Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionedd 2023
- 5 Awst 2023 - 12 Awst 2023
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn ddathliad o ddiwylliant a’r iaith yma yng Nghymru ac fe’i chynhelir yn ystod wythnos gyntaf Awst bob blwyddyn.
Yr Eisteddfod yw’r ffenest siop berffaith i gerddoriaeth, dawns, celfyddydau gweledol, llenyddiaeth, perfformiadau gwreiddiol a llawer mwy. Gan gwmpasu pob agwedd ar y celfyddydau a diwylliant yng Nghymru, mae'n ŵyl gynhwysol a chroesawgar, sy'n denu miloedd o ddysgwyr Cymraeg a'r rhai nad ydynt yn siarad yr iaith, yn ogystal â siaradwyr Cymraeg bob blwyddyn. Ceir offer cyfieithu yn y Pafiliwn yn ystod yr wythnos, a chanolfan arbennig ar gyfer dysgwyr ar y Maes.