Dod o hyd i’r Hwyl yn Eryri a Phen Llŷn
Ydy hi’n hen bryd i chi ddod o hyd i dipyn o hwyl? Os felly, Eryri a Phen Llŷn yw’r lle i ddod. Mae yma rywbeth rownd bob cornel, o hwyl hamddenol i’ch helpu chi i ailgysylltu gyda natur, i hwyl sy’n gwneud i’r galon guro’n gyflym. Dewch gyda ni i ddarganfod mwy am yr hyn sydd i’w wneud yn yr ardal hon.
Beth am ddiwrnod llawn antur i’r teulu oll i ddechrau arni? Mae llwyth o leoliadau diguro ar hyd y fro, megis Parc Glasfryn ger Pwllheli, sy’n berffaith ar gyfer diddanu pobl ifanc a phlant yn eu harddegau. Draw yng nghyffiniau Caernarfon wedyn mae Parc Teulu Gelli Gyffwrdd yn cynnig llithren ddŵr, reid trwy’r goedwig a llawer mwy, tra bod cyfle i gael trip ar y trên bach a chwrdd â’r anifeiliaid ym Mharc y Sipsiwn. Ac os yw’r tywydd yn troi, does dim rhaid i’r hwyl ddod i ben; mae’r Hwylfan yn lleoliad chwarae meddal dan do poblogaidd iawn yng nghanol tref Caernarfon, gyda chaffi ar y safle gallwch dreulio oriau yn ymlacio yno tra bod y plant yn cael modd i fyw.
Draw heibio traeth Dinas Dinlle wedyn mae lleoliad difyr arall, sef Maes Awyr Caernarfon! Gallwch fynd ar drip mewn hofrennydd er mwyn gweld y fro o’r awyr, neu ymlacio gyda phaned yn y caffi ar y safle wrth wylio’r awyrennau a’r hofrenyddion yn codi a glanio. Dyma gartref Amgueddfa Awyrennol Caernarfon hefyd; gallwch dreulio’r prynhawn yma yn archwilio awyrennau’r gorffennol – gan gynnwys eistedd yn sedd y peilot! Os yw’n well gennych chi gadw eich traed ar y ddaear, beth am fynd draw am gêm o Golff Giamocs ym Morthmadog, neu roi cynnig ar golff frisbi neu golff troed draw yn Criccieth Multi Golf?
Weithiau dim ond un math o hwyl sy’n gwneud y tro; hwyl sy’n gwneud i’ch calon guro! Ac mae digonedd o hwnnw yn aros amdanoch yma. Os mai dringo mynyddoedd yw’r hyn sy’n eich cyffroi, yna galwch draw yn Snowdonia Adventure Activities neu Ropeworks Active yn Llanberis. Gall y criwiau yma eich arwain yn saff i ben unrhyw gopa, ac maent yn cynnig nifer fawr o weithgareddau anturus eraill hefyd, gan gynnwys sgrialu trwy geunentydd, mynd ar gwch mewn ogofau tanddaearol, dringo ar gwrs rhaffau neu greigiau, caiacio a llawer mwy. Mae’n werth taro golwg ar ganllawiau Mentra’n Gall hefyd, i sicrhau diwrnod gwych a diogel i’r teulu cyfan.
Os nad yw hynny’n ddigon, beth am fentro draw i Zip World? Fyddwch chi’n ddigon dewr i fynd ar wifren wib gyflyma’r byd?! Neu ar reid mewn cart gwyllt trwy’r goedwig? Ewch draw i’r wefan nawr i ddewis antur. A sôn am antur, beth am roi tro ar feicio mynydd draw gydag Antur Stiniog ym Mlaenau Ffestiniog ble mae 14 o lwybrau beicio mynydd lawr allt wedi eu graddio o wyrdd i ddu, neu yng Nghoed y Brenin ger Dolgellau? Ar ôl llogi beic ac offer, does dim amdani ond mentro ar hyd y llwybrau a phrofi’r hwyl!
Ar ôl yr holl gyffro efallai y byddwch yn ysu am hwyl hamddenol, i’ch helpu i ailgysylltu gyda natur. Os felly does unman gwell na Parc Padarn yn Llanberis, neu Barc Glynllifon. Dau leoliad godidog sy’n cynnig llefydd braf i fynd am dro, ymlacio a mwynhau’r byd natur o’ch cwmpas. Mae parciau i’r plant chwarae, caffi, ac ambell siop yn gwerthu cynnyrch lleol hefyd felly cofiwch eich waled! Os ydych chi’n dod â’ch cyfaill bach blewog am dro, cofiwch ddilyn y cod cerdded cŵn i sicrhau diwrnod da i bawb.
