Dovey Inn
- 1 Stars
- 2 Stars
- 3 Stars
Wedi ei leoli yng nghanol pentref Aberdyfi, yn y Dovey Inn, gallwch ddeffro i olygfeydd heb eu hail ar draws aber hardd yr Afon Dyfi. Mae pob un o'r deg ystafell en-suite yn cynnwys cyfleusterau gwneud te a choffi, wi-fi am ddim a theledu. Ar ôl noson gyffyrddus o gwsg, beth am ymlacio gyda brecwast Cymreig wedi'i goginio. Mae'r Dovey Inn hefyd yn gweini griliau gwych a chlasuron tafarn.