Dinas Mawddwy

Pentref mewn lleoliad Alpaidd ei naws ymhlith llechweddau coediog serth. Mae canolfan grefftau fawr mewn hen felin wlân yn atyniad poblogaidd. Mae’n ganolfan deithio ddelfrydol sy’n agos i ddau fwlch enwog Bwlch yr Oerddrws i’r gogledd-orllewin a Bwlch y Groes, y bwlch uchaf yng Nghymru, sydd hyd yn oed yn fwy trawiadol, i’r gogledd-ddwyrain.

Pont Minllyn

Ewch draw i weld Pont Minllyn, Pont gul ar draws Afon Dyfi yn Ninas Mawddwy adeiladwyd gan Dr John Davies ar ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg. Mae’r pentref bychan hefyd yn ganolfan dda ar gyfer cerdded gan gynnwys wyth cylchdaith newydd, pysgota a beicio mynydd, gyda thrywyddau heriol yng Nghoedwig Dyfi sydd gerllaw.

Hefyd yn gartref i ddigwyddiad Red Bull Hardline sydd wedi denu reidwyr MTB gorau a dewraf y byd i lawr yr allt.

Map Llwybrau Cerdded