ar y Zip Safari ar frigau'r coed, mentro ar gwymp 100 troedfedd/30m drwy drapddor Plummet neu reidio ar y Fforest Coaster sy'n cael ei bweru gan ddisgyrchiant. Ac ar ben hynny, mae cyrchfan fynydd fywiog Betws-y-Coed gerllaw sy'n llawn siopau (mae'n lle gwych i brynu offer awyr agored), caffis ac atyniadau.