Dolgellau

Tref sy’n mynd o nerth i nerth. Adlewyrchir ei hagwedd flaengar yn yr ystod o ddigwyddiadau a gwyliau lleol, gweithgareddau awyr agored a lleoedd i aros a chael bwyd, sy’n gwella byth a beunydd. Ond adnoddau naturiol Dolgellau yw ei chaffaeliad pennaf o hyd. Mae’r dref farchnad hardd o garreg dywyll wedi’i lleoli islaw Cader Idris, y ‘Gader Idris’ chwedlonol, sy’n agosáu at aber y Fawddach yn ei holl ogoniant. 

Dolgellau yw yn un o’r canolfannau mwyaf hwylus i archwilio holl Fynyddoedd ac Arfordir Eryri – ond peidiwch â cholli allan ar y mannau prydferth lleol megis Llwybr Cynwch a Thrywydd y Fawddach ar hyd glannau’r dŵr am 9½ milltir i Abermaw (ceir hefyd Llwybr Mawddach sy’n hirach ac yn fwy mynyddig). Mae beicio a merlota yn boblogaidd yn lleol hefyd – mae Dolgellau yn ganolfan ddewisol arbennig ar gyfer ‘Gwyliau Beicio’ gydag amrediad gwych o lwybrau ar y ffordd ac oddi ar y ffordd.

Mae Parc Coedwig Coed y Brenin gerllaw, gyda llwybrau beicio mynydd i bobl o bob gallu ynghyd â llu o atyniadau a chyfleusterau awyr agored eraill, sy’n cynnwys llwybrau y gellir lawrlwytho ffeiliau sain MP3 ar eu cyfer. Yn ôl yn y dref, edrychwch allan am Tŷ Siamas.