Sôn am blant, os oes rhai bach yn eich teulu chi, fe wyddoch nad oes dim yn well ganddynt nac anifeiliaid. Am ddiwrnod heb ei ail ewch am dro i Barc Fferm y Plant yn Harlech; yma caiff y plant gwrdd â’r geifr a mwytho’r cwningod, cyn treulio oriau yn chwarae tu mewn a thu allan. Lle arall gwych i fynd a rhai sy’n gwirioni ar anifeiliaid yw’r Fferm Gwningod yn Llanystumdwy. Peidiwch â chael eich twyllo gan yr enw, mae llawer mwy na dim ond cwningod yma. Caiff y plantos gyfle i weld ŵyn, moch bach, adar, lamas, ceffylau, mulod a mwy. Ac os ydych chi’n hoff o fulod, mae’n rhaid i chi alw yn Noddfa Mulod Moelyci, ble cewch chi helpu i fwydo’r mulor a’r asynod, eu tywys am dro a mwynhau bod yn eu cwmni tawel. Mae caffi da ar y safle hefyd, a sawl llwybr braf i fynd am dro gan gynnwys Lôn Las Ogwen.
Does dim yn rhoi gwefr fel mentro o dan y ddaear, ac mae nifer fawr o lefydd yn cynnig hwyl felly yn Eryri. Dyna i chi Chwarel Gopr Sygun ger Beddgelert, a Chwarel Llanfair ger Harlech. Dau le sy’n saff o roi profiad bythgofiadwy i chi. Safle arall sy’n cynnig diddanwch o bob math, gan gynnwys trip o dan y ddaear ydi Labyrinth Brenin Arthur. Gwisgwch eich het galed a chamu ar y cwch er mwyn teithio nôl mewn amser i glywed rhai o chwedlau’r Brenin Arthur yn awyrgylch iasol yr ogofau tanddaearol! Mae caffi, parc chwarae a chanolfan grefftau yma hefyd felly mae’n werth gwneud diwrnod llawn ohoni. Os ydych chi’n awyddus i weld mwy o’r hyn sydd dan ein traed, Labyrinth y Brenin Arthur ger Corris yw cartref Corris Mine Explorers hefyd; ffordd hwyliog ac ymarferol o ddysgu am hanes cloddio llechi’r ardal wrth i chi grwydro trwy’r twneli a gloddiwyd gyda llaw nôl ym 1830. Bachwch eich fflachlamp!
Os ydych chi’n ysu am gael byw yn y foment, a theimlo hud yr ennyd, does dim gwell nac ymgolli mewn gweithgareddau dŵr. Wrth ganolbwyntio’n llwyr ar y gweithgaredd, bydd prysurdeb a straen bywyd yn prysur ddiflannu, a dim ond yr hwyl ar ôl. Ewch amdani felly ym Mhlas Menai, Boulder Adventures, Canolfan Tryweryn neu Ganolfan Gweithgareddau Dŵr Llyn Tegid. O Gaernarfon i Lanberis ac Y Bala, mae gweithgareddau dŵr ac antur di-rif yn aros amdanoch, gan gynnwys hwylio, caiacio, canŵio, rafftio, sgramblo’r arfordir neu geunentydd a mwy!
Wedi’r ffasiwn gyffro efallai mai profiad mwy hamddenol fyddwch chi’n ysu amdano nesaf, hwyl sy’n eich tawelu a’ch ymlacio yn llwyr. Does dim yn well i wneud hynny na thrip trên; mae digonedd o ddewis yn y fro, o drên bach yr Wyddfa, i Reilffyrdd Ucheldir Cymru. Paciwch eich ’sbienddrych a’ch picnic, eisteddwch yn ôl a theimlwch yr hwyl!
Sôn am drenau, cofiwch bod modd teithio i nifer fawr o’r lleoliadau hyn ar drafnidiaeth gyhoeddus. Gallwch brynu un tocyn sy’n eich caniatáu i deithio ar fysiau a threnau am ddiwrnod, neu beth am weld os oes modd i chi ddefnyddio’r gwasanaeth Fflecsi? Gydag unrhyw ymholiadau trafnidiaeth gyhoeddus codwch y ffôn ar griw cyfeillgar Traveline Cymru ar 0800 464 00 00.
Mae ein cestyll niferus hefyd yn cynnig profiad o hwyl hamddenol wrth i chi grwydro i’r gorffennol, a dysgu mwy am y brwydrau a fu. Mae cestyll Caernarfon, Criccieth, Dolbadarn a Harlech i gyd yn werth eu gweld.

Gellir dadlau nad oes unman gwell yn y byd i gyd i wylio’r machlud gydag enaid hoff cytûn nac ar draethau ac arfordir Llŷn ac Eryri. Ymgollwch yn y foment a theimlo hud yn ennyd ar draethau Porthdinllaen, Criccieth, Aberdaron, Porth Neigwl, Mochras… wel, mae’r rhestr yn hirfaith.


Profiad gwefreiddiol yw teimlo hwyl mewn gŵyl; dawnsio gyda dieithryn, rhannu llymaid gyda ffrind neu glywed cerddoriaeth newydd sbon. Mae’n ddiguro! Lle heb ei ail am ddiwylliant ac adloniant yw Eryri. Mae yma ganolfannau adloniant niferus sy’n cynnig digwyddiadau byw gydol y flwyddyn, heb sôn am yr holl wyliau a digwyddiadau a gynhelir ar hyd a lled y fro trwy fisoedd yr haf. O Ŵyl Fwyd Caernarfon i Sesiwn Fawr Dolgellau; cynlluniwch eich trip, a dewch o hyd i’r hwyl.